Bywyd yn y dŵr

Mae dŵr yn gynefin naturiol i mi - ac mae gallu nofio yng Nghymru, a gwneud hynny mewn lleoliadau mor hardd, yn gwneud i mi sylweddoli pa mor ffodus ydw i. Rydw i mor falch fy mod i wedi cael y cyfle i greu ffilm gyda’r Bluetits yn Harlech. Dyna’r tro cyntaf i mi nofio yno, ac fe gefais i fy rhyfeddu. Yn ogystal â nofio o draeth Harlech gyda’r clwb, cefais gyfle i ddefnyddio’r pwll awyr agored ym Mhortmeirion. Roeddwn i’n teimlo’n gartrefol iawn.

Ymunodd y nofiwr Olympaidd Jazz Carlin ag aelodau clwb Bluetits Chill Swimmers i fynd i nofio oddi ar draeth Harlech.

Dim Angen Siwt Ddŵr

Nofwyr oer yw’r Bluetits. Dydyn nhw ddim yn credu mewn siwtiau dŵr, er eu bod yn y môr bob tymor o’r flwyddyn. Cefais sioc pan gyrhaeddais a gweld mai dim ond gwisg nofio yr oedd pawb yn ei gwisgo; rydw i wedi arfer â bod mewn pwll wedi’i wresogi. Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n oer, ond doeddwn i ddim o gwbl. Roedd tymheredd y dŵr yn tua 17 neu 18 gradd, dwi’n meddwl. Roedd yn od - rydych yn cael rhyw deimlad rhyfedd o gynhesrwydd, a phan fyddwch yn dod allan o’r dŵr rydych chi'n teimlo wedi adfywio, ac yn llawn egni. Ar ôl nofio gwnaethom ni dân ar y traeth, felly doedd dim perygl y byddem yn oeri wrth sychu!

Dwy fenyw yn eistedd ar y traeth mewn gwisgoedd nofio a thywelion ar ôl nofio
Grŵp o fenywod yn eistedd ar y traeth mewn gwisgoedd nofio a thywelion ar ôl bod yn nofio

Sychu ar ôl nofio, traeth Harlech

Rhan o’r teulu

Roedd yn brofiad arbennig iawn i gwrdd, a nofio, gyda’r Bluetits. Menywod o bob oed, o gefndiroedd gwahanol iawn ydyn nhw, ond mae un peth sy’n gyffredin rhyngddynt: maent wrth eu bodd yn y dŵr. Mae rhai wedi bod yn nofio gydol eu hoes, ond roedd eraill newydd ddysgu nofio ychydig fisoedd yn ôl. Roedd hi fel petawn i'n ymuno â’u teulu. Maen nhw'n gwahodd ymwelwyr i ymuno â nhw gydol y flwyddyn felly mae’r teulu’n tyfu.

Menywod yn sefyll ar dwyni tywod yn edrych i mewn i'r camera

Mae'r Bluetits yn fenywod o bob oed, ac yn dod o gefndiroedd gwahanol, ond mae ganddynt un peth yn gyffredin: maen nhw'n dwli bod yn y dŵr.

Pobman yn glir

Yr hyn â’m synod i ynglŷn â thraeth Harlech oedd pa mor dawel oedd hi. Bûm yn byw yn Abertawe am saith mlynedd a hanner, ac mae gen i lawer o atgofion melys o nofio ar arfordir Penrhyn Gŵyr. Roedd gennym ni draethau godidog megis Caswell, Rhosili a Llangynydd ar garreg ein drws, ond maen nhw'n boblogaidd iawn yn yr haf. Yn Harlech, gwelsom ni fawr neb arall. Roedd yn ddiwrnod tawel ac roedd hynny’n hyfryd. Mae gan Gymru gymysgedd o draethau tywod mawr a childraethau tawel, llai.

Llun o fenywod mewn gwisgoedd nofio yn rhedeg i mewn i'r môr

Nofio gyda'r Bluetits, traeth Harlech

Dyfroedd dieithr

Nawr fy mod i wedi ymddeol o nofio cystadleuol, rwy’n awyddus i ddarganfod mannau newydd lle gallaf nofio mewn dŵr agored. Rydw i eisiau archwilio ychydig mwy ar hyd arfordir Sir Benfro. Mae yna faeau tawel, rhyfeddol yng ngogledd y sir.

Ar frig y don

Mae nofio yn sicr yn tyfu yng Nghymru. O ran cystadlu, mae’r canlyniadau wedi bod yn rhyfeddol, ac rwy’n credu mai gwella eto wnaiff hyn. Rwy’n gweithio gyda Nofio Cymru ar y rhaglen ddatblygu elît, gan roi’r ffydd a’r hyder i nofwyr addawol y gallant wneud yr hyn rydw i wedi ei wneud. Rydw i wrth fy modd yn mentora’r nofwyr ifanc. Dwi hefyd yn gweithio ar blatfform hyfforddiant nofio ar-lein a fydd yn rhoi mynediad i bawb at sesiynau hyfforddi, sy’n cynnwys ffisiotherapyddion, maethegwyr a gwyddonwyr chwaraeon o’r radd flaenaf.

Dyna sydd mor arbennig am nofio – mae’n dod â phobl ynghyd."

Pawb yn y dŵr

Nid dim ond ar gyfer athletwyr elît mae nofio. Gallwch fynd i bwll nofio a gweld babi yn y dŵr am y tro cyntaf a phlentyn pump oed yn dysgu nofio’n iawn, ochr yn ochr â phobl o bob oed. Does dim cyfyngiadau – mae fy nhad yn dal i fwynhau gwneud ei lengths! Mae pob math o resymau pam fod pobl yn nofio. Pan oeddwn i’n iau, roedd yn ffordd o ddianc rhag straen bob dydd, fel gwaith cartref. Gall hefyd fod yn rhywbeth cymdeithasol, fel y gwelir gyda’r Bluetits. Dyna sydd mor arbennig am nofio – mae’n dod â phobl ynghyd.

Grŵp o fenywod gyda'u cefn i'r camera yn rhedeg i mewn i'r môr

Nofio gyda'r Bluetits, traeth Harlech

Byddwch yn ddiogel: parchwch y dŵr

Mae nofio mewn dŵr agored yn wahanol iawn i nofio mewn pwll, felly mae'n syniad da nofio mewn lleoliad wedi’i drefnu lle bydd criw diogelwch yno i roi arweiniad.

Ein prif gynghorion ar gyfer bod yn ddiogel wrth nofio mewn dŵr agored yw:

  • Nofio gyda phobl eraill bob tro – y 'system bydi' yw’r un orau;
  • Gwisgo het lachar (gwyrdd ac oren yw’r rhai gorau) a defnyddio fflôt tynnu fel y gall defnyddwyr dŵr eraill eich gweld;
  • Mynd i mewn i’r dŵr yn araf a chaniatáu amser i’ch corff ddod i arfer â’r dŵr oer;
  • Gwirio amserau’r llanw cyn nofio yn y môr neu mewn aberoedd;
  • Os ydych mewn trafferthion yn y dŵr, peidiwch â chynhyrfu, arhoswch yn ddigynnwrf; ceisiwch dynnu sylw drwy godi eich llaw a gweiddi am help.

Ewch i wefan AdventureSmart.UK am yr holl wybodaeth rydych ei hangen i’ch helpu i wneud eich antur yng Nghymru yn un ddiogel a hwyliog!

Straeon cysylltiedig