Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu byd bwyd Caerdydd yn destun chwyldro tawel. Ledled y ddinas, mae bwytai annibynnol yn rhoi gwell blas ar y brifddinas. Dim ond ychydig o wybodaeth leol sydd ei hangen i’w darganfod – ac mae Jane Cook, y blogiwr sy’n gyfrifol am Hungry City Hippy, yn gwybod yn union ble i edrych.

 

Llun o Jane Cook, Hungry City Hippy

Jane Cook ym Marchnad Ganolog Caerdydd

Rhywbeth arbennig...

Heaneys

Bu Tommy Heaney, seren Great British Menu y BBC o Ogledd Iwerddon, yn rhedeg bwyty uchel ei glod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, nes bod lle gwag yng Nghaerdydd yn ormod iddo ei anwybyddu. O fewn wythnosau, roedd wedi codi £40,000 drwy gyllido torfol i ailwampio ei fwyty â 50 lle, a’i far coctels newydd. Agorodd Heaneys i ganmoliaeth helaeth yn 2018. Disgwyliwch blatiau rhannu bychain drwy gydol yr wythnos, ac ar ddydd Sul, cinio rhost llawn gyda’r trimins i gyd.

Eisiau rhywbeth llai ffurfiol? Ewch ddrws nesaf i Uisce (sydd hefyd yn berchen i Tommy a'r tîm) am blatiau bach a rhestr wych o winoedd wrth y gwydr.

llun o'r tu allan i fwyty Heaneys, Caerdydd.

Heaneys, Caerdydd

Y Dosbarth

Dafliad carreg o orsaf Caerdydd Canolog, ar lawr uchaf Coleg Caerdydd a’r Fro, mae cogyddion dyfodol Cymru wrthi’n brysur yn meistroli eu crefft. Bwyty gweithiol yw Y Dosbarth ond, yn bennaf, mae'n faes hyfforddi i fyfyrwyr arlwyo’r coleg. Mae’r prydau bwyd a ddaw allan o’r gegin bob amser yn dymhorol, yn greadigol ac wedi’u cyflwyno’n hardd, ac mae’r golygfeydd o’r ffenestri panoramig yn golygu bod bwyta yma yn brofiad cwbl gofiadwy.

Nook

Mae Nook yn ‘fwyty platiau bach’ clyd ar Cowbridge Road East Treganna, a argymhellir gan Michelin, sy’n ymfalchïo mewn arddangos y gorau o gynnyrch lleol tymhorol. Mae hefyd yn cynnig dewis eang o winoedd naturiol, sydd ar gael i'w prynu i fynd adra hefyd. Mae'r fwydlen yn rhoi cynnyrch tymhorol wrth ei wraidd, ac mae'n llysieuol yn bennaf, gydag un pryd cig a physgod bob wythnos fel arfer.

Thomas by Tom Simmons

Ar ôl ennill clod am ei fwyty yn Tower Bridge Llundain, penderfynodd Tom agor lle yng Nghymru. Yn Thomas mae'n coginio prydau wedi'u hysbrydoli gan Ffrainc a wneir gyda chynhwysion Cymreig ffres lleol. Mae wedi'i gyflwyno'n hyfryd ac wedi’i goginio gydag angerdd. Mae'r bwyty’n foethus, tra bod y bar i lawr y grisiau yn fwy hamddenol ac anffurfiol. Os yw'r cig eidion neu'r wellington figan ar y fwydlen, rhowch gynnig arni. Mae'n fendigedig!

Rhywbeth hamddenol...

La Pantera

Mae’r tŷ taco a thequila yma yn galw ei hun yn ‘gartref y taco annilys’ - gan ymfalchïo mewn cynnig cyfuniadau blas na fyddai unrhyw un yn eu disgwyl - fel ffigys balsamig melys a thatws rhost rhosmari. Mae'r ystod eang o mezcals, cerddoriaeth glamrock, a waliau lliwgar wedi'u haddurno â masgiau reslo Mecsicanaidd yn rhoi awyrgylch eclectig i La Pantera.

Milkwood

Mae Milkwood yn ganlyniad breuddwyd tri ffrind i redeg eu bwyty cymunedol clyd eu hunain. Ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio i bobl eraill fe wnaethant wireddu eu breuddwyd yn 2017. Ers agor ym Mhontcanna, mae'r perl bach yma wedi plesio ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Mae Cerys, Tom a Gwyn yn cynnig cynnyrch tymhorol, cysurus wedi’i goginio’n syml â sgil. 

The Grange

Gan yr un perchenogion â Milkwood y daw The Grange, sef tafarn gymunedol a achubwyd rhag dirywiad yn y modd mwyaf bendigedig posibl, gan gipio gwobr CAMRA am Dafarn y Flwyddyn Caerdydd ychydig dros flwyddyn ar ôl ailagor. Mae'r cyfuniad atyniadol o brydau bwyd sylweddol, awyrgylch diffwdan, cwrw go iawn, a gemau tafarn hen ffasiwn yn gweithio – ac fe enillodd tafarn arall y perchnogion, The Lansdowne, yr un wobr yn 2017.

Rhywbeth gwahanol...

Y Triongl Sbaenaidd

Mae triawd o fwytai Sbaenaidd gwych o gwmpas Heol y Porth: Asador 44Bar 44 a Curado. O’u cyfuno, cewch brynhawn hyfryd o eistedd mewn bariau, sipian sieri a chnoi tapas yn y gornel braf hon o ganol y ddinas. Ar gyfer achlysur arbennig, anodd yw curo awyrgylch, gwasanaeth a steciau chuletón Rubia Gallega rhyfeddol Asador 44. Yn y cyfamser, mae tapas Bar 44 i’w rhannu yn ffefryn ymhlith parau, a byrbrydau diffwdan (sy’n cael eu galw’n pintxos yn rhanbarthau gogledd Sbaen) yw’r arbenigedd ym mar hamddenol Curado. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n galw am ddiod drws nesaf - i'w bar bach clyd Vermut

Cogydd yn Asador 44 gyda phlatiaid o fwyd
Person yn gweini coctels mewn bar crand.

Asador 44, Caerdydd

Y Milltir Fwyd Rhyngwladol

Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth grŵp gais i ail-frandio Heol y Plwca Y Rhath fel ‘milltir fwyd rhyngwladol’ y ddinas. Y rhan hon o'r dref yw lle mae’r bobl leol yn dod i wledda. Mae’r bwydydd yn amrywio o Japaneaidd i Asiaidd i Dwrcaidd - felly mae taith i Heol y Plwca yn wahoddiad i fwyta'ch ffordd o amgylch y byd.

Marchnad Ganolog Caerdydd

Ers dros 100 mlynedd, mae Marchnad Caerdydd yn gartref i gigyddion, gwerthwyr llysiau, gwerthwyr pysgod a phobyddion, yn ogystal â nifer o stondinau bwyd sy’n gweini cinio cyflym a blasus i weithwyr canol y ddinas.

Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, daeth bywyd newydd i’r farchnad. Mae siopwyr eco-ymwybodol yn troi cefnau ar yr archfarchnadoedd ac yn dychwelyd i’r farchnad i brynu cynnyrch lleol sy’n llawer llai tebygol o gael ei orchuddio â deunydd plastig. Yn y cyfamser, mae criw o gaffis a chynhyrchwyr newydd wedi ymgartrefu yn yr adeilad Fictoraidd trawiadol hwn. Mae Ffwrnes ar falconi’r llawr cyntaf yn cynnig pizza ffres o ffwrn bren ac mae Franks yn arbenigo mewn cŵn poeth Americanaidd mewn byns wedi'u gwneud yn lleol. Mae'r Greenery Kitchen yn cynnig fersiynau figan o fwyd stryd o bob cwr o'r byd ac mae Bakestones yn gweini cacenau cri traddodiadol cynnes i chi yn syth o'r plât poeth. 

Kings Road Yard

I lawr lôn fechan ar stryd ym Mhontcanna ewch drwy'r giatiau i ddarganfod busnesau annibynnol gwerth chweil: Alex Gooch, becws lleol sy’n enwog am ei fara surdoes organig a Pipes, bragdy bach arobryn sy’n cynhyrchu cwrw figan.

Bob bore Sadwrn, mae’r lôn hefyd yn cael ei throi’n farchnad ffermwyr dan ei sang â chynnyrch lleol.

Am fwy o ysbrydoliaeth bwyd yn y ddinas dilynwch blog Jane Hungry City Hippy.

Person yn dal torth fawr o fara
Person yn arllwys peint

Bara Alex Gooch a bar Pipe's, Kings Road Yard, Caerdydd

Straeon cysylltiedig