Pam fy mod i wrth fy modd yn syrffio yng Nghymru

Dechreuais i syrffio ym 1967. Drwy ddamwain y digwyddodd hynny a dweud y gwir – un diwrnod es i gyda thîm nofio’r ysgol i Fae Langland, ac fe gynigiodd un o fy ffrindiau i mi gael tro ar ei fwrdd, a meddyliais yn syth, ‘Waw! Beth ar wyneb y ddaear yw hyn? Mae’n wych!’ Roeddwn i’n mynd i syrffio bob dydd ar ôl hynny, a dod yn ddiogyn glan môr go iawn. Dyna fydden ni’r syrffwyr yn ei wneud yn y chwedegau.

Bûm yn cymryd rhan mewn llawer o gystadlaethau dramor – mi fues i’n syrffio dros Brydain ym mhencampwriaethau’r byd yng Nghaliffornia ym 1972, ac roedd hynny’n hyfryd. 

Ond roeddwn i wastad wrth fy modd yn dod yn ôl i Gymru i syrffio gyda ffrindiau. Dwi'n amau fod gan syrffwyr Cymreig rhyw hunaniaeth arbennig – efallai mai’r natur Geltaidd sy’n rhedeg yn ein gwaed.

Ond roeddwn i wastad wrth fy modd yn dod yn ôl i Gymru i syrffio gyda ffrindiau. Dwi'n amau fod gan syrffwyr Cymreig rhyw hunaniaeth arbennig – efallai mai’r natur Geltaidd sy’n rhedeg yn ein gwaed."

Dyn yn sefyll ar y traeth gyda'i gefn at y camera, yn wynebu'r môr ac yn dal bwrdd syrffio melyn

Paradwys i syrffwyr

Er mod i wrth fy modd â Chernyw, mae syrffio wedi dod mor boblogaidd yn yr ugain mlynedd diwethaf, mae’r dŵr yn llawn o bobl a gall pethau fynd braidd yn gecrus.

Dyfroedd disglair a glannau godidog

Dwi’n dal i syrffio bob dydd – roedd hi’n hyfryd bore yma; chwech ohonom yn y môr yn reidio tonnau bach, glân – ac mae naws y lle a chymeriad y bobl yn heintus. Gan fod pawb yng Nghymru mor gyfeillgar, allwch chi ddim peidio â bod yn gyfeillgar yn ôl. Wrth syrffio mewn rhai o’r mannau mwy ffyrnig o gwmpas y byd, gallech fod y person mwyaf caredig erioed, ond yna bydd rhywun yn rhoi llond ceg i chi, a dyna chithau mewn hwyliau gwael wedyn.

Wrth gwrs, mae’n helpu fod ein harfordir mor anhygoel o brydferth; y traethau, y baeau a’r riffiau."

Wrth gwrs, mae’n helpu fod ein harfordir mor anhygoel o brydferth; y traethau, y baeau a’r riffiau. 

Mae hyn oll wedi bod yma ers miloedd o flynyddoedd, ac mae’n gwneud lles i rywun syrffio mewn llefydd fel hyn, mae’n eich rhoi yn eich lle. Dyma le sy’n llawn bywyd; pob math o fywyd – yn ddaearyddol ac o ran y bywyd gwyllt. Mae’n brofiad mor braf i fod yn y dŵr.

Wrth i mi fynd yn hŷn dwi’n sylweddoli mor lwcus ydyn ni i fedru gwneud rhywbeth fel syrffio. Mae syrffio yng Nghymru’n dod â phleser mwy dwys i mi erbyn hyn; rhywbeth mwy ysbrydol. Pan oeddwn i’n ifanc byddwn wrth fy modd yn syrffio yma, yn gyffro i gyd yng nghanol grym a chyflymder y tonnau. Erbyn heddiw, y peth mwyaf yw gyrru i’r llefydd hyfryd yma, a bod yng nghanol yr holl brydferthwch.

Pete Jones yn syrffio yn Llangynydd
Llun o fwrdd syrffio melyn yn gorwedd wyneb i waered ar y gwair

Syrffio ar Benrhyn Gŵyr

Efallai bod hynny’n cael dylanwad ar syrffwyr yng Nghymru, hefyd. Cymro o’r enw Carwyn Williams [pencampwr syrffio proffesiynol Ewrop ym 1989 a’r ail syrffiwr gorau ym Mhrydain, yn ôl darllenwyr cylchgrawn Carve] oedd un o’r syrffwyr gorau a fu erioed ym Mhrydain. Roedd e’n fwy na dim ond syrffiwr rhagorol, roedd ganddo’r agwedd iawn hefyd – roedd e wrth ei fodd yn y dŵr. Felly does dim ots gen i os yw pobl yn meddwl fod yn rhaid mynd i Gernyw i syrffio ym Mhrydain. Rhyngddyn nhw â’u pethau ddyweda’ i, mae’n gadael mwy o donnau i ni.

Llun o ddyn yn eistedd ar fwrdd syrffio allan yn y môr wrth iddi dywyllu

Syrffio yng Nghymru

Straeon cysylltiedig