Pam fyddwn i’n mynd i hwylfyrddio?

Yn ei hanfod, mae hwylfyrddio’n cyfuno’r holl bethau da am syrffio a hwylio. Mae’n fwy cyffrous na hwylio, ac yn haws ei ddysgu na syrffio, a fyddwch chi fawr o dro yn gwibio mynd dros y dŵr, y gwynt yn eich ffroenau a’r tonnau’n tasgu wrth eich traed; anghofiwch eich holl drafferthion ar dir sych a byddwch yn un â’r elfennau; byddwch yn rhydd. Dewch i gael blas ar y cyffro a gewch wrth syrffio, ond ar fwrdd mwy sefydlog, heb orfod aros yn rhwystredig i’r tonnau gyrraedd. Buan iawn hefyd y cewch chi’r boddhad o ffrwyno grym y gwynt wrth hwylio yn eich blaen.

Ai dim ond hwylio’n ôl ac ymlaen ydy hwylfyrddio?

Hanner can mlynedd yn ôl, efallai. Erbyn heddiw, mae hwylfyrddwyr yn reidio’r tonnau fel syrffwyr ac yn gwibio’n igam-ogam o amgylch eu marciau fel pe baen nhw’n sgïo. Gallwch eu gweld yn gwneud campau rhyfeddol yn yr awyr mewn cystadlaethau agored ac yn gwibio mor gyflym â 60mya mewn rasys. Peidiwch â chael braw: yng Nghymru mae hwylfyrddio hefyd yn golygu crwydro’n braf ar hyd ein harfordir prydferth, a hwyrach gweld ambell i forlo neu ddolffin wrth fynd ar saffari ar y môr. Chewch chi mo’r cyfleoedd hynny wrth syrffio.

Mae’n swnio fel hwyl. Oes ots beth yw’ch oed chi?

Dim o gwbl. Mae’r byrddau a’r hwyliau’n amrywio’n fawr o ran eu maint, ac felly gall plant a phobl hŷn fel ei gilydd roi cynnig ar hwylfyrddio – pwysau’ch corff sy’n gweithio’r hwyl yn hytrach na bôn braich, ac mae’r her yn fwy meddyliol na chorfforol. Wedi dweud hynny, mae treulio awr neu ddwy ar y don llawn cystal â sesiwn yn y gampfa. Ond go brin y byddai hynny’n gymaint o hwyl.

Pam dysgu hwylfyrddio yng Nghymru?

Ewch chi ddim yn bell o’ch lle gyda’r traethau hir, y dŵr glân, y golygfeydd godidog a’r eangderau agored sydd yma yng Nghymru. Gallwch ddibynnu ar y gwynt yma hefyd. Ond yn ôl hwylfyrddwyr proffesiynol, mantais Cymru yw’r amrywiaeth sydd gennym ni. Pa bynnag fath o hwylfyrddio’r ydych am roi cynnig arni – ar y traeth neu ar wyneb y llyn, yn gwibio neu’n reidio’r tonnau – fe ddewch chi o hyd i le delfrydol yng Nghymru. Mewn sawl ffordd mae’n debyg i Gernyw, ond gyda gwell golygfeydd a dim cymaint o bobl, sy’n golygu fod mwy o le i ddysgu a bod yr hwylfyrddwyr yn fwy croesawgar.

Image of a person windsurfing in the sea
Hwylfyrddio yn Rhosneigr, Ynys Môn

Dyna setlo’r peth, dwi’n mynd! Sut fedra i ddysgu?

Ewch gyda darparwr wedi’i achredu gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol. Fel hyn byddwch yn sicr o gael yr hyfforddwyr a’r cyfarpar gorau – mae bwrdd, hwyl, siaced wynt a siwt wlyb yn rhan o’r pecyn – a mwynhau i’r eithaf. Mae llawer o ddarparwyr yn cynnig sesiynau blasu, ond y ffordd orau o ddysgu yw cael lle ar gwrs Dechrau Hwylfyrddio’r Gymdeithas Hwylio, sy’n addas i oedolion a phlant. Ar ôl treulio deuddydd ar y cwrs byddwch wedi dysgu egwyddorion hwylio ac wedi meistroli’r gamp o hwylio at fan penodol ac yn ôl. Fe gewch chi ddigonedd o hwyl, hefyd.

I ble’r af i?

Y mannau gorau yn y Gogledd yw Rhosneigr ar Ynys Môn, Abersoch ym Mhen Llŷn a Llyn Tegid yn Eryri. Ymhellach tua’r de, mae Niwgwl, Dale a Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro a Phenrhyn Gŵyr yn fendigedig (ac yn brydferth). Ewch am hanner awr yn y car o Gaerdydd i fynd i Borthcawl ac arfordir Morgannwg.

Beth sydd ei angen arnaf?

Gwisg nofio i fynd o dan eich siwt wlyb a lliain i’ch sychu ar ôl cael cawod. Hen esgidiau rhedeg, efallai (holwch ddarparwr eich cwrs rhag ofn). Awydd am antur, bob amser.