Teithiau cerdded i weld golygfeydd Abertawe
Mae pobman yn agos at ei gilydd yng nghanol Abertawe, ac yn agos hefyd at lan y môr. Mae’n lle perffaith felly i’w grwydro ar droed. Mae Llwybr Cerdded Canol Dinas Abertawe yn cynnig tipyn o hanes a diwylliant, gan gynnwys Castell Normanaidd Abertawe, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – sy’n eich tywys ar daith drawiadol a hynod ddiddorol drwy bron i 300 mlynedd o hanes diwydiannol Cymru, gan gynnwys twf Copperopolis, fel roedd Abertawe’n cael ei galw ar un adeg.
Taith ychydig yn hirach yw llwybr Dylan Thomas sy’n pasio rhai o’r tirnodau a ddylanwadodd ar fab llenyddol enwocaf Abertawe, gan gynnwys y tŷ lle cafodd ei fagu yn Cwmdonkin Drive, yr Uplands Tavern lle cafodd ei lymaid cyntaf o gwrw, a Chanolfan Dylan Thomas, sydd wedi’i lleoli yn hen Neuadd y Dref ac yn dathlu ei fywyd a’i waith.
Er ei bod hi’n ddigon rhwydd dilyn eich trwyn ar y teithiau cerdded hyn drwy Abertawe, weithiau gall taith dywys eich helpu i ddarganfod mwy fyth o gorneli hudolus y ddinas. Mae Fogo's Swansea Walking Tour a Griffin Guiding ill dau’n cynnig teithiau cerdded wedi’u trefnu i unigolion a grwpiau bach.
Os ydych a diddordeb yn gorffennol diwydiannol Abertawe, mae'r ap Tawe Trails yn cydymaith perffaith. Mae'r ap symudol am ddim yn tywys defnyddwyr ar hyd chwech llwybr cerdded treftadaeth drwy ddyffryn isaf Abertawe, gan gynnwys llwybrau yn Hafod Morfa Copperworks, White Rock, a Parc Llewelyn. Gyda mapiau rhyngweithiol, canllawiau sain a gyrrir gan GPS, a goleuni hanesyddol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, mae'r ap yn dod â straeon yr ardal yn fyw. Mae nodweddion fel golygfeydd lloeren a stryd, delweddau o ansawdd uchel, a hyd yn oed fframiau postdalen selfie yn ei gwneud hi'n ffordd hwylus ac defnyddiol i archwilio. Mae'r ap ar gael i'w lawrlwytho ar ddwy ddyfais iOS ac Android.
Llwybrau cerdded y tu hwnt i’r ddinas
Mae bae chwarter lleuad Abertawe yn ymestyn am 5 milltir (9 km). Dyma’r man cychwyn perffaith i gerdded llwybr arfordir Abertawe a Llwybr Cerdded Prom Abertawe yr holl ffordd i’r Mwmbwls. Ar y ffordd, trowch am Barc Brynmill, y parc trefol cyntaf i’w greu ar gyfer trigolion Abertawe, neu Barc Singleton, sy’n rhan o hen ystad deuluol John Vivian, y meistr copr o Gernyw ac un o arloeswyr diwydiannol mwyaf Abertawe.
Yn y Mwmbwls, mynnwch hoe haeddiannol yn un o’r siopau hufen iâ Eidalaidd enwog, tra bo’r dewis o dafarndai a bwytai hefyd yn helaeth dros ben.


Abertawe yw’r porth i brydferthwch Penrhyn Gŵyr lle mae llwybrau cerdded rif y gwlith. Mae Llwybr Arfordir Gŵyr (sy’n rhan o Lwybr Arfordir Cymru) yn dilyn yr holl benrhyn ac yn cynnig llwybrau drwy fyd natur ger Abertawe a golygfeydd glan môr godidog.

Yn Ne Gŵyr, ymhlith y llwybrau enwocaf mae’r daith hamddenol rhwng Langland a Bae Caswell. Os byddwch chi’n lwcus, efallai y cewch chi gip ar y brain coesgoch sy’n byw yn hafnau ac ogofâu’r creigiau fan hyn. Ymhellach i lawr yr arfordir, dyna i chi Lwybr Cerdded Bae y Tri Chlogwyn, lle byddwch chi’n dod o fewn tafliad carreg i adfeilion Castell Pennard. Yn ôl llên gwerin lleol, roedd y tylwyth teg wedi melltithio’r castell. Mae Llwybr Cerdded Trwyn Oxwich yn arwain o gwmpas trwyn ysblennydd a heibio i un o fannau addoli cynharaf Gŵyr – Eglwys Illtud Sant o’r chweched ganrif. Mae’r llwybr rhwng Rhosili a Bae Mewslade, wedyn, yn rhoi golygfeydd dramatig o Ben Pyrod ac arfordir Sir Gâr.



Ar arfordir Gogledd Gŵyr, bydd Taith Gylchol Llanmadog yn eich tywys heibio i gaer o’r Oes Haearn ac i Dwyni Whiteford. Ac ar lwybrau cerdded Llanrhidian Uchaf, fe gewch chi’ch arwain ar draws morfa heli sy’n ganolog i ddiwylliant cocos Cymru.
I ffwrdd o’r arfordir, llwybr heicio heriol 35 milltir (56km) yw Llwybr Gŵyr ger Abertawe, sy’n anelu am y tir ond hefyd yn mynd yn ôl drwy hanes wrth ymweld â Charreg Arthur. Cromlech tua 4,000 o flynyddoedd oed o’r oes Neolithig yw hon, ac i'w chanfod ger copa uchaf Gŵyr.
Llwybrau drwy’r coed ger Abertawe
Mae cyfle i ymgolli mewn coetiroedd hyfryd wrth gerdded ym mro Abertawe hefyd. I’r gorllewin o ganol y ddinas fe ddewch chi ar draws Parc Gwledig Dyffryn Clun, sy’n hafan 700 erw i fyd natur. Roedd rhan o’r parc yn dir diwydiannol ar un adeg, ac roedd yma linell reilffordd bwysig hefyd. Mae’r lle bellach yn gartref i goed bedw, ffawydd a derw hynafol.
I’r gogledd o Abertawe, mae Coed Cwm Penllergare. Ystad Fictoraidd fawreddog oedd hon ar un adeg, a chartref Dillwyn Llewelyn, o’r teulu cyfoethog a oedd yn berchen ar Cambrian Pottery. Roedd yn arddwr enwog ac yn arloeswr ym myd ffotograffiaeth. Heddiw, fe allwch chi grwydro’r tir a fu’n ei ysbrydoli, gan gynnwys can hectar o goetir, dau lyn a 7 milltir o lwybrau tawel drwy’r coed.
Uwchben canol y ddinas mae un o lwybrau cerdded mwyaf difyr Abertawe. Mynydd Cilfái yw’r lle hwn, darn cymharol ifanc o goetir a blannwyd i helpu’r bryn i adfer ar ôl canrif o lygru’r aer a’r dŵr wrth gynhyrchu copr, haearn a glo yma. Gwta drigain mlynedd yn ôl, roedd y tir hwn yn noeth, ond heddiw mae’n doreithiog o fioamrywiaeth ac yn gartref i ymerawdwyr, mursennod tinlas cyffredin, madfallod a bwncathod, hyd yn oed. Mae fan hyn wedi dod yn ffefryn ymhlith trigolion Abertawe ac ymwelwyr sydd â’u bryd ar grwydro – ac mae’r golygfeydd o Fae Abertawe’n ddigon i gipio’ch anadl.