Beth mae Graddio yn ei olygu i chi?

Pan yn dewis llety gwyliau, chwiliwch am gyfeirnod Cymru/Wales, sef cyfeirnod ansawdd swyddogol, cenedlaethol, cynllun asesu ansawdd Cymru. Yna, gallwch fod yn hyderus ei fod wedi cael ei wirio cyn i chi gyrraedd.

Oes yna wahaniaeth rhwng Croeso Cymru a chynlluniau graddio eraill?

Mae pob un o’r cyrff asesu cenedlaethol (Visit England, VisitScotland, Croeso Cymru a’r AA) bellach yn asesu llety gwyliau i’r un gofynion, ac yn dyfarnu un i bump seren. Mae’r sêr yn adlewyrchu ansawdd cyffredinol y profiad.

Sut ydyn ni’n asesu’r llefydd hyn?

Mae ein tîm Ansawdd Cymru, sy’n dîm o aseswyr proffesiynol, yn ymweld â phob lleoliad bob yn ail flwyddyn, gan gynnwys llety sy’n cael ei redeg gan asiantaethau hunanddarpar. Croeso Cymru yw’r brif asiantaeth asesu ar gyfer llety yng Nghymru.

Beth yw ystyr ein system radd sêr?

Mae busnesau sydd wedi eu graddio yn derbyn gradd sêr rhwng 1 a 5 seren, yn seiliedig ar y cyfleusterau sydd ar gael, ac ansawdd cyffredinol y profiad. Mae yna dair elfen ynghlwm â phrosesu a dyfarnu Gradd Sêr ar gyfer busnes.

1. Ansawdd Busnes

Mae ein Aseswyr Ansawdd yn asesu pob agwedd o fusnes, ac mae’r sgôr yna yn cyfateb i ddisgrifiad lefel ansawdd. Defnyddir graddfa o 1 i 5 - mae Ansawdd Rhagorol yn sgorio 5 pwynt, ac Ansawdd Derbyniol yn sgorio 1 pwynt.

Ansawdd Rhagorol: 5 pwynt

Ansawdd Da Iawn: 4 pwynt

Ansawdd Da: 3 phwynt

Ansawdd Eithaf Da: 2 bwynt

Ansawdd Derbyniol: 1 pwynt

Unwaith i bob agwedd gael eu hasesu, mae pob sgôr yn cael eu rhoi gyda’i gilydd ac mae sgôr ansawdd ar gyfer y busnes cyfan yn cael ei gyfrifo.

2. Cysondeb ym Meysydd Allweddol y Busnes

Bydd yr Aseswr Ansawdd yna yn edrych am gysondeb yn y meysydd allweddol. Bwriad y ffordd hon o fynd ati yw i sicrhau nad oes un agwedd o’r busnes sydd wedi derbyn sgôr uchel wedi gwthio’r canran cyffredinol i fyny i’r gradd sêr nesaf, gan roi’r argraff anghywir i’r gwestai ynghylch yr ansawdd yn gyffredinol. Mae’n hollbwysig fod ansawdd y meysydd allweddol yn cydfynd gyda gradd gyffredinol y busnes.

3. Gofynion Cyfleusterau

Bydd yr Aseswr Ansawdd yn gwirio i sicrhau fod unrhyw gyfleusterau/gwasanaethau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer safon penodol yn bresennol ac ar gael, yn ogystal â’r rheiny ym mhob lefel sêr blaenorol. Mae ymchwil yn dangos fod cwsmeriaid yn disgwyl mwy o gyfleusterau a gwasanaethau pan fo’r gradd yn uwch.

Ydy gradd sêr is yn golygu ansawdd is?

Gall sawl llety sydd wedi eu graddio yn is fod yn darparu ansawdd uchel, ond ddim yn cyrraedd yr holl ddisgwyliadau cyfleusterau a gwasanaeth sy’n ddisgwyliedig ar gyfer lefel gradd sêr uwch.

Er enghraifft, mae Croeso Cymru yn gosod gwahanol feini prawf, a mwy o feini prawf gofynnol, pan yn asesu Gwestai na pan maent yn asesu busnes Llety Gwesteion (e.e. Gwely a Brecwast, Tŷ Llety).

Mae hyn yn seiliedig ar ymchwil defnyddwyr, sy’n dangos fod yna ddisgwyliad y bydd Gwestai, o ran eu natur, yn darparu mwy o gyfleusterau na Gwely a Brecwast a Thai Llety. Mae’r meini prawf graddio yn adlewyrchu hyn, felly mae’n bwysig yn arbennig peidio cymharu Llety Gwesteion gradd 4-seren gyda Gwesty gradd 4-seren. Mae’r meini prawf yn wahanol.

Y cyngor - dylid gwirio gyda’r cwmni cyn bwcio i wneud yn siŵr eu bod yn cynnig y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd ei hangen arnoch. Byddant yn fwy na pharod i fod o gymorth.

Beth yw’r gwahanol gategorïau llety?

Mae llety gwyliau yn amrywio o ran steil, ac felly mae gwahanol gynlluniau graddio yn berthnasol i wahanol fathau a steiliau o fusnes. I’ch cynorthwyo i ddewis, mae’r cynllun graddio newydd yn cynnwys ‘dynodwr’ i ddisgrifio’r steil llety y gallwch ei ddisgwyl, er enghraifft:

  • Gwestai - y term safonol a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o sefydliadau o’r math yma, ond gallwch weld ystod o ddisgrifiadau amgen sy’n perthyn i westy gyda steil penodol, neu sydd o faint penodol, fel a ganlyn:

  • Mae Gwestai Bach yn cyfeirio at fusnesau sy’n cynnig nifer o wasanaethau gwesty ac sydd yn cael eu gwahaniaethu gan y nifer o ystafelloedd sydd ar gael - fel arfer llai na 20 - yn cael eu defnyddio fel y gwêl y perchennog orau.

  • Mae gan Westai Gwledig dir neu erddi helaeth mewn lleoliad gwledig neu lled-wledig, gyda phwyslais ar heddwch a llonydd.

  • Mae Gwestai Trefol mewn lleoliadau dinesig/trefol, ac yn cynnig ansawdd uchel gyda steil neilltuol. Lefel uchel o wasanaeth personol.

  • Mae Gwestai Metro i’w canfod yng nghanol dinasoedd a threfi, yn cynnig gwasanaeth gwesty llawn, ond dim swper. Byddant o fewn pellter cerdded hawdd i amrywiaeth o lefydd i fwyta.

  • Mae Gwestai Pris Rhesymol wastad yn rhan o grŵp o westai ‘wedi brandio’, yn cynnig cyfleusterau en suite glân a chyfforddus, ystafelloedd cadw 24-awr a lefel cyson o gyfleusterau.

  • Mae Llety Gwesteion yn cwmpasu unrhyw beth o wely a brecwast un ystafell i’r llefydd mwy sydd yn ein mannau gwyliau arfordirol, sydd o bosib yn cynnig swper ac efallai yn drwyddedig.

  • Mae gan lety Gwely a Brecwast gan amlaf le i ddim mwy na chwech o bobl. Mae’n debyg i aros fel gwestai arbennig yng nghartref rhywun.

  • Mae Ffermdai hefyd yn cynnig gwely a brecwast ac weithiau swper, bob tro ar fferm.

  • Mae gan Dai Llety fel arfer fwy na thair ystafell ac o bosib yn cynnig swper i’w gwesteion. Mae’n bosib fod rhai yn drwyddedig.

  • Mae Bwytai â Llofftydd yn darparu hynny yn union. Y bwyty yw’r prif fusnes ac fe fyddant yn drwyddedig.

  • Mae Tafarndai yn dai tafarn gyda llofftydd sy’n gweini bwyd gyda’r nos, yn ogystal â brecwast.

  • Hunanddarpar: bythynnod a fflatiau ble gallwch brofi naws gartrefol oddi cartref.

  • Fflatiau â Gwasanaeth: gan amlaf mewn blociau pwrpasol, yn cynnig llety cartrefol gydag ystod ehangach o wasanaethau.

  • Pentref Gwyliau: yn cynnwys amrywiaeth o fathau o lety ar gyfadeilad mawr. Mae yna amrywiaeth o gyfleusterau ar gael hefyd, sydd naill ai wedi, neu ddim wedi eu cynnwys yn y prisiau.

  • Parc Teithio: yn croesawu carafanau teithio, pebyll ar drelar a chartrefi modur.

  • Parc Gwersylla: yn croesawu ymwelwyr gyda phebyll.

  • Parc Gwyliau: ble gallwch logi tŷ gwyliau carafán, bwthyn pren neu gaban gwyliau.

  • Llety ar Gampws: mae’r cynllun campws yn cynnwys y prifysgolion a’r colegau sy’n medru rhoi llety i ymwelwyr yn ystod cyfnodau gwyliau, ar sail gwely a brecwast neu hunanddarpar. Yn aml mae ystafelloedd yn en suite ac fe fydd digonedd o ystafelloedd sengl, yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau mawr.

  • Llety Mewn Hosteli: mae’r llety yn aml mewn ystafelloedd a rennir, gyda gwelyau bync. Gall fod ystafelloedd teulu - efallai gyda mynediad cyfyngedig - naill ai gydag arlwy neu gyda chyfleusterau hyunanddarpar.

  • Llety Grŵp:  yn bennaf yn archebion grŵp mewn ystafelloedd a rennir. O bosib yn cynnig prydau neu gyfleusterau hunanddarpar.

  • Llety Gweithgaredd: gan amlaf, ond nid yn unig, archebion grŵp sy'n gysylltiedig â darpariaeth gweithgareddau achredig yn y lleoliad, neu’n gyfagos.

  • Llety Bacpacwyr: yn debyg o ran steil i hostel, ond efallai’n cael ei redeg yn fwy anffurfiol. Yn aml yn fwy addas ar gyfer teithwyr annibynnol - mae’n bosib nad ydynt yn derbyn grwpiau teuluol.

  • Llety Byncws: llety gwledig sy’n medru cael ei archebu gan grwpiau neu unigolion. Gall gwasanaethau neu gyfleusterau fod yn gyfyngedig, ond byddant yn cynnwys cyfleuster hunanddarpar.

  • Ysguboriau Gwersylla: heb radd sêr - dyma lety gwledig syml, yn aml yn cael eu galw’n ‘bebyll cerrig’. Gyda digon o le ac yn sych - fel arfer mae angen i chi ddod â’ch sachau cysgu eich hun.

  • Llety Amgen a Hen Amser: heb radd sêr ac yn cynnwys llety megis wigwams, tipis, yurt, carafanau sengl a llety sydd methu darparu cyfleusterau na gwasanaethau sy’n gysylltiedig â llety prif ffrwd.

  • Rhestredig: llety sydd wedi dewis peidio cael gradd sêr ond sydd wedi cadarnhau fod cyfleusterau a gwasanaethau angenrheidiol sy’n berthnasol i’r math o fusnes ar gael ac mewn cyflwr defnyddiol.

Adborth ar gynnyrch sydd wedi ei raddio gan Croeso Cymru

Ambell dro, ni fydd ansawdd ein cynnyrch yn cwrdd â’ch disgwyliadau. Mae eich barn yn bwysig i Croeso Cymru, ac mae gwybodaeth bellach ar ein tudalen gwynion.

Straeon cysylltiedig