About Calan Gaeaf yng Ngerddi Dyffryn
Mae National Trust Cymru yn dathlu Calan Gaeaf ledled Cymru yr hydref hwn. Mae Calan Gaeaf yn nodi dechrau'r gaeaf yng nghalendr Cymru (1 Tachwedd). Yn draddodiadol, dywedir bod y noson gynt, Nos Galan Gaeaf (31 Hydref), yn amser pan fo'r llen rhwng ein byd ni a'r Byd Arall ar ei teneuaf – sy'n golygu y gall creaduriaid hudolus grwydro'r ddaear.
Mae Gerddi Dyffryn yn nodi newid y tymor gyda llwybr i'r teulu. Profwch hud yr gerddi yn yr hydref a mentrwch i fyd y Tylwyth Teg – creaduriaid hudolus llên gwerin Cymru.
Cadwch eich llygaid ar agor wrth i chi archwilio; efallai y gwelwch chi ddrysau bach y tylwyth teg wedi'u cuddio yn yr gerddi, ddod ar draws madarch anferth neu ddarganfod lle y gallai'r Tylwyth Teg alw'n gartref.
Ar hyd y ffordd, mae gemau i'w chwarae, straeon chwedlonol i'w hadrodd a digonedd o gyfleoedd i ddychymyg plant redeg yn wyllt. Felly gwisgwch ddillad cynnes, dewch â'ch chwilfrydedd a gwelwch pa ddarganfyddiadau hudolus sy'n eich disgwyl yn Gerddi Dyffryn yr hydref hwn.
Cynlluniwch eich ymweliad heddiw a darganfyddwch hud Calan Gaeaf. Ymunwch â ni i ddathlu llên gwerin Cymru, gydag ychydig o ysbryd Calan Gaeaf.
23 Hydref - 1 Tachwedd 2026