Event

Calan Gaeaf at Erddig

Erddig
Hanner tymor mis Hydref hwn, darganfyddwch lên gwerin a thraddodiadau tymhorol Cymru wrth i chi ddilyn ein llwybrau hwyliog, sy'n addas i deuluoedd, drwy dŷ hanesyddol a gardd hydrefol Erddig. 17/10/2026-01/11/2026

Event Information

Get in touch

Social

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Dates

  • 23rd October 2026 - 1st November 2026

About Calan Gaeaf at Erddig

Yr hydref hwn, mae National Trust Cymru yn dathlu Calan Gaeaf mewn lleoliadau ledled Cymru.

Mae Calan Gaeaf yn nodi dechrau'r gaeaf yng nghalendr Cymru ar 1 Tachwedd. Mae'n draddodiad sy'n gysylltiedig yn agos â newid y tymhorau, diwedd y cynhaeaf a hen gredoau Cymreig am ysbrydion, creaduriaid rhyfedd a'r Byd Arall.

Yn Erddig, dilynwch y llwybrau hwyliog sy'n addas i deuluoedd drwy'r tŷ a'r ardd, a darganfyddwch rai o'r creaduriaid a'r straeon o lên gwerin Cymru ar hyd y ffordd.

Bydd mwy i gymryd rhan ynddo drwy gydol yr wythnos hefyd, gyda chrefftau tymhorol a thostio malws melys yn ychwanegu at brofiad yr hydref.

Archwiliwch ar eich cyflymder eich hun wrth i'r ardd wisgo lliwiau'r hydref, a darganfyddwch ochr wahanol i Erddig wrth i'r dyddiau fynd yn fyrrach.

Gwisgwch yn gynnes, dewch â'ch chwilfrydedd a gwelwch pa straeon y byddwch yn eu darganfod yn ystod hanner tymor mis Hydref.

17 Hydref - 1 Tachwedd 2026

Lleoliad

53.02586, -3.00613

Like what you see at Calan Gaeaf at Erddig
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Calan Gaeaf at Erddig. © Calan Gaeaf at Erddig 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig