About Puccini Gianni Schichi | Opera Canolbarth Cymru - Aberdaugleddau
Mae perthnasau barus Buoso Donati yn galaru ei farwolaeth, ond mewn gwirionedd, mae ganddynt lawer mwy o ddiddordeb yng nghynnwys ei ewyllys. Wrth ddod i wybod nad ydynt wedi etifeddu dim, mae Lauretta, y mae ei dyweddiad â nai Donati, Rinuccio bellach yn y fantol, yn perswadio ei thad, Gianni Schicchi gyfrwys, i’w helpu. Ond mae gan Schicchi ei ateb dyfeisgar ei hun i’r broblem ac wrth i’w gynlluniau gael eu gwireddu aiff popeth i’r gwellt rhwng y perthnasau…
Yn llawn egni, gyda phlot sy’n troi a throelli’n gyflym ac ensemblau penboeth, mae sgôr felodig fawreddog Puccini yn cynnwys un o’i ariâu mwyaf poblogaidd “O mio babbino caro”. Dilynir y perl hwn o ddarn gan wledd yn yr ail hanner o gerddoriaeth Eidalaidd boblogaidd a gyflwynir gan griw o 15 o gantorion ac offerynnwyr OCC.
Cyn y perfformiad hwyrol…
Dewch i ddysgu am y byd cynhyrchu gyda Thaith Gyffwrdd Opera Canolbarth Cymru am 6.30pm. Wedi’i arwain gan y Rheolwr Cynhyrchu Bridget Wallbank neu’r Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer, bydd y profiad ymarferol hwn cyn y sioe yn gwahodd cynulleidfaoedd i gael golwg agosach ar bropiau, gwisgoedd ac elfennau cyffyrddol ein cynhyrchiad teithiol o Gianni Schicchi cyn perfformiad y noson honno.
Tocynnau’n gyfyngedig — cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i gadw lle ymlaen llaw.