Event

Marchnad Nadolig Coed Duon 2026

Come along to Blackwood Christmas Market on Saturday 28th November 2026 to experience the fun and excitement that only Christmas can bring!
Dewch draw i Farchnad Nadolig Coed Duon, ar ddydd Sadwrn 28 Tachwedd 2026 i brofi hwyl a chyffro'r Nadolig!

Event Information

Get in touch

Location:
Blackwood town centre, Blackwood, Caerphilly, NP12 1AB
Telephone:
01443 866390
Email:
events@caerphilly.gov.uk
Website:
https://www.visitcaerphilly.com/

Social

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Dates

  • 28th November 2026

About Marchnad Nadolig Coed Duon 2026

Dewch draw i Farchnad Nadolig Coed Duon, ar ddydd Sadwrn 28 Tachwedd 2026 i brofi hwyl a chyffro'r Nadolig!

P’un a ydych chi’n dymuno prynu anrheg Nadolig gynnar i chi eich hun neu'n chwilio am anrheg unigryw ar gyfer rhywun arbennig, gallwch grwydro o gwmpas detholiad bendigedig o stondinau bwyd a chrefft, yn ogystal â'r ystod wych o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr. Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle delfrydol i chi gychwyn ar eich siopa Nadolig chi.

Bydd digonedd o adloniant i’r teulu cyfan gyda dewis eang o reidiau ffair, yn ogystal â chymeriadau stryd a sioeau stryd Nadoligaidd! Bydd Cyngor Tref Coed Duon yn cynorthwyo’r digwyddiad gyda phrif lwyfan dan ei sang gyda grwpiau, dawnswyr a chantorion lleol i chi deimlo ysbryd yr ŵyl.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Golau am 4:15pm, yn ogystal â seremoni cynnau goleuadau'r goeden Nadolig ymlaen am 4:45pm.

I wneud llusern ar gyfer yr orymdaith, beth am ymweld â’r gweithdai gwneud llusernau AM DDIM. Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal rhwng 10am a 4pm yn Eglwys Fethodistaidd Coed Duon (NP12 1PP) ar y ddyddiadau:

• Dydd Sadwrn 21 Tachwedd
• Dydd Sadwrn 28 Tachwedd

Mae'r digwyddiad hwn AM DDIM!

Sylwer: Gall yr holl wybodaeth newid.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.visitcaerphilly.com.

I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 866390.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'i ariannu gan Gyngor Tref Coed Duon.

Lleoliad

51.667, -3.19532

Like what you see at Marchnad Nadolig Coed Duon 2026
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Marchnad Nadolig Coed Duon 2026. © Marchnad Nadolig Coed Duon 2026 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig