Er ei bod hi’n ganrif ers ei eni, mae Richard Burton yn dal i ennyn diddordeb a chwilfrydedd ym mhob cwr o’r byd.
Bydd nifer o’i ddilynwyr yn cofio’i berfformiadau gwefreiddiol mewn ffilmiau clasurol fel My Cousin Rachel a Cleopatra, ac eraill yn cofio’r llais dwfn, trawiadol. Yn ôl yr actor, llais yn llawn llwch glo Cymru oedd hwnnw. Ond i sawl un, bywyd rhyfeddol Richard sy’n sicrhau nad yw’n diflannu o’r cof. Dyma fab i löwr o’r cymoedd a gyrhaeddodd lwyfannau mawr Llundain, a swynodd Hollywood, ac a gafodd gymar yn yr actores Elizabeth Taylor gan greu un o barau priod enwocaf y byd.
I nodi canrif ers geni’r cawr hwn yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae’r sir wedi trefnu nifer o weithgareddau a digwyddiadau i ddathlu’i waddol. Yn eu plith mae llwybrau cerdded sy’n ymweld â’i hen gynefin a pherfformiadau dramatig yn y capel lle cynhaliwyd ei wasanaeth coffa.
Crwydro drwy fywyd cynnar Richard
Mae dau lwybr cerdded arbennig wedi’u creu, a’r rheini’n ymweld â nifer o lefydd sy’n gysylltiedig â blynyddoedd cyntaf Richard. Y rhain yw’r ‘Llwybr Man Geni’ ym Mhontrhydyfen, lle ganwyd Richard, a’r ‘Llwybr Plentyndod’ yn nhref Port Talbot, lle cafodd ei fagu.


Y Llwybr Man Geni
Mae’r ‘Llwybr Man Geni’ yn cylchu Pontrhydyfen, pentref bychan yn Nyffryn Afan. Mae croeso i ymwelwyr stopio ger yr atyniadau mewn unrhyw drefn, ond efallai y byddai ger cartref cyntaf Richard yn fan cychwyn da. Bu’n byw fan hyn gyda’i ddeuddeg(!)o frodyr a chwiorydd. Mae’r tŷ bach yn nythu yng nghysgod traphont ddwy ganrif oed y pentref (sy’n bont droed erbyn hyn). Tynnwyd llun yr actor yn cerdded ar hon gyda’i dad pan ddaeth gartref o Hollywood un tro – ffotograff y bydd dilynwyr yn aml yn ceisio’i ail-greu.


O fan hyn, bydd ymwelwyr yn dilyn yr heol fawr i dafarn y Miners Arms (Clwb Rygbi Pontrhydyfen erbyn hyn), lle cwrddodd rhieni Burton, yn ogystal â phriodi. Bydd modd troi yn ôl wedyn am Heol Penhydd, lle roedd nifer o deulu Richard yn byw. Gydol ei yrfa, byddai’r actor yn dychwelyd yma’n rheolaidd i’w gweld, gan ddod a’i wraig Elizabeth Taylor yn gwmni sawl tro (maen nhw’n dweud mai ‘Pontrhyheaven' oedd enw’r actores ar y pentref). Mae’r llwybr hefyd yn pasio Capel Bethel, sydd bellach yn gaffi hyfryd, a lle ymgasglodd 800 o bobl i alaru ar ôl marwolaeth sydyn yr actor yn 58 oed.


Y Llwybr Plentyndod
Fel y ‘Llwybr Man Geni’, does dim rhaid dilyn y 'Llwybr Plentyndod' mewn trefn benodol. Llwybr yw hwn sy’n tywys pobl o amgylch mannau sy’n gysylltiedig a Richard yn nhref Port Talbot. Man cychwyn braf, serch hynny, yw Canolfan Addysg Gymunedol Taibach ar Heol Margam. Hen glwb ieuenctid yw hwn, ac yma y serennodd Richard yn rhai o’i gynyrchiadau cynharaf, gan hogi’i grefft cyn cyrraedd theatrau mawr y West End yn Llundain.

Mae’r llwybr hwn hefyd yn pasio cartref chwaer Richard ar Heol Caradog, lle bu’r actor ifanc yn byw yn ystod ei ddyddiau ysgol (bu farw mam Richard ac yntau ond yn ddwyflwydd). Bydd cyfle hefyd i weld Llyfrgell Taibach, lle bu’r Richard ifanc yn ymgolli mewn llyfrau a barddoniaeth. Man braf i orffen y daith yw Parc Coffa Talbot, lle mae cerdd a ysgrifennodd Burton i’w gweld ger gwely o flodau – cerdd am grwydro’r bryniau o gwmpas y dref.
Digwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant geni Richard Burton
Yn ogystal â’r llwybrau cerdded, bydd nifer o ddigwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal yn ystod 2025 er mwyn dod â gwaddol Richard yn fyw, a hynny yng Nghastell-nedd Port Talbot ac mewn mannau eraill o gwmpas y wlad.
Teithiau tywys
Bydd teithiau tywys ar lwybrau cerdded yn cael eu cynnal ar ddyddiadau penodol drwy gydol 2025. A’r rheini’n gadael y Ganolfan Ymwelwyr yn Mharc Coedwig Afan, mae’r llwybrau’n pasio safleoedd y ‘Llwybr Man Geni’ a’r ‘Llwybr Plentyndod’ yng nghwmni Griff Harries, sy’n Dywysydd Bathodyn Gwyrdd. Bydd Griff yn adrodd straeon a ffeithiau am fagwraeth yr actor enwog yng Nghymru. Mae’r teithiau’n rhad ac am ddim (er ei bod hi wastad yn syniad da cadw lle ymlaen llaw), ac maen nhw’n para tua tair awr, gyda hanner awr o seibiant am luniaeth hanner ffordd. Mae’r teithiau tywys yn cael eu cynnal ar: 25 Ebrill, 30 Mai, 20 Mehefin, 20 Medi ac 18 Hydref. Bydd taith gyda dehonglydd iaith arwyddion yn bresennol yn cael ei chynnal ar 22 Awst. Ewch i wefan Richard Burton 100 i gadw lle.


Ras 10k Richard Burton
Yn ogystal â’r llwybrau cerdded, bydd dathliadau’r canmlwyddiant yn cynnwys ras redeg 10k Richard Burton, a honno’n cael ei chynnal bob blwyddyn yng Nghwmafan, nepell o Bort Talbot. A hithau’n ganmlwyddiant ei eni, mae arwyddocâd mawr i ddigwyddiad 2025 sy’n cael ei gynnal ar 2 Tachwedd. Mae’r ras yn denu rhedwyr o bell ac agos, gan roi cyfle unigryw iddyn nhw fwynhau harddwch y cymoedd – harddwch roedd Burton ei hun yn ei edmygu cymaint.
Mae’r llwybr yn dilyn taith gylchol heibio i fan geni Richard Burton ym mhentref Pontrhydyfen. Bydd y rhiwiau’n herio rhedwyr, a’r llwybr troellog yn ddifyr tu hwnt wrth basio drwy bentref Cwmafon, dros draphont eiconig Pontrhydyfen, ac ar hyd y llwybr beicio coediog. Bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn siŵr o fwynhau’r naws gymunedol fywiog a’r wefr o gystadlu yn un o rasys ffyrdd hynaf Cymru.
Arddangosfa a pherfformiad
Rhwng 7 Gorffennaf a 14 Tachwedd, bydd Canolfan Siopa Port Talbot yn cynnal arddangosfa arbennig am fywyd Richard. Bydd yr arddangosfa, a fydd yn llawn ffotograffau a llythyrau a ysgrifennodd y dyn ei hun, yn adrodd stori taith Richard ac yn disgrifio sut y daeth mab i löwr yn un o sêr mawr Hollywood.
Fyddai’r un dathliad o fywyd Richard Burton ddim yn gyflawn heb ambell berfformiad dramatig hefyd. Bydd dros 100 o blant ysgol o Gymru yn cymryd rhan yn Halen yn y Gwaed, drama Gymraeg sy’n adrodd straeon am fywyd Richard. Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal ym Mharc Gwledig Margam ar 28 Mai fel rhan o Eisteddfod yr Urdd 2025.