Beicio mynydd yng Nghoed-y-Brenin

Nid oes angen cyflwyno Coed y Brenin i feicwyr elitaidd. Ond i’r gweddill ohonom, mae canolfan beicio mynydd orau Prydain yn cynnig reidiau i ddechreuwyr yn ogystal â heriau difrifol Llwybr Du. Fe welwch fynyddoedd ar lwybr yr Afon, sy’n addas i blant, ac ar lwybr didrugaredd Tarw. Gallwch hefyd weld mwyngloddiau aur segur a llynnoedd ar rai o’r llwybrau.

Beiciwr yn mynd trwy lwybr beicio mynydd yng Nghoed y Brenin
Llun o Richard Parks yn beicio mynydd yn y goedwig

Coed y Brenin

Hedfan drwy’r awyr yn Zip World Velocity

Zip World Velocity yw’r wifren wib hiraf yn Ewrop a’r cyflymaf yn y byd. Mae pedair gwifren gyfochrog yn esgyn am filltir dros Chwarel Penrhyn, sef y chwarel fwyaf yn y byd ar un adeg. Gan orwedd yn wastad mewn harnais arbennig, cewch hedfan ar eich pen eich hun drwy’r awyr dros 100mya, 500 troedfedd uwchben llyn, i gael y wefr debycaf bosib i hedfan.

Dringo’r Wyddfa

Hwn yw’r llwybr cerdded enwocaf yng Nghymru – ac nid oherwydd y te hwyr yng nghaffi’r copa yn unig. Ewch i’r afael â’r Wyddfa am olygfeydd anhygoel. Dewiswch eich her o blith chwe llwybr, gan gynnwys Llwybr Llanberis, sy’n rhedeg ochr yn ochr â Rheiffordd yr Wyddfa, neu dilynwch Lwybr Pyg i fyny a Llwybr y Mwynwr i lawr. Cofiwch roi sylw i’r canllawiau diogelwch cyn mynd allan.

Llun o dri cerddwr yn edrych ar draws y llyn tuag at y mynyddoedd

Llyn Glaslyn, Eryri

Hongian yn Zip World Titan

Zip World Titan yw ardal wibio fwyaf Ewrop, gyda bron i bum milltir o wifrau gwib. Mae yna dri rhediad, a phob un yn mynd yn gynt a chynt, ac am fod pedair gwifren yn rhedeg yn gyfochrog ar bob rhediad, gallwch rannu’r profiad (a’r sgrechfeydd) gyda ffrindiau a theulu. Hedfanwch gyda’ch gilydd uwchlaw tirwedd anhygoel y waun, y mynydd a’r mwynglawdd, gan gyrraedd dros 60mya.

Sboncio dan y ddaear yn Bounce Below

Yn ddwfn yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd mae siambr danddaearol anferth, ac yno mae'r profiad sboncio mwyaf eithriadol yn y byd: Bounce Below. Gosodwyd tair rhwyd cargo sbonciog enfawr yno, y naill uwchben y llall, mewn gofod sy'n ymdebygu cadeirlan arallfydol. Maent oll wedi’u cysylltu â llithrennau ac ysgolion, ac wedi eu goleuo â goleuadau amryliw seicedelig.

Teulu yn neidio ar rwydi tanddaearol yn Bounce Below

Bounce Below, Blaenau Ffestiniog

Rafftio dŵr gwyn yn y Bala

Nid afon bert ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn unig mo afon Tryweryn. Mae rhyddhau'r argae yn trawsnewidio ei rhannau uchaf yn ddyfroedd gwyllt o radd Olympaidd a reolir gan y Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol. Mae'n afon gyflym a chyffrous, ac yn anaddas i blant iau. Yn ffodus iddyn nhw, mae yna lwybr padlo ysgafn yn disgyn drwy goedwig dderw i’r Bala.

Profi’ch dewrder yn Go Below Xtreme

Os ydych yn hoff o wifrau gwib ac atyniadau tanddaearol, rhowch gynnig ar brofiad Go Below Xtreme yn Go Below Underground Adventures. Mewn hen fwynglawdd llechi Fictoraidd ger Blaenau Ffestiniog, 1,300 o droedfeddi i lawr yn y ddaear, mae’r wifren wib danddaearol hiraf a dyfnaf yn y byd! Yma, mae 9 gwifren wib ac 14 croesfan, felly mae’n her danddaearol eithafol sy'n cael ei thywys yn bersonol, ac yn gorffen gyda 70 troedfedd o gwymp rhydd. Mae’n ddigon i godi gwallt eich pen!

Mynd am dro ger Llyn Idwal

Parciwch ar bwys Llyn Ogwen a dringo am rhyw filltir i blymio i’r rhewlyn glas cobalt poblogaidd hwn. Nid dim ond y dŵr sy’n mynd â’ch gwynt; o’ch cwmpas ar dair ochr mae creigiau a llechfeini anferthol, a’r llyn yn agored i’r heulwen.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am gerdded i Lyn Idwal.

Llyn wedi'i amgylchynu gan fynyddoedd

Llyn Idwal, Gogledd Cymru

Marchogaeth yn Eryri

Mynd drot drot. Gan nad ydyn ni'n carlamu ar y tir garw, gallwch fwynhau rhyddid a golygfeydd eang a mynyddig y Parc Cenedlaethol yn hamddenol braf ar gefn ceffyl. Mae gweithredwyr achrededig yn arwain pob oedran i lwybrau i geffylau di-draffig yng ngodreon Eryri a chefn gwlad Penmachno a Maentwrog.

Ceunenta yn Eryri

Heb fod yn hir yn ôl, byddai cerddwyr yn Eryri yn fodlon ar edmygu’r ceunentydd yn ddwfn yn y mynyddoedd. Erbyn hyn, maen nhw am wisgo siwtiau gwlyb, siacedi achub a helmedau, rhoi hen esgidiau rhedeg am eu traed a sgramblo drwy geunentydd, llithro i lawr sgydiau dŵr llawn chwyn ac abseilio i byllau plymio. Fuodd cerdded erioed yn gymaint o hwyl.

Chwarae rownd yng Nghlwb Golff Brenhinol Dewi Sant

Yng Nghlwb Golff Brenhinol Dewi Sant, cynigir math gwahanol o her yn Eryri dros gwrs pencampwriaeth par 69, dros 6,300 o lathenni. Hwn yw un o feysydd golff gorau Prydain ond peth prin yw chwarae rownd wych; gyda sŵn y môr ar ôl y 13eg twll, a Chastell Harlech a’r mynyddoedd yn y cefndir, mae'n anodd iawn canolbwyntio!

Castell Harlech yn edrych draw tua'r môr

Castell Harlech yn edrych lawr dros Glwb Golff Brenhinol Dewi Sant

Dringo yn Eryri

Nid wal mewn campfa ddylai eich cyflwyno i ddringo. Felly, dechreuwch yn y mynyddoedd lle ganwyd y gamp, a lle bu Edmund Hillary yn hyfforddi i esgyn Everest ym 1953. Mae darparwyr gweithgareddau achrededig yn dangos i ddechreuwyr beth yw beth ar sesiynau blasu neu gyrsiau byrion. Ac os bydd hi’n bwrw glaw, yma hefyd mae’r dringo dan do gorau yng Nghymru.

Beicio Moryd Mawddach

Llwybr Mawddach yw’r reid feicio fwyaf hudolus i’r teulu yng Nghymru - os nad Prydain - ond rydyn ni’n unochrog! Ar y reid hon, ewch o Ddolgellau i’r traeth yn y Bermo/Abermaw, ger Cader Idris, a’r Rhinogau’n codi ar bob ochr. Mae’r foryd yn lledu ac yn wincio yn yr haul, ac adar yn trydar yn chwilio bywyd gwyllt yn y gwarchodfeydd – a’r cyfan wrth i’r milltiroedd lithro heibio ar darmac llyfn.

Pont Abermaw wrth iddi fachlud yn edrych draw tuag at y môr

Pont Abermaw, Abermaw/Y Bermo

Straeon cysylltiedig