Attraction

Llys yr Esgob Tyddewi (Cadw)

St Davids Bishop's Palace
Palas canoloesol mawreddog yr un mor odidog â’i gadeirlan

Attraction Information

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Derbynnir Cwn
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau

Take a look around

About Llys yr Esgob Tyddewi (Cadw)

Dim ond un swydd oedd ar y brig i glerigwr uchelgeisiol yng Nghymru ganoloesol, sef Esgob Tyddewi yn Sir Benfro.

Datganodd pab yn y 12fed ganrif fod dwy daith i Dyddewi gywerth ag un i Rufain – gan droi’r cyntaf yn ganolfan i bererinion o bob rhan o’r byd gorllewinol. Heidiodd pobl yn eu miloedd i weld cysegr Dewi Sant yn y gadeirlan newydd.

St Davids Bishop's Palace
St Davids Bishop's Palace

Ond ni allai cartref yr esgob gystadlu â’r gwychder hwn. Yna daeth Henry de Gower. Rhwng 1328 a 1347 trodd yntau adeilad nad oedd yn weddus ond i ‘weision ac anifeiliaid’ yn balas eang.
Yr adain ddwyreiniol oedd ei ardal breifat ef. Roedd yr adain ddeheuol ar gyfer rhodres a seremoni. Yma yn y neuadd fawr y byddai Esgob Henry yn gweinyddu cyfiawnder, yn cynnal gwleddoedd ac yn croesawu pererinion o fri.

Y Diwygiad oedd dechrau’r diwedd. A dweud y gwir, mae’n ddigon posibl fod William Barlow, Esgob Protestannaidd cyntaf Tyddewi, wedi tynnu’r plwm oddi am y to ei hun er mwyn sbarduno dirywiad araf. Ond hyn yn oed yn adfail, mae’r palas hwn yn lle syfrdanol wrth ymyl ei gadeirlan ogoneddus.

Lleoliad

51.88176, -5.26932

Like what you see at Llys yr Esgob Tyddewi (Cadw)
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Llys yr Esgob Tyddewi (Cadw). © Llys yr Esgob Tyddewi (Cadw) 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig