Attraction

Gwaith Haearn Blaenafon (Cadw)

Blaenavon Ironworks
Newidiodd Blaenafon y byd. Roedd cyfoeth o lo, calchfaen a mwyn haearn – tanwydd y Chwyldro Diwydiannol –yn y bryniau hyn ar gyrion Bannau Brycheiniog.O’r fan hon, byddai Cymru’n hyrddio ac yn ei chwythu ei hun ar y llwyfan byd-eang.

Attraction Information

Get in touch

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Derbynnir Cwn
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau

About Gwaith Haearn Blaenafon (Cadw)

Newidiodd Blaenafon y byd. Roedd cyfoeth o lo, calchfaen a mwyn haearn – tanwydd y Chwyldro Diwydiannol –yn y bryniau hyn ar gyrion Bannau Brycheiniog.

O’r fan hon, byddai Cymru’n hyrddio a bytheirio ac yn ei chwythu ei hun ar y llwyfan byd-eang. Haearn o Gymru roddodd fod i injans, offer a pheiriannau arloesol. Cododd bontydd, llongau a rheilffyrdd. Yn fyr, lluniodd y byd modern.

Yn 1789 aeth Gwaith Haearn Blaenafon ati am y tro cyntaf i harneisio pŵer stêm i chwythu aer i'w ffwrneisi chwyth enfawr.

Blaenavon Ironworks
Blaenavon Ironworks

Ganrif yn ddiweddarach, yn y fan hon y trawsnewidiodd Sidney Gilchrist Thomas ddiwydiant dur y byd trwy ddyfeisio ffordd i dynnu ffosfforws o fwyn haearn.
Mae'r ffwrneisi adfeiliedig i'w gweld hyd heddiw gerllaw olion trawiadol y ffowndri, y tŷ cast a'r tŵr cydbwyso dŵr a godai wagenni i'r awyr i uchder o 80 troedfedd.
Roedd Blaenafon yn cael ei redeg gan ddiwydianwyr mawr, didostur yn aml. Ond byddai’r lle wedi bod yn werth dim heb ei weithwyr.

Ewch i archwilio’u bythynnod a ddodrefnwyd yn ddilys a ‘siop y gwaith’ sydd wedi’i ail-greu lle’r oedden nhw’n gwario’u cyflogau prin.

Mae eu stori, sy’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng dehongliad arloesol, wrth wraidd tirwedd ddiwydiannol sydd mor gwbl unigryw fel ei bod wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd.

Lleoliad

51.77613, -3.08969

Like what you see at Gwaith Haearn Blaenafon (Cadw)
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Gwaith Haearn Blaenafon (Cadw). © Gwaith Haearn Blaenafon (Cadw) 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig