Attraction

Ffwrnais Dyfi (Cadw)

Dyfi Furnace
Esiampl wych o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru mewn llecyn gwledig aruchel

Attraction Information

Get in touch

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Derbynnir Cwn
  • Maes parcio

Take a look around

About Ffwrnais Dyfi (Cadw)

Ni chyfyngwyd y Chwyldro Diwydiannol i’r glo a’r haearn yn ne Cymru a’r llechi yn y gogledd. Wedi’i hadeiladu tua 1755, mae’r ffwrnais chwyth hon, wedi’i thanio â glo ac a ddefnyddid i fwyndoddi mwyn haearn, ymhlith yr adeiladau diwydiannol gorau o’i fath ym Mhrydain erbyn hyn. Gan ddefnyddio grym Afon Einion, byddai olwyn ddŵr y ffwrnais yn gyrru set enfawr o feginau. Byddai’r rhain yn chwythu a phwffian aer cywasgedig i’r ffwrnais, gan greu’r tymereddau chwilboeth y byddai eu hangen i brosesu’r mwyn yn haearn crai, a llawer ohono’n cael ei anfon i efeiliau yng Nghanolbarth Lloegr.
Dim ond am ryw hanner canrif y bu’r ffwrnais ar waith cyn cael ei gadael. Mae’r olwyn ddŵr a adferwyd sydd yn y golwg erbyn hyn yn arwydd o ail wynt yr adeilad yn felin lifio.

Dyfi Furnace
Dyfi Furnace

Lleoliad

52.53833, -3.93984

Like what you see at Ffwrnais Dyfi (Cadw)
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Ffwrnais Dyfi (Cadw). © Ffwrnais Dyfi (Cadw) 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig