Cerddwch drwy’r ardd brydferth o berlysiau, rhosynnau a lafant tuag at Gapel y Rug, capel carreg syml gyda’i ddrws bach bwaog – a pharatowch i gael eich rhyfeddu.
Y tu mewn mae rhyfeddodau sy’n gwbl groes i’r tu allan plaen. Wrth i’ch llygaid addasu i’r golau atmosfferaidd, fe welwch anifeiliaid cerfiedig gwych yn addurno’r waliau a’r meinciau - dreigiau cennog, seirff ac angenfilod mympwyol rhyfedd eraill.
Uwch eich pen mae’r to cerfiedig mawreddog wedi’i beintio â dyluniad blodeuog godidog ac mae pedwar angel pren wedi’u torri allan i warchod y lle. Mae pob arwyneb fel petai’n wledd o liwiau neu addurn afradlon.
Capel y Rug yw un o eglwysi prin yr 17eg ganrif sydd wedi osgoi ‘adferwyr’ y diwygiad Fictoraidd Gothig. Hwn oedd capel preifat y Cyrnol William Salesbury, neu ‘Hen Hosanau Gleision’ fel y’i gelwid yn annwyl.
Roedd yn Frenhinwr ffyddlon a amddiffynnodd Gastell Dinbych gerllaw am chwe mis enbyd yn ystod y Rhyfel Cartref cyn ildio’n anfodlon i luoedd seneddol. Tra bu eraill yn coleddu mathau symlach o addoli, byddai yntau’n gweddïo yma mewn ysblander eglwys uwch.
Bu farw Hen Hosanau Gleision yn 80 oed, wedi byw’n ddigon hir i weld y frenhiniaeth yn cael ei hadfer ym 1660 – felly hwyrach yr atebwyd ei weddïau.