Attraction

Porthcawl - Traeth Newton

Newton Beach, Porthcawl
Traeth Newton yw'r traeth mwyaf dwyreiniol o saith bae Porthcawl, sy’n cynnwys traeth hir tywodlyd tair milltir o hyd yn ymestyn o Newton Point i geg yr afon Ogwr.

Attraction Information

Social

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Croeso i Anifeiliaid Anwes

Take a look around

About Porthcawl - Traeth Newton

Ar gyrion pentref prydferth Newton, mae traeth tair milltir o hyd, Traeth Newton. Newton yw'r traeth mwyaf dwyreiniol o saith bae Porthcawl ac mae'n boblogaidd iawn gyda phobl sydd am wneud chwaraeon dŵr; gellir gweld bordhwylwyr, jetiau sgïo, a chychod modur ar y dŵr yn aml ac mae llithrfa sy'n cael ei defnyddio gan y clwb cychod lleol.

Newton Beach, Porthcawl
Newton Beach, Porthcawl

Os oes yn well gennych gadw'n sych, mae digon o lwybrau cerdded ar gael. Mae Traeth Newton yn ymestyn o geg yr afon Ogwr yn y dwyrain i Newton Point yn y gorllewin, ar draws milltiroedd o dywod (er ei fod yn garegog iawn mewn mannau). Mae taith gerdded hyfryd 9km o Newton i Dregantllo hefyd sy'n cynnig golygfeydd gwych o’r twyni tywod ym Merthyr Mawr.
Mae'r traeth yn wych i blant am fod digon o le agored a phyllau creigiau i’w harchwilio a dyma un o nifer o draethau Porthcawl sy'n caniatáu cŵn drwy gydol y flwyddyn.

Mae maes parcio bach talu ac arddangos yn agos i'r traeth. Gellir dod o hyd i’r cyfleusterau agosaf i'r cyhoedd ym Mharc Gwyliau Bae Trecco, sydd ychydig o funudau i ffwrdd ar droed. Mae mwy o doiledau ar gael yn nhafarndai yr Ancient Briton a'r Jolly Sailor yn Newton.

Lleoliad

51.47844, -3.67407

Like what you see at Porthcawl - Traeth Newton
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Porthcawl - Traeth Newton. © Porthcawl - Traeth Newton 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig