Attraction

Aberafan

Aberavon Seafront
Gyda 3 milltir o dywod euraid sy’n llithro’n dyner i ddŵr Bae Abertawe, mae Traeth Aberafan yn berffaith ar gyfer diwrnodau heulog yn chwarae gêmau ar y traeth, yn codi cestyll tywod, nofio ac yn sglaffio sglodion a hufen iâ.

Attraction Information

Get in touch

Location:
Aberafan
Telephone:
01639 686868
Email:
tourism@npt.gov.uk
Website:
https://dramaticheart.wales/

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Croeso i Anifeiliaid Anwes
  • Cyfleusterau Hygyrchedd
  • Cyfleusterau Symudedd

About Aberafan

Gyda 3 milltir o dywod euraid sy’n llithro’n dyner i ddŵr Bae Abertawe, mae Traeth Aberafan yn berffaith ar gyfer diwrnodau heulog yn chwarae gêmau ar y traeth, yn codi cestyll tywod, nofio ac yn sglaffio sglodion a hufen iâ.

Mae’r cyrchfan glan môr hwn, sydd wedi ennill nifer o wobrau, yn arbennig o boblogaidd gyda theuluoedd oherwydd ei lendid ac ansawdd y cyfleusterau sydd ar gael, yn ogystal â’r amrywiaeth o leoedd i fwyta gerllaw. Mae’n ddiogel hefyd – mae achubwyr bywyd yn cadw golwg ar y traeth yn ystod yr haf.
Os rhedwch chi allan o bethau i’w gwneud ar y traeth, mae golff antur, parth Aqua Splash newydd, parc sglefrfyrddio, lle chwarae antur a lle chwarae i blant bach. Mae’r Ganolfan Hamdden a Ffitrwydd a’r sinema chwe sgrîn yn ddewis hwylus os daw cawod o law.

Mae’r traeth hefyd yn boblogaidd gyda syrffwyr a syrffwyr barcud, ac mae ardal wedi’i neilltuo ar gyfer y ddau weithgaredd ym mhen dwyreiniol y traeth.

Mae croeso i gŵn ar hyd y flwyddyn ar draeth y dociau, er bod cyfyngiadau ar y prif draeth yn ystod misoedd yr haf.

Aberavon Seafront

Lleoliad

51.588, -3.80982

Like what you see at Aberafan
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Aberafan. © Aberafan 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig