Wedi'i leoli'n ganolog yn y pentref ger Porth Eryri, roedd y Royal Oak unwaith yn dafarn goetsis fawr o Oes Fictoria. Mae gwaith celf lleol ac arteffactau hanesyddol yn adrodd hanes yr adeilad a'r bobl sydd wedi aros yma dros y canrifoedd.
Mae'r ystafelloedd wedi'u cynllunio gyda threftadaeth y gwesty mewn golwg ac mae ganddynt yr holl gyfleusterau a'r cyfforddusrwydd modern sydd eu hangen arnoch, gan gydbwyso arddull a swyddogaeth yn yr adeilad hynod hanesyddol hwn. Gwelyau cyfforddus gyda ffabrigau a dodrefn moethus - lliwiau a gweadau wedi'u dylanwadu gan dirwedd syfrdanol Eryri.
Mae Wi-Fi am ddim drwyddi draw gyda setiau teledu sgrin fflat a sianeli Freeview ym mhob ystafell. Mae desg/bwrdd gwisgo hwylus, ynghyd â sychwr gwallt, coffr, haearn a bwrdd smwddio a chyfleusterau gwneud te a choffi yn gofalu am y pethau ymarferol.
Mae gwaith celf lleol ac arteffactau hanesyddol yn parhau i fod ym mhob rhan o’r bwytai, yn adrodd hanes yr adeilad a’r bobl sydd wedi aros yma, gan roi ymdeimlad gwirioneddol o le o fewn y Parc Cenedlaethol,
Sefydlwyd y grŵp peintio plein air cyntaf o'i fath gan yr arlunydd tirwedd Fictoraidd enwog, David Cox pan arhosodd yn y Royal Oak yn y 1840au. Wedi'i arddangos y tu mewn i'r gwesty mae'r arwyddfwrdd a baentiwyd gan Cox ym 1847, sy’n dangos coeden dderw fawreddog. Fe'i gosodwyd ar y wal uwchben y fynedfa tan 1866, pan gafodd ei fframio a'i arddangos yn y neuadd, mae bellach yn cymryd lle amlwg uwchben y lle tân yn y lolfa.
Dewiswch o dri lleoliad bwyta, y mae timau’r gegin yn canolbwyntio ar gynnyrch lleol, tymhorol a ffres – o fwyty Llugwy River, gyda’i nenfydau addurnol a’i oleuadau addurnol a chiniawau dydd Sul blasus, i’r Ystafell Gril ar thema leol gyda waliau llechi, cypyrddau aeddfedu cig a cherddoriaeth ffynci, ac yna wrth gwrs ein dehongliad untro o dafarn y pentref - Y Stablau, gyda dewis helaeth o gerddoriaeth a byrgyrs lleol!
Y lleoliad perffaith ar gyfer darganfod holl ryfeddodau Parc Cenedlaethol Eryri a thu hwnt. Boed yn olygfeydd godidog, lleoliadau hanesyddol neu chwaraeon antur - mae'r cyfan yma!