About Neuadd a Sba Bodysgallen
“O’r Mor I’r Mynydd”
Wedi eu cuddio o fewn dros 200 erw o barcdir 2 filltir i'r dde o Llandudno gyda golygfeydd godidog o Barc Cenedlaethol Eryri a Chastell Conwy, mae’r adeilad gradd 1 Neuadd Bodysgallen yn cyflwyno’r cyfan sydd orau mewn lletygarwch tai gwledig. Mae gerddi hardd yn cynnwys wrychoedd bocs prin o’r 17eg ganrif wedi’u llenwi â pherlysiau persawrus, gardd rosod furiog a sawl ffol.
Gwleddwch gyda bwydlenni llawn dychymyg o’r cynnyrch lleol gorau a mwyaf ffres a ffrwythau a llysiau organig a dyfwyd ar yr ystâd ar gyfer ein bwyty AA 3 Rosette, dan arweiniad y prif gogydd Abdalla El Shershaby. Mwynhewch Te Prynhawn Cymreig Traddodiadol yn y neuadd phaneli derw, y llyfrgell, y parlwr i fyny’r grisiau, neu ar ddiwrnodau haf cynnes ar y teras. Mae Te Prynhawn Cymreig Bodysgallen yn cynnwys detholiad o frechdanau, sgonau ffres gyda hufen tolch a jam mefus, cacennau a theisennau yn ogystal a dewis o de ffres. Mae cinio Dydd Sul yn parhau traddodiad yn Bodysgallen ac yn cynnig tri chwrs hefo canapés wrth gyrraedd. Mae'r fwydlen Cinio Dydd Sul wedi'i chynllunio bob wythnos i gynnal ffresni ac amrywiaeth tymhorol.
Ymlaciwch yn llonyddwch Sba Bodysgallen. Pwll mawr, triniaethau harddwch aromatherapi, gampfa a chaffi. Gall holl westeion gwesty, aelodau sba ac ymwelwyr drefnu apwyntiadau ar gyfer triniaethau sba dros y ffôn ar 01492 562500.
Ar gyfer Priodasau, Priodasau Sifil a Seremonïau Partneriaeth, Derbyniadau, Achlysuron Teuluol, mae Neuadd Bodysgallen yn lleoliad delfrydol hefo gofal proffesiynol i sicrhau diwrnod cofiadwy. O ddigwyddiadau llai i achlysuron mwy gyda defnydd anghynhwysol.
Cynhelir digwyddiadau mewnol drwy gydol y flwyddyn sy’n amgylchynu amrywiaeth eang o ddiddordebau, o sgyrsiau cinio, teithiau garddio, ciniawau thema a mwy, gellir archebu pob un ohonynt unai ar-lein neu dros y ffôn ar 01492 584466.
Darganfyddwch gysur yn y lleoliad hanesyddol yng ngwesty tai gwledig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Polisi plant - rydym yn croesawu plant dros 6 oed.