Accommodation

Harbourmaster

Harbourmaster Hotel from across the harbour
CYn aelod o’r Grŵp Flatrock, mae Gwesty’r Harbwrfeistr yn westy annibynnol, gyda bar a bwyty yng nghanol Aberaeron, ac mae’n enwog am ei groeso cynnes, bwyd eithriadol, a gwin o ansawdd uchel. Mae’r llety yn cynnig 11 ystafell unigryw, bwthyn hunan-arlwyo a fflat hunan-arlwyo – digon o ddewis boed yn bâr, yn deulu, neu’n grŵp bach o ffrindiau. Gall gwestai hefyd fwynhau bar a bwyty croesawgar, perffaith ar gyfer brecwast, cinio neu swper. Gyda’i gyfuniad o swyn hanesyddol, cyfleusterau modern cysurus, a’r fantais o fod yn agos at galon y dref ac at lonyddwch y porthladd, mae’r Harbwrfeistr yn cynnig profiad unigryw a chofiadwy i bawb.
Graddfa: 5 out of 5

Lleoliad:

Accommodation Information

Get in touch

Location:
Pencei, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0BT
Telephone:
01545 570755
Email:
info@harbour-master.com
Website:
https://www.harbour-master.com

Social

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Cyfleusterau Hygyrchedd
  • Cyfleusterau Symudedd
  • Gwefrwyr Cerbydau Trydan (ar y safle)
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau

Prices

  • 13 Ystafelloedd

Take a look around

About Harbourmaster

Yn aelod o’r Grŵp Flatrock , mae’r Harbwrfeistr yn westy, bar a bwyty annibynnol a sefydlwyd yn ei wedd bresennol yn Mai 2002.  Mae wedi ennill gwobrau lu am y bwyd, y croeso a’r lletygarwch ac wedi ennill ei blwy ymysg y gymuned leol a’r ymwelwyr am ei naws am le arbennig.

Mae nawr wedi ehangu i dri adeilad hanesyddol ac mae’r adeilad gwreiddiol glas bellach yn eicon pwysig i’r harbwr ac i’r dref.

Ar hyd y daith, ac yn hanfodol i’r llwyddiant, yw’r don o staff talentog ifanc, nifer ohonynt o’r ardal. Rydym yn falch o’u llwyddiannau a’u cyfraniad i wneud y gwesty ac Aberaeron yn enwog fel cyrchfan deniadol sy’n enwog drwy Gymru ac ymhellach.

Mae’r gwesty yn cynnig 11 ystafell unigol, pob un â’i steil ei hun:

•              7 ystafell yng nghartref hynafol yr Harbwrfeistr gwreiddiol, pob un gyda golygfeydd godidog o’r porthladd neu’r môr, gan gynnwys y ‘Madonna Suite’,  yr ystafell atig hynod boblogaidd.

•              4 ystafell fawr y warws, gydag ystafelloedd ymolchi braf, soffa a mynediad lift, gan gynnwys ‘Aeron Queen Suite’ gyda golygfeydd panoramig o’r porthladd a balconi Juliette.

Mae ein bwthyn hunan-arlwyo, sydd ond ychydig o fetrau i ffwrdd o’r prif adeilad, yn cynnig:

•              Ystafell wely ddwbwl gyda golygfa o’r porthladd a gwely ‘super-king’

•              Ystafell wely ddwbwl gyda golygfa o’r porthladd a gwely ‘king’

•              Ystafell sengl gysurus

•              Cegin llawn offer ag ardal bwyta, gyda golygfeydd o’r porthladd

The Warehouse dining area and bar
The Warehouse dining area and bar

•              Ystafell fyw gyda thân nwy

•              Ystafell ymolchi ‘en-suite’ gyda bath a chawod ar wahân

•              Ystafell ymolchi ‘en-suite’ gyda chawod dros y bath

Mae ein fflat, Portland Place, sydd wedi’i leoli ar lawr cyntaf y ‘tŷ lilac’ yng nghanol y dref yn le perffaith ar gyfer teulu neu grŵp o ffrindiau i ymlacio, wedi diwrnodau prysur yn crwydro’r dref neu’n mwynhau golygfeydd godidog ar hyd llwybr yr arfordir

Mae’r fflat yn cynnwys:

•              Ystafell wely ddwbwl gyda golygfa o’r porthladd a gwely brenin

•              Ystafell wely twin yn wynebu’r ardd

•              Cegin llawn offer

•              Ystafell fyw gysurus gyda golygfa o’r porthladd

•              Ystafell gawod fawr

•              Parcio preifat tu ôl i’r adeilad a pharcio ar hyd yr heol (yn dibynnu ar argaeledd)

Sylwch: Nid yw’r fflat yn addas ar gyfer gwesteion ag anghenion symudedd.

Yn y brif westy, gellir hefyd fwynhau bwyty ardderchog a bar croesawgar yn y warws, perffaith ar gyfer brecwast, coffi, cinio, te prynhawn, charcuterie neu swper - p’un a ydych yn aros yn y gwesty neu’n ymweld yn unig.

Gyda’r cyfuniad o swyn hanesyddol, cyfleusterau modern cysurus, a’r fantais o fod yn agos at galon y dref ac at lonyddwch y porthladd, mae’r Harbwrfeistr yn cynnig profiad unigryw a chofiadwy i bawb.

Lleoliad

52.24318, -4.26257

Like what you see at Harbourmaster
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Harbourmaster. © Harbourmaster 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig