About Llys a Chastell Tretŵr (Cadw)
Dau ryfeddod pensaernïol yn rhychwantu 900 mlynedd o hanes
Mae’r cliw yn yr enw. Roedd y tŵr cylchol enfawr a adeiladwyd gan Roger Picard II mor drawiadol nes rhoi’r enw Tretŵr i’w gastell yn y pen draw.
Dros ddwy ganrif, o ryw 1100, trawsffurfiodd teulu Picard o fod yn anturiaethwyr Normanaidd goresgynnol i arglwyddi Cymreig grymus.
Felly nid er gwarchodaeth yn unig y codwyd y clamp hwn o dŵr gyda’i bedwar llawr a waliau cerrig naw troedfedd o drwch. Roedd yn arwydd o esgyn cymdeithasol yn y golwg, yn efelychiad agored o’r cestyll ym Mhenfro ac Ynysgynwraidd.
Byddai’n ddigon hynod ar ei ben ei hun. Ond mae yn Nhretŵr ddau ryfeddod mewn un. Ar draws faes y castell gorwedda llys canoloesol cyfan a ddaeth yn ddihareb am wychder. Creadigaeth Syr Roger Vaughan a’i ddisgynyddion oedd hwn. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod, Syr Roger oedd un o’r dynion mwyaf pwerus yng Nghymru – ac roedd Tretŵr yn adlewyrchu ei enwogrwydd.
Byddai’n denu beirdd Cymru ganoloesol a yfai ei winoedd gwych ac a ganai glodydd ei westywr hael. Erbyn hyn, yn sgil gwaith adfer gofalus iawn, gallwch ddychmygu i’r byw fod yn un o westeion mwyaf anrhydeddus Tretŵr.
Fe welwch fod y neuadd fawr wedi’i gosod yn union fel y buasai efallai am wledd helaeth yn y 1460au. Yn yr ardd a ail-grewyd o’r 15fed ganrif, gallwch grwydro ymhlith rhosynnau gwyn persawrus sy’n symbol o gydymdeimladau Iorcaidd angerddol Syr Roger.