Hysbysiadau Preifatrwydd

Mae Croeso.Cymru a Llywodraeth Cymru yn dymuno parchu a diogelu preifatrwydd defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae’r hysbysiadau preifatrwydd isod yn nodi’r manylion o ran yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu ar y wefan hon.

Marchnata Twristiaeth i Ddefnyddwyr

Cymdeithas Twristiaeth Gweithgareddau Cymru

Hysbysiad Preifatrwydd Croeso Cymru

Busnes Cymru – Hysbysiad Preifatrwydd 

Croeso Cymru yw adran marchnata twristiaeth Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu wrth lenwi ffurflenni ar y wefan, a bydd yn ei phrosesu fel rhan o'n dyletswyddau wrth hyrwyddo a chefnogi'r sector twristiaeth yng Nghymru. 

Tanysgrifio'r Newyddlen 

Pan fyddwch yn cwblhau eich manylion ar ffurflen danysgrifio'r newyddlen ac yn optio i mewn i dderbyn newyddlenni Croeso Cymru, rydych yn rhoi eich caniatâd i Croeso Cymru ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i weinyddu eich cyfrif e-bost a darparu unrhyw gynhyrchion a gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanyn nhw gennyn ni.  

Rydych yn rhydd i ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen datdanysgrifio mewn unrhyw e-bost a dderbyniwch oddi wrthon ni, neu gallwch anfon e-bost aton ni yn YmholiadauNewyddlenCroesoCymru@llyw.cymru.

O dro i dro, byddwn yn anfon newyddion a gwybodaeth atoch a fydd o ddiddordeb ichi, yn ein tyb ni, yn unol â’ch diddordebau a’r math o gyd-deithwyr a ffefrir gennych, neu’ch lleoliad daearyddol.  

Gan ddilyn arferion safonol y diwydiant, pan fyddwch yn datdanysgrifio caiff eich cyfeiriad e-bost ei gadw ar restr atal i sicrhau na fyddwch mwyach yn cael e-byst gan Croeso Cymru Rydyn ni'n diweddaru ein manylion cyswllt yn rheolaidd a byddwn yn tynnu eich manylion oddi ar ein system os nad ydych yn agor unrhyw e-byst gennyn ni am dair blynedd. 

Pwy fydd yn cael gweld eich data

Croeso Cymru a chwmnïau ymchwil cysylltiedig. 

Timau cymorth gwasanaethau Croeso Cymru a'r gweinyddwyr technegol sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.

Sut rydyn ni'n cadw eich data yn ddiogel 

Mae data personol a roddir i Croeso Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel yn y DU , ac mae eich data personol yn cael ei storio mewn ffolder gyfyngedig sydd wedi'i gyfyngu i'r aelodau staff sy'n ymdrin â'r data'n uniongyrchol. 

 Mae Croeso Cymru wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i fynd i'r afael ag achosion lle yr amheuir bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri . Os amheuir bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Croeso Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo gofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny. 

 Eich hawliau 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol: 

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch gan Lywodraeth Cymru, a’i weld 
  • i ofyn inni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw 
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau) 
  • cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau) 
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)  
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn cysylltwch â ni yn:

YmholiadauNewyddlenCroesoCymru@llyw.cymru. 

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Croeso Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau hyn, cysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion isod: 

Swyddog Diogelu Data 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Cyfeiriad e-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH. 

Ffoniwch – Llinell gymorth 029 2067 8400 (Llinell Gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (Llinell Gymorth y DU) 

E-bost – wales@ico.org.uk 

Gwefan: www.ico.org.uk 

Diweddarwyd 17 Medi 2025

 

Hysbysiad Preifatrwydd Croeso Cymru ac Achrediad i Ddarparwyr Gweithgareddau Awyr Agored

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data at ddiben cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Mae prosesu’ch cais yn rhan o’n gorchwyl cyhoeddus i weinyddu’r gwasanaeth. 

Diben y Prosesu

Er mwyn prosesu’ch cais a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eich busnes a’ch statws achredu i bartneriaid mewnol (adrannau eraill Llywodraeth Cymru) ac allanol (Partneriaid Data, Awdurdodau Lleol, Asiantau Rheoli Canolfannau Croeso), mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i chi roi gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth fusnes yn unol â’r ffurflen gais. Mae angen prosesu’r data hyn er mwyn i Lywodraeth Cymru wneud y tasgau a ganlyn.

Mae angen manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) arnom er mwyn i Groeso Cymru allu cysylltu â chi ar gyfer resymau gweithredol (e.e. eglurhad am achrediad ac i ofyn am fwy o wybodaeth os yn briodol) ac anfonir manylion cyswllt hefyd at Bartneriaid Data Croeso Cymru (Twristiaeth Canolbarth Cymru, ‘New Vision Group’, Cyngor Sir Fynwy) er mwyn iddynt allu cysylltu â chi at ddiben rhoi’ch manylion ar wefan defnyddwyr Croeso Cymru – www.croesocymru.com

Derbynwyr y Data

Caiff gwybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru am eich busnes ei rhannu â’r cyrff a ganlyn am y rhesymau a nodi uchod:   

• Adrannau eraill Llywodraeth Cymru
• Partneriaid Data (Twristiaeth Canolbarth Cymru, ‘New Vision Group’, Cyngor Sir Fynwy) – mae’r sefydliadau hyn yn darparu gwasanaethau i Groeso Cymru o dan gontract
• Sefydliadau Twristiaeth Cenedlaethol
• Awdurdodau Lleol
• Asiantau Rheoli Canolfannau Croeso.

Cadw Data

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth bersonol am 7 mlynedd o’r dyddiad pryd gwnaethpwyd y cais gwreiddiol.   

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth

Mae hawl gennych:

• weld y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch; 
• gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny;  
• gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu arno (mewn amgylchiadau penodol);
• i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol);  
• cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o fanylion am yr wybodaeth sy’n cael ei chadw neu’i defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech ddefnyddio’ch hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:  

Llywodraeth Cymru,
Rhodfa Padarn, 
Aberystwyth,
SY23 3UR

E-bost: quality.tourism@llyw.cymru

Swyddog Diogelu Data,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ:

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru) 

Manylion cyswllt:
Ail Lawr Churchill House, 
Ffordd Churchill,
Caerdydd, 
CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400 or 0303 123 1113

E-bost: wales@ico.org.uk

Gwefan: www.ico.org.uk

Straeon cysylltiedig