Theatr Y Stiwt, Wrecsam
A honno wedi’i hagor yn 1926, y glowyr lleol a’u llafur caled a dalodd am godi Theatr Y Stiwt yn wreiddiol, a hynny drwy danysgrifiad o ugain ceiniog yr wythnos. Bu bron i’r adeilad gael ei ddymchwel yn 1977, cyn iddo ailagor fel canolfan fodern i’r celfyddydau perfformio yn 1999. Dyma bellach theatr hanesyddol, fawreddog o’r iawn ryw.
Carchar Rhuthun
Ewch am dro i Garchar Rhuthun er mwyn dilyn ôl traed y dwsinau o garcharorion a fu dan glo yno yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A hwnnw ar un adeg yn garchar i Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Meirionnydd, agorodd fel canolfan dreftadaeth yn 2002. Mae’n lle gwych i ddysgu am straeon ofnadwy’r gorffennol ac i edmygu’r bensaernïol fygythiol.


Traeth Talacre a Goleudy’r Parlwr Du, Treffynnon
Mae straeon ysbryd dirifedi i’w cael am Oleudy’r Parlwr Du yn Nhalacre, sy’n golygu bod y tirnod gwyn a choch yn lle heb ei ail i synfyfyrio ar ddiwrnod heulog. Crwydrwch ar y traeth braf, ewch am dro i’r bryniau cyfagos, a syllwch allan i Fôr Iwerddon. Profiad i fywiogi’r enaid.

Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon
Yn Ffynnon Gwenffrewi, byddwch chi’n dilyn ôl traed pererinion a grwydrodd y llwybr i fan hyn yn nyddiau Rhisiart Lewgalon yn 1189. Mae’r lle’n llawn llên gwerin ers tair canrif ar ddeg, ac wedi’i foderneiddio bellach gyda llyfrgell ac amgueddfa. Dewch i edmygu’r bensaernïaeth gothig ryfeddol sy’n anrhydeddu’r santes o’r seithfed ganrif.


Parc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd, Wrecsam
O’r cofnodion cyntaf o fwyngloddio yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg, i gyfnod y Tuduriaid a’r tu hwnt, mae hanes diwydiannol anhygoel i Byllau Plwm y Mwynglawdd. Mae’r pyllau dramatig eu hunain yn rhyfeddol i gychwyn, heb sôn am y 300 mlynedd o arteffactau sydd yn yr amgueddfa. Mae yma hefyd beirannau i’w gweld, boelerdy, a pharc 53 erw.



Traphont Pontcysyllte, Llangollen
Mae’r gwaith pensaernïol yn gwbl ryfeddol ar Draphont Pontcysyllte, a godwyd gan Thomas Telford a William Jessop i gludo Camlas Llangollen 125 troedfedd (38 metr) uwchben afon Dyfrdwy. Nid yn unig y mae’n adeilad rhestredig Gradd I ac yn Safle Treftadaeth y Byd, ond mae sawl peth anarferol yn gysylltiedig â’r bont hefyd, fel y mortar sydd wedi’i greu o waed ych.


Ystâd Rhug
Yn Siop Fferm Organig Ystâd Rhug, ger Corwen, fe gewch chi ddewis gwych o gynnyrch. Ymhlith y bwydydd yno mae cig organig y fferm ei hun a chaws Cymreig o fri. Mae nwyddau gofal croen moethus Wild Beauty ar werth yno hefyd. Beth am bryd bach yn The Bison Grill, y bistro sydd wedi’i grybwyll gan Michelin, neu rywbeth i fynd gyda chi? Mae cyfle i grwydro’r fferm a gweld yr ych gwyllt, tra bo lle chwarae i blant yma hefyd.


Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Mae Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn adeilad hanesyddol hyfryd yng nghanol dinas Llanelwy, ar lan afon Elwy. Yr eglwys hon yw prif eglwys Esgobaeth Llanelwy, un o chwech esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru. Mae’n lle i weddïo, i ddysgu rhywfaint o hanes, ac i fwynhau’r harddwch pensaernïol. Dim syndod ei fod yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Dewch i edmygu’r adeiledd eithriadol, y ffenestri gwydr lliw, a’r awyrgylch heddychlon. Boed chi’n chwilfrydig am yr hanes neu’r bensaernïaeth, neu’n chwilio am rywle tawel i synfyfyrio, mae Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn lle croesawgar ac ysbrydoledig. Mae’n enwog hefyd am y digwyddiadau a’r cyngherddau amrywiol sy’n cael eu cynnal yno gydol y flwyddyn. Ewch i wefan Eglwys Gadeiriol Llanelwy i gael rhagor o wybodaeth.

Amgueddfa Foduro Llangollen
Mae Amgueddfa Foduro Llangollen ymhlith hoff amgueddfeydd pobl Prydain, a hynny diolch i angerdd y curaduron a natur yr hyn sydd i’w weld yno. Efallai mai dyluniadau crand sy’n mynd â’ch bryd chi, neu hen ddarnau sbâr; bydd y ceir pedal, y cerbydau, y cerbydau camlas a’r beiciau modur clasurol fan hyn yn gyfle i hel atgofion hiraethus a chael eich ysbrydoli ar yr un pryd.
Gwinllan y Dyffryn
A hithau wedi ennill gwobrau lu, mae Gwinllan y Dyffryn yn cynnig teithiau tywys a chyfle i flasu gwin yn ystod yr haf. Mae gwinoedd llonydd a phefriog yn cael eu cynhyrchu yma. Dewch i ddysgu sut mae’r rheini’n cael eu gwneud, i flasu detholiad ohonyn nhw, ac i fwynhau platiaid hyfryd o gaws. Mae talebau ar gael.
Castell Dinbych
Mae Castell Dinbych yn dipyn o atyniad. Fe’i codwyd ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg gan Henry de Lacy, un o brif gadfridogion y Brenin Edward I, a hynny fel rhan o gynllun y brenin i goncro’r Cymry. A hwnnw’n sefyll ar gopa bryn uwchben y dref, mae’n rhoi golygfeydd godidog o’r wlad. Bydd ymwelwyr o bell ac agos yn dod yma, ac mae’n safle hanesyddol o bwys.
Nodwedd fwyaf trawiadol y castell yw ei borthdy a’i dri thŵr. Yn y castell hwn ar un adeg roedd llys Dafydd ap Gruffudd. Ymosodiad hwnnw ar gastell cyfagos Penarlâg a gymhellodd Edward I, brenin Lloegr, i gychwyn ei oresgyniad mawr.
Mae cyfle i ymwelwyr weld adfeilion y castell, dysgu am ei hanes, ac edmygu’r golygfeydd. Wrth alw draw, cofiwch chwilio am y ‘cyrchborth’ hynod – sef drws cudd a fyddai’n galluogi amddiffynwyr i sleifio i mewn ac allan o’r castell. A cheisiwch hefyd ganfod y tyrau crwn a’r rhai amlonglog, gan weld beth sy’n wahanol rhyngddyn nhw. Codwyd y rhain ar adegau gwahanol tua 1282 a 1295.

