Sut i Gystadlu
Drwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar https://croeso.cymru/rafflau/yd17 bydd gennych y cyfle i ennill Tocyn Rhodd Welsh Rarebits gwerth £250. Telerau ac amodau isod:
• RHAID i Docynnau Rhodd Welsh Rarebits gael eu cyflwyno wrth i chi gyrraedd yr eiddo er mwyn i’r eiddo allu dilysu’r tocynnau. Mae’r eiddo'n cadw'r hawl i wrthod tocynnau os byddant yn cael eu cyflwyno unrhyw adeg arall.
• Mae Tocynnau Rhodd Welsh Rarebits yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad prynu’r tocynnau. Mae’r dyddiad hwn i’w weld ar docynnau unigol. Ni fydd modd ymestyn cyfnod y tocynnau y tu hwnt i'r dyddiad sydd wedi’i nodi ar unrhyw gyfrif. Cysylltwch â Welsh Rarebits cyn i’r tocyn ddod i ben os ydych chi’n cael trafferth trefnu eich gwyliau. Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad os na fydd tocynnau wedi cael eu defnyddio yn ystod y cyfnod dilys o 12 mis.
• Ni roddir newid os yw pryniant yn costio llai na gwerth y Tocyn Rhodd a gyflwynir.
• Ni ellir cyfnewid Tocynnau Rhodd am arian parod.
• Bydd Tocynnau Anrheg yn cael eu dilysu pan fyddant yn cael eu cyflwyno ac mae pob eiddo unigol yn cadw’r hawl i wrthod derbyn unrhyw docyn sydd wedi cael ei ffugio, ei ddifrodi, ei ddifetha neu ei addasu fel arall, neu sy'n ymddangos felly.
• Ni dderbynnir cyfrifoldeb am Docynnau Rhodd sydd ar goll, wedi cael eu dwyn neu wedi eu difrodi ac ni fydd tocynnau o’r fath yn cael eu had-dalu. Bydd tocynnau sydd wedi cael eu difetha yn annilys.
• Ni ellir defnyddio tocynnau anrheg Welsh Rarebits ac eithrio ar gyfer llety a bwyd mewn eiddo Welsh Rarebits sydd ag aelodaeth Welsh Rarebits gyfredol adeg eu defnyddio. NI ELLIR defnyddio tocynnau anrheg Welsh Rarebits mewn unrhyw eiddo Great Little Places neu Rare Hideaways. Ni ellir trosglwyddo nac ad-dalu’r Wobr.
Mae'r telerau a'r amodau canlynol ynghlwm wrth y gystadleuaeth:
Enw a Chyfeiriad yr Hyrwyddwr
1. Croeso Cymru, (Llywodraeth Cymru), Canolfan QED, Y Brif Rodfa, Ystad Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf CF37 5YR. (yr "Hyrwyddwr") cyfeiriad ebost; info@visitwales.com.
Dyddiad Dechrau
2. Bydd enwau ar gyfer y Raffl Fawr yn cael eu derbyn o 12.00am ar 14 Chwefror 2019 (y "Dyddiad Agor”).
Dyddiad Cau
3. Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 5:00 pm ar y 17 Mawrth 2019 (y “Dyddiad Cau”).
Sut i gymryd rhan
4. Er mwyn cystadlu yn y Raffl Fawr hon, rhaid i’r cystadleuwr lenwi a chyflwyno’r ffurflen gais sydd i’w chael ar-lein https://croeso.cymru/rafflau/yd17 erbyn y Dyddiad Cau.
5. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n cystadlu fod yn fodau dynol, yn byw ym Mhrydain neu Ogledd Iwerddon, dros 18 oed a heb fod yn gyflogedig (nac aelodau o'u teulu) gan Lywodraeth Cymru, Cardiff City FC neu Welsh Rarebits.
6. Unwaith y caiff rhywun gystadlu. Ni chewch gystadlu ar y cyd â rhywun arall. Ni fydd gennych hawl i gystadlu ar ran person arall.
7. Unwaith y byddwch wedi cystadlu, mae'n rhaid ichi gydnabod mai'r Hyrwyddwr fydd yn berchen ar bob hawlfraint, preifatrwydd, cyhoeddusrwydd a phob hawl arall sy'n gysylltiedig â'r cais. Bydd y cystadleuwyr felly'n rhoi pob hawlfraint byd-eang a hawliau tebyg yn eu ceisiadau i'r Hyrwyddwr ac yn ildio pob hawl moesol.
8. Ni fydd unrhyw geisiadau a ddaw i law wedi'r Dyddiad Cau yn cael eu cynnwys yn y raffl. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd wedi'r Dyddiad Cau, boed hwy wedi mynd ar goll, bod oedi wedi bod, eu bod wedi'u difetha neu unrhyw beth arall, boed hynny oherwydd anawsterau neu namau technegol.
9. Ni fydd ceisiadau heb eu llenwi'n iawn neu'n anodd eu deall yn gymwys ar gyfer y Raffl Fawr.
10. Trwy gyflwyno cais i'r Raffl Fawr, rydych wedi rhwymo i ddilyn y telerau a'r amodau hyn. Drwy ymuno â'r raffl, rydych yn cytuno i unrhyw wybodaeth bersonol sy'n cael ei ddarparu gennych gyda'r cais yn y raffl fawr gael ei gadw a'i ddefnyddio gan yr Hyrwyddwr neu ei asiantwyr yn unig a'r cyflenwyr sy'n gweinyddu'r Gystadleuaeth.
Y Wobr
11. Un wobr sydd: Tocyn Rhodd Welsh Rarebits gwerth £250
• RHAID i Docynnau Rhodd Welsh Rarebits gael eu cyflwyno wrth i chi gyrraedd yr eiddo er mwyn i’r eiddo allu dilysu’r tocynnau. Mae’r eiddo'n cadw'r hawl i wrthod tocynnau os byddant yn cael eu cyflwyno unrhyw adeg arall.
• Mae Tocynnau Rhodd Welsh Rarebits yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad prynu’r tocynnau. Mae’r dyddiad hwn i’w weld ar docynnau unigol. Ni fydd modd ymestyn cyfnod y tocynnau y tu hwnt i'r dyddiad sydd wedi’i nodi ar unrhyw gyfrif. Cysylltwch â Welsh Rarebits cyn i’r tocyn ddod i ben os ydych chi’n cael trafferth trefnu eich gwyliau. Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad os na fydd tocynnau wedi cael eu defnyddio yn ystod y cyfnod dilys o 12 mis.
• Ni roddir newid os yw pryniant yn costio llai na gwerth y Tocyn Rhodd a gyflwynir.
• Ni ellir cyfnewid Tocynnau Rhodd am arian parod.
• Bydd Tocynnau Anrheg yn cael eu dilysu pan fyddant yn cael eu cyflwyno ac mae pob eiddo unigol yn cadw’r hawl i wrthod derbyn unrhyw docyn sydd wedi cael ei ffugio, ei ddifrodi, ei ddifetha neu ei addasu fel arall, neu sy'n ymddangos felly.
• Ni dderbynnir cyfrifoldeb am Docynnau Rhodd sydd ar goll, wedi cael eu dwyn neu wedi eu difrodi ac ni fydd tocynnau o’r fath yn cael eu had-dalu. Bydd tocynnau sydd wedi cael eu difetha yn annilys.
• Ni ellir defnyddio tocynnau anrheg Welsh Rarebits ac eithrio ar gyfer llety a bwyd mewn eiddo Welsh Rarebits sydd ag aelodaeth Welsh Rarebits gyfredol adeg eu defnyddio. NI ELLIR defnyddio tocynnau anrheg Welsh Rarebits mewn unrhyw eiddo Great Little Places neu Rare Hideaways.
12. Ni ellir trosglwyddo nac ad-dalu’r Wobr.
13. Ni fydd arian parod yn cael ei gynnig yn lle unrhyw wobr sydd wedi’i rhoi, hyd yn oed mewn achosion o ganslo.
Dewis Enillydd
14. Bydd enillydd y raffl yn cael ei ddewis ar hap gan yr Hyrwyddwr cyn 20 Mawrth 2019 o blith y ceisiadau sydd wedi dod i law erbyn y Dyddiad Cau.
15. Mae'r enillydd yn cytuno y gall ei henw hi/ef yn cael ei ddefnyddio yn y deunydd hysbysrwydd. Bydd cyhoeddusrwydd o'r fath yn cynnwys yr Enillydd yn cael ei ffilmio ar y daith at ddibenion hyrwyddo. Mae'r Enillydd yn cytuno i'w enw ef/hi a'r ffotograffydd yn ogystal ag unrhyw ddeunydd hyrwyddo gael eu defnyddio ar wefan Croeso Cymru, y cyfryngau cymdeithasol ac unrhyw gyfryngau hyrwyddo eraill.
Hysbysu'r enillydd a derbyn y Wobr
16. Bydd enw'r enillydd ar gael am hyd at 28 diwrnod ar ôl y dyddiad cau i unrhyw un sy'n anfon eu cyfeiriad e-bost at info@visitwales.com mewn neges â'r pwnc Claire McGeer, Cardiff City FC YD17.
17. Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu mewn ebost wedi'r raffl o dan y cyfeiriad e-bost sy'n cael ei roi ganddynt yn y cais. Os nad yw'r enillydd yn ateb yr e-bost hwn o fewn 3 diwrnod wedi anfon yr e-bost, ac yn hysbysu'r Hyrwyddwr y bydd yn derbyn y Wobr, yna mae gan yr Hyrwyddwr yr hawl i gynnig y Wobr i ymgeisydd arall gaiff ei ddewis ar hap o blith yr ymgeiswyr sy'n weddill. Bydd yr enillydd yn derbyn y Wobr o fewn amser rhesymol wedi hynny.
18. Mae dewis yr enillydd gan yr Hyrwyddwr yn dod â'r raffl i ben.
19. Nid os hawl cyfreithiol dros dderbyn gwobr. Nid oes hawl i fynd ar ôl y mater yn y llysoedd.
Diogelu Data
20. Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn inni. Er mwyn ei gwneud yn haws ichi gystadlu yn y Wobr Fawr, mae'r Hyrwyddwr yn casglu'r wybodaeth yn eich cylch (Data Personol) yr ydych yn ei ddarparu ar y ffurflen gais ar-lein. Os nad ydych wedi cydsynio inni ddefnyddio eich Data Personol i anfon at gyfathrebwyr eraill, byddwn ond yn defnyddio eich Data Personol at ddibenion cystadlu yn y Raffl Fawr. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu hyn yw ei bod yn angenrheidiol ar gyfer y contract gyda chi. Os byddwch yn ennill, gallai hyn ei gwneud yn ofynnol inni rannu eich Data Personol gyda phartneriaid trydydd parti wedi'u henwi sy'n gyfrifol am ddarparu'r wobr. Byddwn yn cadw eich Data Personol am 28 niwrnod o'r dyddiad cau ac yna yn ei ddileu. Am ragor o wybodaeth ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud â'ch Data Personol, os ydych wedi rhoi eich cydsyniad i'ch Data Personol gael ei anfon at gyfathrebwyr eraill, edrychwch ar yr Hysbysiad Preifatrwydd yng Nghylchlythyr yr Hyrwyddwr sydd ar gael ar-lein yma. Os ydych wedi cytuno i dderbyn cyfathrebiadau gan ein partneriaid trydydd parti, bydd eich Data Personol yn cael ei rannu gyda hwy. Nid ydym yn gyfrifol am yr hyn y maent yn ei wneud gyda'ch Data Personol a dylech eu holi hwy ynghylch eu prosesau diogelu data eu hunain.
Cyfyngiadau a gofynion
21. Dim.
Cyffredinol
22. Mae'r raffl am ddim. Nid oes angen prynu dim byd. Trwy ddefnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer y raffl, mae'n bosibl y bydd costau gan ddarparwr y rhyngrwyd.
23. Cyfreithiau Cymru a Lloegr fydd yn llywio ac yn llunio y telerau a'r amodau hyn.
24. Dylai unrhyw ymholiadau sy'n gysylltiedig â'r wobr hon gael eu cyflwyno i'r Hyrwyddwr yn y cyfeiriad sy'n cael ei nodi yn Amod 1.