Attraction

Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 4

Image of a way marker on a post. The way marker is embroidered with the Llwybr Coedwig Cymru Trail logo in a cream arrow pointing west.
Rhan beilot oddeutu 80km o hyd o Lwybr Coedwig Cymru sy'n eich cysylltu â rhai o safleoedd y Goedwig Genedlaethol yn Ne Cymru. Fe welwch yr amrywiaeth o goetiroedd a choedwigoedd, o lydanddail cymysg i goedwigoedd cynhyrchiol – rhywbeth i'r teulu ei fwynhau a fydd at ddant pobl sy'n hoff o natur a'r rhai sy'n chwilio am antur ar droed, ar feic neu ar geffyl!

Attraction Information

Get in touch

Location:
Merthyr Road, Pont Walby, Neath, SA11 5LR
Email:
nationalforestwales@gov.wales
Website:
https://www.gov.wales/llwybr-coedwig-cymru-trail

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Nodweddion

  • Coedwig Genedlaethol

About Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 4

Mae’r adran hon yn cynnwys rhannau sy’n fwy heriol, oherwydd yr esgyniad, ond cewch eich gwobrwyo gyda golygfeydd hyfryd o Goedwig Ogwr. Wrth adael Nant y Moel a mynd i gyfeiriad y coetir, mae angen dringo ychydig er mwyn cyrraedd llwyfandir Carn yr hyrddod/Tarren y Fforch. O'r pwynt hwn fe welwch olygfa eang o Dde Cymru a chyn belled â De Orllewin Lloegr. Yna mae'r llwybr yn mynd tua’r gogledd gan ddilyn y rhwydwaith llwybrau troed heibio'r Ffermydd Gwynt i Barc Coedwig Afan.  Wrth groesi'r A4107 mae'r llwybr yn parhau oddi ar y ffordd gan ddilyn ffyrdd coedwig llydan am 18km. Mae'r llwybr yn teithio ochr yn ochr ag ardaloedd coedwig Cwm Saerbren a Pharc Coedwig Afan, yna i mewn i Floc Coedwig Glyncorrwg. Gan barhau drwy Glyncorrwg (Coedwig Cymer) byddwch yn mynd heibio i Fferm Wynt Pen-y-cymoedd.  Yna mae'r llwybr yn ymuno â Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 47 am 3.5km. Mae'r llwybr yn gadael bloc coedwig enfawr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, i'r gogledd o Lyn Fawr. O Gwm Hwnt byddwch yn dilyn llwybrau troed ar hyd Cwm Gwrelych trwy goetiroedd llydanddail, ardal sydd wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei nodweddion daearegol. Dysgwch fwy am hyn ar hyd y ffordd wrth i chi ddilyn rhan o Geo-lwybr Cwm Gwrelych.  Mae’r llwybr yn gorffen ger traphont Pont Walby ychydig i’r de o dref Glyn-nedd, lle gallwch gael mynediad at amwynderau lleol a maes parcio. Mae'r draphont yn rhestredig Gradd II. Cafodd ei dylunio gan Brunel a’i hadeiladu ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Lleoliad

51.74576, -3.60824

Like what you see at Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 4
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 4. © Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 4 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig