Attraction

Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 3

Image of a walkway through an autumn woodland, with a raised bank on the lefthand side of the path.
Rhan beilot oddeutu 80km o hyd o Lwybr Coedwig Cymru sy'n eich cysylltu â rhai o safleoedd y Goedwig Genedlaethol yn Ne Cymru. Fe welwch yr amrywiaeth o goetiroedd a choedwigoedd, o lydanddail cymysg i goedwigoedd cynhyrchiol – rhywbeth i'r teulu ei fwynhau a fydd at ddant pobl sy'n hoff o natur a'r rhai sy'n chwilio am antur ar droed, ar feic neu ar geffyl!

Attraction Information

Get in touch

Location:
Blackmill, Bridgend, CF35 6DR
Email:
nationalforestwales@gov.wales
Website:
https://www.gov.wales/llwybr-coedwig-cymru-trail

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Nodweddion

  • Coedwig Genedlaethol

About Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 3

Gan ddechrau yng Nghoedwig Llantrisant, mae mannau parcio ar gael yng Nghoed Garthmaelwg neu Donysguboriau gerllaw. Ymunwch â llwybr Coedwig Cymru drwy Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 4.  Mae'r rhan 18km hon o'r llwybr yn dilyn Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 4 nes i chi gyrraedd Melin Ifan Ddu, lle mae'r llwybr yn parhau ar Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 883.  Wrth i'r llwybr fynd tua'r gogledd o Goedwig Llantrisant, cewch olygfeydd o'r coed ffynidwydd Douglas aeddfed, yr amcangyfrifir eu bod tua 100 mlwydd oed. Mae'r llwybr oddi ar y ffordd yn parhau ochr yn ochr ag ardaloedd coediog i Thomastown, lle mae'r llwybr wedyn yn troi i'r gorllewin tuag at y Felin Ifan Ddu gan ddilyn dyffryn coediog Nant Llanilid a Chwm Ogwr Fach. Wrth i chi fynd i mewn i Felin Ifan Ddu, byddwch yn mynd heibio'r fynedfa i Goed Bach Dimbath; safle Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r coetir llydanddail cymysg 2.3 hectar hwn yn cael ei reoli gan Cymoedd i’r Arfordir ar gyfer y gymuned leol. Gallwch gael mynediad at amwynderau lleol ym Melin Ifan Ddu, gan gynnwys parcio a gwasanaethau bysiau. O'r fan hon, mae'r llwybr yn parhau oddi ar y ffordd tua'r gogledd i Nant y Moel gan ddilyn ardaloedd o goetir llydanddail ar hyd Ogwr Fawr, gyda golygfeydd i Goedwig Ogwr, coedwig weithredol gydag ardaloedd eang o gonwydd yn cael eu cynaeafu yn fasnachol. Mae'r llwybr yn mynd trwy Olchfeydd Ogwr; ardal goetir gymunedol, lle gallech weld adar coetir fel y Dringwr Bach. Mae'r llwybr yn mynd trwy Fro Ogwr, gan barhau ar hyd y dyffryn coediog nes i chi gyrraedd Nant y Moel, lle gallwch gamu oddi ar y llwybr i ymweld â Choetiroedd Bach Nant y Moel. Mae’r coetir hwn a blannwyd yn 2021 yn cynnwys 25 rhywogaeth o goed brodorol. Yn Nant y Moel mae'r llwybr yn gwyro oddi wrth Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 883 i ddilyn llwybrau troed i goedwig Nant y Moel. Mae coedwig Nant y Moel yn rhan o Goedwig Ogwr, sy’n cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Lleoliad

51.5697, -3.53933

Like what you see at Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 3
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 3. © Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 3 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig