Attraction

Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 1

Image of woodlands and boardwalk in Porthkerry with the viaduct in the background. There is also a train going across the viaduct.
Rhan beilot oddeutu 80km o hyd o Lwybr Coedwig Cymru sy'n eich cysylltu â rhai o safleoedd y Goedwig Genedlaethol yn Ne Cymru. Fe welwch yr amrywiaeth o goetiroedd a choedwigoedd, o lydanddail cymysg i goedwigoedd cynhyrchiol – rhywbeth i'r teulu ei fwynhau a fydd at ddant pobl sy'n hoff o natur a'r rhai sy'n chwilio am antur ar droed, ar feic neu ar geffyl!

Attraction Information

Get in touch

Location:
Porthkerry Country Park, Barry, Barry, CF62 3BZ
Email:
nationalforestwales@gov.wales
Website:
https://www.gov.wales/llwybr-coedwig-cymru-trail

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Nodweddion

  • Coedwig Genedlaethol

About Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 1

Gan ddechrau ym Mharc Gwledig Porthceri, mae'r 2 km cyntaf o'r llwybr yn mynd â chi ochr yn ochr â choetiroedd o bwysigrwydd cenedlaethol ac i goetiroedd sy'n arddangos treftadaeth y diwydiant coedwigaeth o'r 19eg ganrif.  Wrth i chi adael y parc, mae'r llwybr yn parhau ar droedffordd i gerddwyr ochr yn ochr â ffin planhigfa Middleton, planhigfa lydanddail gymysg a Choedwig Middleton, rhan o SoDdGA Coedydd y Barri, safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a nodwyd am ei goetir llydanddail lled-naturiol. Yna, mae’r llwybr yn dilyn yr hen ffordd, sy’n adnabyddus yn lleol fel lôn bum milltir, sydd ar agor i gerddwyr a beicwyr. Yna mae'n parhau ar hyd y ffin i Goed Sutton. Arhoswch ar y llwybr hwn am 3km a byddwch yn mynd heibio i fynedfa Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, cartref Coed Whitton ac un o safleoedd Coedwig Genedlaethol Cymru.  Fe welwch y coetir i'r gorllewin o'r llwybr trwy'r gwrych. Wrth i’r llwybr barhau tuag at Dresimwn, fe welwch goetiroedd llydanddail i’r dwyrain ac i’r gorllewin o’r llwybr. Wrth i chi fynd i mewn i'r pentref, gallwch gael mynediad i lawer o amwynderau yma, gan gynnwys tafarndai, caffis a siop y pentref. Wrth adael y pentref, mae’r llwybr yn mynd tua’r gogledd tuag at Goedwig Hensol a heibio Fferm Coed Nadolig Ty Cerrig. Wrth i chi fynd heibio Ty Cerrig byddwch yn mynd i mewn i Goedwig Hensol. Mae’r llwybr yn parhau am 3km trwy goetiroedd Coedwig Genedlaethol Cymru, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Lleoliad

51.39182, -3.31354

Like what you see at Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 1
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 1. © Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 1 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig