Paratowyd y safonau hyn er mwyn:
- Cefnogi darparwyr wrth iddyn nhw ddarparu ymarfer diogel ac effeithiol ;
- Cefnogi darparwyr o ran bodloni disgwyliadau Croeso Cymru ar gyfer twristiaeth gweithgareddau cynaliadwy a gofynion ‘arferion da’ y sector awyr agored;
- Hyrwyddo a sicrhau ansawdd ymarfer;
- Cefnogi darparwyr o ran sicrhau ac arddangos safon o ran ‘gofal i gwsmeriaid’
- Cefnogi darparwyr a’r rhai sy’n prynu gwasanaethau neu’n defnyddio ymarferwyr awyr agored i werthuso safon darpariaeth twristiaeth gweithgareddau a hamdden awyr agored
Y safonau gofynnol
Ymreolaeth ac atebolrwydd – cymhwysedd y staff hyfforddi
- Mae darparwyr yn defnyddio staff hyfforddi i ymarfer o fewn cwmpas eu cymwyseddau;
- Mae darparwyr sy’n defnyddio staff hyfforddi yn dangos yr ymddygiadau, sgiliau a gwybodaeth i gyflawni cyfrifoldebau eu rôl;
- Mae darparwyr yn cyflawni eu dyletswydd gofal tuag at bawb sy’n cymryd rhan;
- Mae darparwyr yn arddangos proffesiynoldeb bob amser.
Darparu gwasanaeth diogel ac effeithiol
- Lle mae rôl newydd yn cael ei gyflwyno, bod rhaglen i gyfarwyddo a chynefino sydd wedi’i chynllunio priodol yn cael ei gynnal;
- Mae staffio a set sgiliau yn ddigonol i gefnogi’r gwasanaethau a ddarperir;
- Dylai gweithdrefnau gweithredol fod yn gyson â safonau a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer pob un o’r gweithgareddau a ddarperir;
- Caiff gwasanaethau eu darparu mewn amgylchedd lle rheolir risg a chynigir dull systematig, rhagweithiol ac ymatebol o reoli risg (gan gynnwys gweithwyr unigol) yn dilyn strategaeth gyffredinol y sefydliad;
- Mae dull systematig, rhagweithiol ac ymatebol ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd o argyfwng sy’n dilyn Cynllun Gweithredu mewn Argyfwng y sefydliad;
Dysgu a datblygiad
- Mae darparwyr yn ymgysylltu’n weithredol ac yn myfyrio ar y broses o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal a datblygu cymhwysedd eu staff i ymarfer;
- Mae darparwyr yn cynnig cyfleoedd DPP o ansawdd sy’n helpu eraill i ddysgu a datblygu;
- Mae darparwyr yn ymgysylltu’n weithredol â chefnogi Prentisiaid, Hyfforddeion ac ati a datblygiad eu cymdeithasoliad proffesiynol;
- Mae strwythurau, prosesau ac adnoddau cydnabyddedig ar waith sy’n cefnogi dysgu a datblygiad yn y gweithle ac sy’n galluogi darparwyr a’u staff i fodloni gofynion eu rôl a bodloni gofynion DPP proffesiynol a rheoleiddiol.
Gweithio mewn partneriaeth
- Caiff gwasanaethau eu dylunio, eu cynllunio a’u darparu gyda’r nod o hyrwyddo a gwella twristiaeth a hamdden, ymwybyddiaeth amgylcheddol, rheoli diogelwch, iechyd a lles, yn ogystal ag addysgu a datblygu pawb;
- Caiff defnyddwyr gwasanaethau eu parchu fel unigolion a’u gosod wrth wraidd eu dysgu a datblygiad eu hunain, a thrwy hynny caiff defnyddwyr eu grymuso i gyfranogi yn eu datblygiad eu hunain;
- Sefydlwyd cydweithio o fewn a rhwng darparwyr gwasanaethau i alluogi cynnal modelau ‘arferion da’.
- Gweithio gyda’r Grwpiau Siarter rhanbarthol priodol (Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru (SWOAPG), Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro (POCG) ac Eryri Bywiol (S-A) / Grŵp Siarter Awyr Agored Amgylcheddol Gogledd Cymru (NWEOCG) er mwyn sicrhau bod modelau arferion da amgylcheddol yn cael eu cynnal.
Cydsynio
- Mae darparwyr yn rhoi ac yn cofnodi derbyn dogfennau cydsynio gan y defnyddiwr cyn bod y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gynnal;
- Wrth gydsynio, mae defnyddwyr gwasanaeth yn gwbl ymwybodol o’r hyn y maen nhw’n cydsynio iddo, h.y. yn deall math a lefel y gweithgaredd i’w gyflawni a’r lefelau risg sy’n gysylltiedig;
- Os yw defnyddiwr y gwasanaeth o dan oedran cydsynio, yna mae’n rhaid rhoi a chofnodi dogfennau cydsynio gan drydydd parti, h.y. Rhiant neu Warcheidwad.
Cadw cofnodion a rheoli gwybodaeth
- Caiff cofnodion eu storio tra eu bod yn gyfredol a’u gwaredu yn unol â gofynion cyfreithiol;
- Mae systemau casglu data wedi’u cynllunio a’u cynnal i ddarparu diogelwch effeithiol;
- Mae darparwyr yn gallu rhoi tystiolaeth o archwiliadau cyfnodol o gofnodion, mewn perthynas â gweithdrefnau gweithredol, rheoli risg ac offer ac ati, gan ddangos llywodraethu cyfredol a bod offer yn/yn parhau i fod yn ‘addas i’r diben’.
Cyfathrebu
- Mae mecanweithiau’n bodoli i sicrhau cyfathrebu effeithiol o fewn a thu allan y sefydliad;
- Mae darparwyr yn cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau gwasanaethau effeithiol ac effeithlon;
- Mae darparwyr yn cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr proffesiynol awyr agored eraill ac asiantaethau allanol perthnasol i sicrhau gwasanaethau effeithiol ac effeithlon;
- Mae darparwyr yn trin pob gwybodaeth yn gwbl gyfrinachol.
Rheolaeth a darpariaeth
- Mae mynediad teg i wasanaethau;
- Bydd darparwyr yn rhoi ystyriaeth i gyngor gan Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol a Siarteri Cenedlaethol / Rhanbarthol, yn ogystal â chadw at ‘arferion da’ ym mhob agwedd ar y busnes, gan gynnwys diogelwch ac ansawdd.
- Mae darparwyr yn dangos tystiolaeth bod y gwaith o reoli diogelwch yn cael ei gynghori’n effeithiol gan un neu fwy o bersonau cymwys (Ymgynghorydd Technegol) gyda digon o wybodaeth am faterion diogelwch mewn perthynas â’r cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau antur a ddarperir gan y sefydliad.
- Rhaid i’r ‘Ymgynghorydd Technegol’ fod ag arbenigedd priodol ac yn gymwys i roi cyngor.
Gwerthuso gwasanaethau
- Sicrhau bod prosesau gwella ansawdd effeithiol ar waith, sy’n cael eu hintegreiddio i’r strwythur presennol;
- Sicrhau bod rhaglen archwilio’n bodoli ar gyfer sicrhau gwelliant parhaus o ran ansawdd;
- Sicrhau bod gweithdrefn glir sy’n ymatebol i newid yn bodoli ar gyfer gwneud a delio â chwynion.
Hyrwyddo a marchnata gwasanaethau a chynnyrch y sector twristiaeth gweithgareddau a hamdden awyr agored
- Bod gwybodaeth a ddarperir ynglŷn â gwasanaethau a chynnyrch yn adlewyrchu’n gywir yr hyn a gynigir gan y darparwr;
- Bod gwasanaethau a gaiff eu gwerthu neu eu cyflenwi i ddefnyddwyr gwasanaeth yn angenrheidiol;
- Bod cymeradwyaeth ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth yn seiliedig ar resymau cadarn, tystiolaeth ac ystyriaeth o’r gost ac ansawdd.