Mae Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn dychwelyd i'r dref am ei hail flwyddyn, ac rydw i mor hapus am hyn. Unrhyw esgus i ddychwelyd adre. Ac am esgus. Bydd tua 50 o’r digrifwyr gorau yn y DU yn heidio i’r dref brifysgol glan y môr yma, ac rwy’n cael aros gyda fy rhieni â’r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny. Ry’n ni'n sôn am dri diwrnod o gomedi, gefn wrth gefn, felly bydd angen rhywfaint o faldod arna i.

Treuliais dair wythnos yng Ngŵyl Caeredin eleni, gan geisio gweld cymaint o sioeau â phosib. Ond nid yw byth yn bosibl gweld popeth felly, tua diwedd mis Awst, ro’n i’n blaenoriaethu sioeau i'w gweld yn ôl a fyddai modd i mi eu gweld yn Aberystwyth yn yr hydref. A nawr, dyma fy nghyfle i ac unrhyw un arall sydd wedi profi FOMO (ofn colli allan) comedi dros y misoedd diwethaf.

Gweledigaeth trefnwyr yr ŵyl yw i ddarparu lle i berfformwyr berfformio sioeau mwy gorffenedig yn dilyn slotiau ‘gwaith mewn llaw’ yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth yn y gwanwyn, a mis yng Ngŵyl Caeredin dros yr haf. Eleni, mae’r ŵyl eisoes yn tyfu ac yn ehangu ei chyrhaeddiad ar hyd glan y môr, trwy'r dref ac i fyny tuag at gampws Prifysgol Aberystwyth.

Llun o'r comediwr Kiri Pritchard-McLean mewn dillad sgleiniog
Llun o'r comediwr Tudur Owen yn edrych yn feddylgar
Llun agos o'r comediwr Elis James

Kiri Pritchard-McLean, Tudur Owen ac Elis James

Roedd rhai o sioeau 2019  yn cynnwys Jordan Brookes - enillydd Gwobr Gomedi Caeredin 2019; Spencer Jones, The Delightful Sausage a Jessica Fostekew a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gomedi Caeredin 2019; Amusical, a gafodd ei darlledu mewn awr arbennig ar Comedy Central yn ddiweddar. Hefyd, roedd pedwar o allforion mwyaf Cymru, Kiri Pritchard-McLean, Elis James, Tudur Owen a Mike Bubbins; ac enwau mawr eraill fel Mark Watson.

Roedd yna sawl gig cyfrwng Cymraeg i’w mwynhau – gwnaeth Elis James gwaith mewn llaw,  cyflwynodd Tudur Owen 90 munud o’r comedïwyr gorau ar y sîn Gymraeg a sioe gomedi ‘Clwb Carco’ i blant.

Rhwng y sioeau, mae opsiynau ar gyfer cymdeithasu yn ddiddiwedd. Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae darpariaeth bwyd a diod Aberystwyth wedi aeddfedu llawer, a fy ffefrynnau personol i yw Medina - y prydau mwyaf ffres wedi eu hysbrydoli gan Fôr y Canoldir a’r Dwyrain Canol, Baravin - bwyd gwych ond hefyd, yn fy marn i, y coctels gorau yn y dref, Ultracomida - gwinoedd a tapas anhygoel a'r Tarta de Santiago gorau gewch chi, Gwesty Cymru - sy'n ymfalchïo mewn gweini’r gorau o gynnyrch Cymreig, ac Amgueddfa Ceredigion - opsiwn gwych ar gyfer brunch a mynediad am ddim i arddangosfeydd o hanes Ceredigion ac Aberystwyth.

Ond beth bynnag wnewch chi neu pa bynnag sioe welwch chi, chewch chi ddim eich siomi.

Glan môr Aberystwyth yn y nos gyda'r pier wedi goleuo

Prom Aberystwyth a'r Pier

Straeon cysylltiedig