Caiff digwyddiadau eu dangos ar Croeso Cymru a Visit Wales mewn dwy ffordd: 

  1. Cronfa Ddata o Ddigwyddiadau Visit Wales – os oes gennych ddigwyddiad yr hoffech ei gynnwys gallwch naill ai ychwanegu’r digwyddiad eich hun drwy wefan ProductListing.Wales, neu gallwch lenwi a dychwelyd y ffurflen hon: https://rhestrucynnyrch.cymru/newevent.aspx.  Nodwch fod angen i lun y digwyddiad fod o leiaf 1920 x 1440 picsel.
     
  2. Digwyddiadau misol Croeso Cymru – dyma restr olygyddol o ddigwyddiadau gyda ffocws ar Ddigwyddiadau Mawr neu ddigwyddiadau ag iddyn nhw arwyddocâd cenedlaethol neu ranbarthol. Os oes gennych ddiddordeb mewn ychwanegu eich digwyddiad, e-bostiwch enquiries.wales@llyw.cymru.

Os hoffech gymorth i ddefnyddio ProductListing.Wales, cysylltwch â Stiward Data Croeso Cymru:

Ni ddylai’r digwyddiadau a restrir gennym fod yn rhy ‘lleol’ ond dylen nhw fod yn ddigon safonol i apelio at ymwelwyr rhyngwladol yn ogystal ag ymwelwyr domestig.  Dylai fod digon o gyhoeddusrwydd / presenoldeb ar y we neu ddigwyddiadau cymdeithasol (ar Facebook er enghraifft) ynghylch y digwyddiad i allu cyfeirio ymwelwyr ato, os bydd angen mwy o wybodaeth / cyfarwyddiadau neu brisiau arnyn nhw.

Meini prawf

  • Ni ddylai digwyddiad barhau am fwy na mis.
  • Rhaid denu o leiaf 500+ o bobl i fynychu.
  • Ymdrechwn i hyrwyddo a marchnata Cymru’n lleol ac yn rhyngwladol gan hyrwyddo enw da Cymru fel cyrchfan digwyddiadau byd-eang. Mae Croeso Cymru’n blaenoriaethu digwyddiadau yr ydym wedi buddsoddi’n ariannol ynddyn nhw neu wedi cynnig lefel o gymorth grant er mwyn iddyn nhw gynnal eu digwyddiad yng Nghymru. Efallai y byddwn yn cynnwys rhai digwyddiadau oherwydd eu natur unigryw a’u gallu i ddenu ymwelwyr i’r ardal benodol honno neu godi proffil Cymru.

Digwyddiadau Mawr

Fe’u diffinnir gan eu gallu i ddenu a dylanwadu ar gynulleidfaoedd rhyngwladol ar raddfa eang a sicrhau sylw sylweddol ar y cyfryngau. Dylai’r digwyddiadau sicrhau effaith economaidd a nifer sylweddol o ymwelwyr i’r gyrchfan. Gallan nhw ddenu cynulleidfaoedd teledu byd-eang a bydd noddwyr rhyngwladol mawr yn aml yn cyfrannu atyn nhw. Gallan nhw effeithio’n gadarnhaol o ran dylanwadu ar rannau penodol o’r farchnad a newid agwedd ac ymddygiad. Nid yw Cymru’n ‘berchen’ ar y digwyddiadau rhyngwladol hyn a byddai’n rhaid iddyn nhw fod wedi dewis Cymru yn wyneb cystadleuaeth ryngwladol. Mae enghreifftiau’n cynnwys Prawf Criced yr ‘Ashes’, rownd derfynol Cwpan rygbi Heineken a WOMEX.

Digwyddiadau Unigryw

Mae’n bosibl bod gan y digwyddiadau hyn hefyd ddimensiwn rhyngwladol cryf ond yn wahanol i’r categori digwyddiadau mawr a ddisgrifir uchod, maen nhw’n ddigwyddiadau sy’n digwydd yn gyson neu’n rheolaidd.  Maen nhw’n naill ai’n unigryw i Gymru neu’n arbennig o Gymreig eu natur, ac yn adlewyrchu ein diwylliant, traddodiadau a gwerthoedd. Maen nhw’n cyfoethogi delwedd a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru ac yn darparu profiad arbennig i bobl Cymru ac i ymwelwyr. Mae Digwyddiadau Unigryw llwyddiannus yn adfywio ac adnewyddu cynulleidfaoedd. Mae enghreifftiau’n cynnwys digwyddiadau sydd wedi hen sefydlu fel Gŵyl y Gelli, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Hanner Marathon Caerdydd a gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Digwyddiadau Twf

Mae’r rhain fel rheol yn ddigwyddiadau llai, newydd yn aml, ag ôl troed a ffocws o natur rhanbarthol, lleol neu sector. Maen nhw'n dangos uchelgais a photensial i ddod yn Ddigwyddiadau Mawr neu Unigryw i Gymru. Mae’n bosibl hefyd i’r digwyddiadau hyn weithredu fel cerrig milltir yn y broses o dyfu mewn profiad a hygrededd Cymru fel cyrchfan, yn rhagarweiniad i’r gwaith o gynnal digwyddiad mawr.  Mae enghreifftiau’n cynnwys Gwyliau FOCUS Wales, Beyond the Border a Gŵyl Gomedi Machynlleth.

Straeon cysylltiedig