Yn Senedd Utah yn Salt Lake City, mae cerflun yn coffáu menyw eithriadol a’i gwasanaeth arloesol i’r dalaith. Mae’r plac yn darllen o’i gyfieithu: “Er cof am Dr Martha Hughes Cannon. Meddyg arloesol. Y fenyw gyntaf i gael ei hethol i senedd talaith yn yr Unol Daleithiau.”

O blith y miloedd o Gymry a deithiodd ar draws America mewn wagenni wedi’u tynnu gan ychen i Utah yn ystod y 19eg ganrif, ychydig a adawodd farc mor ddwfn â Martha Hughes Cannon, merch saer coed o Landudno.

Yn 2024, cafodd ei chyfraniad rhyfeddol ei gydnabod yn un o ganolfannau pwysicaf democratiaeth America. Gosodwyd cerflun o Martha yng Nghapitol yr Unol Daleithiau yn Washington DC, lle mae pob talaith yn cael ei chynrychioli gan ddinasyddion sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’w hanes a’u treftadaeth.

"Ni ddylai unrhyw ddosbarth breintiedig, boed ar sail rhyw, cyfoeth neu dras, gael codi na bodoli. Dylai pawb gael yr un hawl cyfreithiol i fod yn gydradd â phawb arall".Martha Hughes Cannon

Blynyddoedd cynnar yn Llandudno

Mae’r stori yn dechrau yn Llandudno, lle ganed Martha Maria Hughes ym 1857. Dim ond dwy oed oedd hi pan ffarwelodd y teulu â Chymru a dechrau ar eu taith hir i Salt Lake City, cartref ysbrydol y Mormoniaid. Er mwyn rhoi syniad i chi o hyd y daith, roedd Martha yn ddwy oed pan adawodd Gymru, ond yn bedair oed erbyn iddi gyrraedd Utah.

Roedd cenhadon y ffydd Mormonaidd wedi cyrraedd o America ar ddechrau'r 1840au. Ni allent fod wedi dewis lle nac amser gwell i chwilio am eneidiau cythryblus yn chwilio am obaith newydd. Roedd Cymru'n wynebu cyfnod o newid mawr, gyda chynaeafau gwael, tlodi a chaledi yn gyffredin. Roedd hefyd yn gyfnod o ddiwydiannu a thrawsnewid cymdeithasol aruthrol.

Roedd gan y Cymry a drodd at y ffydd y sgiliau oedd eu hangen i adeiladu bywyd newydd. Yn y cymunedau diwydiannol roedd y dynion yn gyfarwydd â gweithio mewn pyllau glo a ffwrneisi haearn. Yn y cefn gwlad roedd cryddion, gofaint a seiri coed. O Sir y Fflint a Sir Ddinbych daeth adeiladwyr a saer maen, tra roedd tenantiaid fferm a thyddynwyr o ddyffrynnoedd Cothi a Thywi yn dod â'u gwaith caled, eu hymroddiad a'u ffydd gyda nhw.

Roedd y daith epig i Utah yn brofiad caled a adawodd ei farc ar weddill bywyd Martha. Bu farw ei chwaer iau, Annie, ar y ffordd. Yna, dim ond tridiau ar ôl cyrraedd Utah, bu farw ei thad hefyd.

Bryd hynny, meddyginiaethau gwerin, gweddi ac olew sanctaidd oedd yr unig driniaethau oedd ar gael. Ond erbyn i Martha adael yr ysgol, roedd agweddau arweinydd y Mormoniaid, Brigham Young, tuag at feddygaeth wedi newid yn sylweddol. Roedd dulliau gwyddonol newydd o drin cleifion yn cael eu cyflwyno yn Utah, a chafodd Martha ei dewis gan yr Eglwys i ddilyn cwrs meddygaeth, yn un o'r tair menyw gyntaf yn Utah i gael y cyfle hwnnw.

Ym 1878, dechreuodd ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Michigan, gan ariannu ei haddysg drwy weithio fel morwyn. Aeth ymlaen i ennill cymhwyster ôl-raddedig ym Mhrifysgol Pennsylvania, gan gwblhau traethawd ymchwil ar y Rocky Mountain Fever. Ar yr un pryd, astudiodd ffarmacoleg, ac yna cwblhaodd ei haddysg gyda gradd gan yr National School of Elocution and Oratory yn Philadelphia.

Ar ôl dychwelyd i Utah, fe'i penodwyd i weithio yn ysbyty cyntaf y dalaith i fenywod, ac roedd gyrfa addawol ym maes meddygaeth o'i blaen. Ond buan iawn y cafodd ei bywyd ei droi wyneb i waered.

Priododd Martha yn gyfrinachol ag Angus Munn Cannon. Roedd yn un o gyfarwyddwyr yr ysbyty ac yn aelod amlwg o gymdeithas y Mormoniaid. Roedd Angus 23 mlynedd yn hŷn na hi ac yn gefnogwr brwd i amlwreiciaeth. Daeth Martha yn bedwaredd wraig iddo; yn ddiweddarach priododd ddwywaith eto, a chafodd ei chwe gwraig gyfanswm o 27 o blant.

Ni allai Martha fod wedi priodi mewn amgylchiadau mwy heriol. Roedd ton o wrthwynebiad i'r Mormoniaid yn ymledu ledled yr Unol Daleithiau. Cafodd Angus ei arestio, a chafodd Martha, a oedd yn feichiog ar y pryd, orchymyn i roi tystiolaeth yn ei erbyn. Yn hytrach nag incrimineiddio ei gŵr, ffodd i Ewrop gyda'u merch fach, Lizzie. Fel yr ysgrifennodd hi ei hun: "Byddai'n well gennyf fod yn ddieithryn mewn gwlad ddieithr, a gallu dal fy mhen yn uchel ymhlith fy nghyd-ddynion, na byw gartref fel carcharor mewn ofn."

Yn olaf, ym mis Rhagfyr 1887, daeth y warant yn ei herbyn i ben a dychwelodd i'r Unol Daleithiau. Erbyn 1890, roedd yr Eglwys Formonaidd wedi rhoi'r gorau i arfer amlwreiciaeth. Yn ôl yn Salt Lake City, dechreuodd Martha bennod newydd yn ei gyrfa drwy sefydlu coleg hyfforddi i nyrsys. Ond pan ddaeth yn feichiog eto, bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w breuddwydion unwaith yn rhagor, a gadael Utah a symud i Califfornia.

Ffotograff du a gwyn o Martha Hughes Cannon.
Ffotograff du a gwyn o fenywod a oedd yn arweinwyr y mudiad dros bleidlais i fenywod

Martha Hughes Cannon o Better Days 2020

Ymgyrchu dros hawliau merched 

Heb adael i’r heriau ei threchu, daeth Martha yn un o brif leisiau’r mudiad dros hawliau menywod. Rhwng 1870 a 1887, roedd menywod Utah wedi cael yr hawl i bleidleisio, ond cafodd yr hawl honno ei dileu’n sydyn. Sbardunodd hyn ymgyrch ffyrnig i’w hadfer, ac yn ystod y cyfnod hwn enillodd Martha enw iddi ei hun, nid yn unig yn Utah ond ledled yr Unol Daleithiau.


Cafodd wahoddiad i siarad yn Ffair y Byd yn Chicago ym 1893, ac aeth i Washington DC i adrodd ar hynt yr ymgyrch dros ennill y bleidlais i fenywod yn Utah. Nododd y Chicago Record fod “Mrs Dr Martha Hughes Cannon” yn cael ei hystyried yn un o eiriolwyr mwyaf disglair achos menywod yn yr Unol Daleithiau.
Ar y pryd, nid oedd Utah wedi ennill statws talaith eto. Roedd addewid wedi’i roi, fodd bynnag, y byddai’n cael ei derbyn yn dalaith pe bai’r Eglwys Mormonaidd yn rhoi’r gorau i’r arfer o amlwreiciaeth. Ym 1896, gwireddwyd yr addewid hwnnw, a chafodd hawl menywod i bleidleisio ei hymgorffori yng nghyfansoddiad y dalaith newydd. Byddai’n rhaid aros 25 mlynedd arall cyn i bleidlais gyffredinol i fenywod gael ei sefydlu ledled yr Unol Daleithiau.
 

Gwleidydd ac arloeswraig

Yn yr etholiad dilynol, roedd Martha yn un o bum ymgeisydd y blaid Ddemocrataidd yn sefyll dros Salt Lake City yn Senedd newydd Utah. Ymhlith yr ymgeiswyr Gweriniaethol oedd ei gŵr, Angus, a denodd y frwydr etholiadol anarferol rhwng gŵr a gwraig gryn dipyn o sylw.
Ysgrifennodd The Salt Lake Herald: ‘Send Mrs Cannon to the State Senate and let Mr Cannon remain at home to manage home industry. Mrs Mattie Hughes is the better man of the two.’ Enillodd Martha a’i chyd-ymgeiswyr Democrataidd fuddugoliaeth glir, gan sicrhau lle iddi yn llyfrau hanes fel y fenyw gyntaf i gael ei hethol i unrhyw senedd daleithiol yn yr Unol Daleithiau.


Bu’n llwyddiant mawr yn y swydd. Yn ystod ei mis cyntaf fel seneddwraig, cyflwynodd fil i sefydlu awdurdod iechyd cyhoeddus, a helpodd i wella cyflenwad dŵr y dalaith a rheoli clefydau heintus. Bu hefyd yn hyrwyddo deddfau i ddiogelu iechyd menywod a merched yn y gweithle ac i sicrhau addysg orfodol i blant byddar.


Erbyn 1899, roedd ei henw’n cael ei grybwyll fel ymgeisydd posibl ar gyfer sedd yng Nghyngres yr Unol Daleithiau yn Washington DC.

Pedwar bathodyn pin gyda dyluniadau gwahanol
Pedwar bathodyn pin gyda dyluniadau gwahanol

Dyluniadau bathodynnau pin sy’n dathlu bywyd Martha Hughes Cannon; wedi’u creu gan Better Days, sefydliad dielw sy’n hyrwyddo hanes menywod Utah.

"Un o’r prif resymau pam y dylai menywod gael yr hawl i bleidleisio yw bod pob dyn a menyw wedi’u creu’n rhydd ac yn gyfartal.”

Unwaith eto, fodd bynnag, daeth ei bywyd personol i’r amlwg. Daeth ei beichiogrwydd yn destun dadl gyhoeddus, gan fod ei phriodas amlwraig yn herio cyfreithiau’r cyfnod. Cafodd Angus ei arestio a’i ddirwyo’n drwm, ond Martha wynebodd y canlyniadau mwyaf yn ei gyrfa gyhoeddus. Er iddi gwblhau ei thymor fel seneddwraig, ni safodd mewn etholiad eto.
Parhaodd i weithio ym maes meddygaeth, ond treuliodd fwy o’i hamser yn magu ei theulu. Yn y diwedd, gadawodd Utah ac ymsefydlu yn Los Angeles gyda’i mab, lle bu farw ym 1932.
Am ddegawdau ar ôl ei marwolaeth, bu enw Martha Hughes Cannon bron yn angof. Ond yn ddiweddarach cafodd ei stori ei hailddarganfod, wrth i fwy a mwy gydnabod pa mor flaengar oedd ei gwaith. Bu’n ymgyrchu dros hawl menywod i ddilyn yr yrfa o’u dewis, dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac dros greu cyfleoedd i fenywod fyw bywydau mwy buddiol a chyflawn.


Heddiw, mae Martha Hughes Cannon yn cael ei chofio fel un o ferched mwyaf dylanwadol hanes Utah, ac fel Cymraes a helpodd i newid hanes America.


I ddysgu mwy am fywyd Martha Hughes Cannon, ewch i wefan Utah Women's History.
 

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.