Mae’r wisg hon wedi’i hysbrydoli gan Vivienne Westwood, a’r het gan Beyoncé. Roedd hi’n gwisgo het ddu enfawr yn y fideo ar gyfer Formation. Fe wnes i ychwanegu ychydig o drim ati i’w gwneud i edrych yn fwy Cymreig. Nid yw’r bodysuit yn rhan o wisg draddodiadol y Gymraes, wrth gwrs. Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n eu gwisgo yn y 1800au. Ac mae’r esgidiau sodlau uchel yno i roi ychydig mwy o steil a drama i’r olwg.

Dw i eisiau sefyll allan o’r dorf, chi’n gwybod beth fi’n feddwl? Mae’r derwyddon yn yr Eisteddfod i gyd wedi’u gwisgo’r un fath.Fe allen nhw neud tro â mbach o rhinestones  ac ychydig o sbarcl . Efallai un flwyddyn y gallen nhw roi cynnig ar secwins i wneud iddyn nhw sefyll mas ychydig mwy."

Y frenhines drag Catrin Feelings wedi'i gwisgo mewn gwisg fodern y Foneddiges Gymreig, yn sefyll ar hen bont garreg.
Catrin Feelings, y frenhines drag, yn eistedd mewn tafarn draddodiadol yng Nghymru.

Catrin Feelings. Portread gan Bleak Fabulous

Ces i fy magu yn Nhreorci, aym mlaene Cwm Rhondda. Roedd gen i grŵp gwych o ffrindiau, a chefais fagwraeth arbennig gan fy mam a nhad. Roedd yr ysgol yn fwy heriol, fodd bynnag, a phrofes i rywfaint o fwlio. Wrth dyfu i fyny yn y cymoedd, os oeddech chi'n wahanol mewn unrhyw ffordd, roedd pobl yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n ymwybodol o hynny.

Roedd dod i delerau â'm rhywioldeb yn anodd. Roedd pobl eraill fel pe baen nhw’n gwybod fy mod yn hoyw cyn i mi fy hun sylweddoli hynny, os yw hynny'n gwneud synnwyr. Symudais i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol a dwi wedi byw yma ers hynny. Does gen i ddim teimladau negyddol tuag at y cymoedd o gwbl, ond dwi’n teimlo'n fwy fi fy hun yng Nghaerdydd.

Roedd TikTok yn ffordd o lenwi'r amser yn ystod y cyfnod clo. Roeddwn i'n styc yn fy fflat, felly penderfynais roi cynnig arni. Ro’n i'n creu sgetsys doniol byr, yn eu troi'n fideos ac yn eu rhannu ar-lein, a dyna oedd fy mywyd am rai blynyddoedd.

Pan wyliais i RuPaul's Drag Race am y tro cyntaf, fe wnes i syrthio mewn cariad â'r cyfan. Bryd hynny ro’n i eisoes yn arbrofi ychydig â cholur. Ar noson allan byddwn i'n gwisgo ychydig o foundation ac eyeliner. Wrth ddechrau gwylio'r rhaglen, meddyliais weel, dwi hanner ffordd yno ishws, felly beth am fynd ati i arbrofi ymhellach? Prynais wig o Amazon a blows o Wardrobe, rhoi cynnig arnyn nhw a gweld beth fyddai'n digwydd."

Fe allai derwyddon yr Eisteddfod neud tro â mbach o rhinestones  ac ychydig o sbarcl."

Am flynyddoedd, roedd drag yn rhywbeth ro’n i'n ei wneud i mi fy hun. Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i'n sefyll ar lwyfan yn perfformio. Yna daeth y cyfnod clo, a dechreuodd pobl fynd ar-lein i rannu eu gwisgoedd drag a'u harddulliau perfformio. Dyna pryd y dechreuais arbrofi â'r hyn y gallai Catrin fod. Ers hynny, mae hi wedi cael ambell gig ac wedi mynd o nerth i nerth. Erbyn hyn mae hi'n brysur bron bob penwythnos, ac yn talu'r biliau hefyd.

Mae Catrin yn gallu gwneud a dweud pethau na allai Ellis fentro’u gwneud a dweud . Pan fyddwch chi'n mynd i sioe drag, rydych chi'n disgwyl ychydig o dynnu coes a digon o hiwmor direidus. Felly pan dwi’n troi'n Gatrin, dwi’n hoffi gwthio'r ffiniau ychydig. Byddai Ellis yn meddwl, ‘Rhaid i fi fod yn ofalus beth dw i'n ei ddweud’, tra byddai Catrin yn dweud, ‘Dw i’n becso’r dam. Dw i'n mynd i wneud beth bynnag dw i eisiau, a chael fy nhalu amdano!’

A fyddai Ellis a Catrin yn cyd-dynnu pe baen nhw'n cwrdd? Yn sicr. Dwi’n gwneud iddi swnio fel petai hi braidd yn wyllt weithiau, ond mewn gwirionedd mae hi'n debycach i fam o'r Cymoedd. Hi fyddai'r un dai’n gofalu am Ellis. Pe bai unrhyw drafferth yn codi, Catrin fyddai'r cyntaf i sefyll lan drosto. Mae hi'n hynod amddiffynnol ohono. Efallai ei bod hi'n ddireidus, ond mae hi yno i edrych ar ôl ei mab.

Dilynwch Catrin Feelings ar Instagram.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.