Event

Gŵyl Siocled Cymru

Dewch i Lanidloes am ddiwrnod blasus yng Ngŵyl Siocled Cymru, gyda stondinau, sesiynau blasu, gweithdai a gweithgareddau i’r teulu. Bydd y dref yn llawn danteithion a gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan siocled. 24/10/2026

Event Information

Get in touch

Location:
Minerva Arts Centre & various venues, Llanidloes, Powys, SY18 6BY
Email:
chocfest@foodatheart.co.uk
Website:
https://chocolatefestivalwales.co.uk/

Social

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Dates

  • 24th October 2026

Take a look around

About Gŵyl Siocled Cymru

Bydd Llanidloes yn troi’n baradwys i bawb sy’n dwlu ar siocled wrth i Ŵyl Siocled Cymru ddychwelyd i’r dref. Bydd y digwyddiad yn dod â chynhyrchwyr annibynnol, crefftwyr a busnesau ynghyd i ddathlu pob math o ddanteithion siocled.

Bydd Marchnad Siocled yng Nghanolfan Gelf Minerva rhwng 10:00 a 16:00 gyda chyfle i grwydro’r stondinau a darganfod amrywiaeth o siocledi a chynnyrch blasus. Bydd gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled Llanidloes, gan greu awyrgylch gŵyl drwy’r dref.

Chocolate Festival of Wales

Gall ymwelwyr ddisgwyl cymysgedd o flasu a gwneud siocled, siocled poeth, sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau i’r teulu. Bydd adloniant a gweithgareddau ychwanegol hefyd, ynghyd â bwyd a diodydd arbennig wedi’u hysbrydoli gan siocled mewn rhai o fusnesau’r dref.

Gyda rhywbeth at ddant oedolion a phlant fel ei gilydd, mae’n gyfle gwych i dreulio diwrnod hydrefol yn Llanidloes – a mwynhau digonedd o siocled ar hyd y ffordd!

24 Hydref 2026

Lleoliad

52.44793, -3.53798

Like what you see at Gŵyl Siocled Cymru
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Gŵyl Siocled Cymru. © Gŵyl Siocled Cymru 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig