Canolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd
Ystyried eich hunan yn farchog profiadol? Neu erioed wedi bod ar gefn ceffyl o’r blaen? Hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod y nesaf peth i ddim am geffylau, mae gwirfoddolwyr cyfeillgar Canolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd yn sicr o wneud i chi deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus yn eistedd ar y cyfrwy. Maent yn cynnig gwersi a gwyliau ar gyfer pobl ag anghenion arbennig ac yn canolbwyntio ar farchogaeth, tynnu cert a gwneud gymnasteg ar gefn ceffyl.
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Mae Theatr Clwyd yn cynnig rhaglen lawn drwy gydol y flwyddyn o theatr, sinema, cerddoriaeth, dawns, comedi a barddoniaeth. Mae mynediad i gadair olwyn at bob llawr ac mae yno system ddolen sain. Mae modd derbyn sain-ddisgrifiad ac isdeitlau ar gyfer perfformiadau theatr a ffilmiau.
Castell Caernarfon
Nid tasg hawdd yw gwneud caer ganoloesol yn hygyrch i bobl ag anableddau, ond diolch i fewnbwn grŵp lleol sy’n ymgyrchu dros hygyrchedd, mae Castell Caernarfon yn rhoi cynnig da arni: mae ramp penodol yn galluogi cadeiriau olwyn i gael mynediad at y wardiau mewnol, ond nid at y lefelau uchel. Mae mynediad am ddim i bobl ag anableddau a’u gofalwyr.
Castell Penrhyn, ger Bangor
Mae Castell Penrhyn yn gastell ffug-Normanaidd ac yn amgueddfa reilffordd. Mae yno risiau, elltydd ac ardaloedd anwastad i’w hystyried, ond mae rhannau o’r tŷ a’r gerddi yn hygyrch i gadeiriau olwyn: mae ramp yn estyn at lawr gwaelod y plasty a cheir lifft yn y bloc stablau i gyrraedd yr orielau a’r amgueddfa sydd ar y llawr cyntaf.
Llyn Brenig, Mynydd Hiraethog
Mae Llyn Brenig yn gronfa ddŵr eang, las sy’n cael ei hamgylchynu gan goed. Yno, ceir canolfan ymwelwyr fodern, llwybrau beicio nodedig a llwybrau natur. Y prif atyniad yma yw pysgota plu am frithyll ac mae yma ddau gwch sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn y gellir eu llogi.
Oriel Mostyn, Llandudno
Nod Oriel Mostyn, sy'n oriel gelf anturus, yw i chi adael wedi cael eich ysbrydoli o’r newydd bob tro gan yr arddangosfeydd Cymreig o baentiadau, cerfluniau, crefft a fideo sy’n newid yn gyson. Mae rhaglenni yn y gorffennol wedi cynnig gweithdai therapi trwy gelf a sesiynau addysgu ar gyfer yr henoed a rhai sy’n drwm eu clyw, â nam ar eu golwg neu sy’n cael trafferth wrth symud.
Oriel Ynys Môn, Llangefni
Mae Oriel Ynys Môn yn ganolfan hyfryd ar gyfer celf a hanes lleol, lle mae sawl oriel wahanol i’w gweld, ac un arddangosfa benodol yn dathlu gwaith yr arlunydd o Fôn, Syr Kyffin Williams. Mae yma hefyd waith celf gan arlunwyr eraill, a phaentiadau o fywyd gwyllt yr ynys gan Charles F Tunnicliffe. Mae’r orielau a’r caffi, Blas Mwy, yn gwbl hygyrch.
Pŵer Pedlo
Neidiwch ar eich beic gyda Pŵer Pedlo, prosiect sy’n gwneud beicio yn hygyrch i bobl ag anableddau. Mae gan y prosiect feiciau wedi cael eu haddasu’n arbennig, beiciau tair olwyn a beic tandem i ddau berson ar gael i’w llogi ger Dyfroedd Alun, parc gwledig mwyaf Wrecsam. Mae yno ardal ymarfer a chylch diogel milltir o hyd i chi deithio o’i amgylch. Mae yn Nyfroedd Alun hefyd lwybr cerfluniau sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
RSPB Conwy
Cewch hyd i hwyaid, cornchwiglod ac ambell was y neidr yn y warchodfa natur hon sy’n edrych dros lagwnau, aberoedd a chastell Conwy. Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r llwybrau yn hygyrch i gadeiriau olwyn, fel ag y mae’r cytiau sy’n cynnwys sgriniau a bocsys ar wahanol uchderau. Caniateir cŵn tywys cofrestredig, a gellir benthyg cadeiriau olwyn am ddim. Mae mynediad am ddim i ofalwyr sydd yno gydag ymwelwyr anabl.
Carchar Rhuthun
Mae Carchar Rhuthun yn amgueddfa i’ch sobri, lle mae celloedd y carchar wedi cael eu hadfer er mwyn adlewyrchu bywyd carcharor yn Oes Fictoria. Mae mynedfa arbennig ar gyfer arddangosfeydd ar gyfer y rhai sydd â nam ar eu golwg. Gan fod rhannau o’r adeilad hanesyddol hwn yn anodd eu cyrraedd, dylai ymwelwyr sy’n defnyddio cadair olwyn archebu ymlaen llaw. Mae staff cyfeillgar a gwybodus wrth law i gynnig gwybodaeth a chymorth.
Rheilffordd yr Wyddfa
Cewch deimlo ar ben eich digon yn Eryri drwy fynd ar y trên sy’n dilyn Rheilffordd yr Wyddfa o Lanberis yr holl ffordd i fyny at Hafod Eryri, Canolfan Ymwelwyr Copa’r Wyddfa. Mae gan y trenau, sy’n rhedeg ar ddisel neu hen locomotifau stêm, gerbydau addas ar gyfer cadeiriau olwyn sy’n gadael i deithwyr weld yr holl olygfeydd ar y ffordd. Dylai defnyddwyr cadair olwyn archebu lle ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael.
Llwybrau wedi eu haddasu yn ne Eryri
Mae ardal Mawddach yn cynnig cyfleoedd gwych i fod yn actif. Mae’r arbenigwyr beicio mynydd addasol, SnowBikers, yn cynnig teithiau ar feiciau tandem ar gyfer rhai â nam ar eu golwg ac yn cynnig hyfforddiant ar gwrs heriol beicio mynydd Parc Coedwig Coed y Brenin, llwybr y MinorTaur. Mae mentrau defnyddiol eraill ar gael, gan gynnwys offer tywysydd sain ar gyfer Llwybr Mawddach, a ddatblygwyd gan Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru. Dyma lwybr addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Ymddiriedolaeth Cychod Camlas Llangollen
Yn ei wisg smart o goch a gwyrdd, mae Glas-y-Dorlan yn gyfarwydd i sawl un ar Draphont Ddŵr Pontcysyllte, ac mae’r enw’n sicr yn gweddu’r cwch bach hwn i’r dim. Dyma gwch cul wedi ei addasu ar gyfer cadeiriau olwyn ac sy’n cynnig teithiau ar hyd camlas Llangollen rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Mae lifft hydrolig i gynorthwyo teithwyr i fynd ar y gwch ac mae yno ffenestri mawr isel er mwyn i chi allu gweld y golygfeydd ysblennydd.
Llwybr Arfordir Cymru
Yng Ngogledd Cymru, mae sawl rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn wastad ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn neu bramiau. Mae llwybr gwych i’w gael sy’n dilyn Afon Dyfrdwy rhwng Doc Cei Connah, yn ne-orllewin Sir y Fflint, a Chaer. Mae’r daith rhwng Prestatyn a Chonwy bron yn gyfan gwbl ar hyd promenâd glan y môr ac felly mae’n addas iawn ar gyfer teuluoedd.