About Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 3
Gan ddechrau yng Nghoedwig Llantrisant, mae mannau parcio ar gael yng Nghoed Garthmaelwg neu Donysguboriau gerllaw. Ymunwch â llwybr Coedwig Cymru drwy Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 4.
Mae'r rhan 18km hon o'r llwybr yn dilyn Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 4 nes i chi gyrraedd Melin Ifan Ddu, lle mae'r llwybr yn parhau ar Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 883.
Wrth i'r llwybr fynd tua'r gogledd o Goedwig Llantrisant, cewch olygfeydd o'r coed ffynidwydd Douglas aeddfed, yr amcangyfrifir eu bod tua 100 mlwydd oed.
Mae'r llwybr oddi ar y ffordd yn parhau ochr yn ochr ag ardaloedd coediog i Thomastown, lle mae'r llwybr wedyn yn troi i'r gorllewin tuag at y Felin Ifan Ddu gan ddilyn dyffryn coediog Nant Llanilid a Chwm Ogwr Fach.
Wrth i chi fynd i mewn i Felin Ifan Ddu, byddwch yn mynd heibio'r fynedfa i Goed Bach Dimbath; safle Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r coetir llydanddail cymysg 2.3 hectar hwn yn cael ei reoli gan Cymoedd i’r Arfordir ar gyfer y gymuned leol. Gallwch gael mynediad at amwynderau lleol ym Melin Ifan Ddu, gan gynnwys parcio a gwasanaethau bysiau.
O'r fan hon, mae'r llwybr yn parhau oddi ar y ffordd tua'r gogledd i Nant y Moel gan ddilyn ardaloedd o goetir llydanddail ar hyd Ogwr Fawr, gyda golygfeydd i Goedwig Ogwr, coedwig weithredol gydag ardaloedd eang o gonwydd yn cael eu cynaeafu yn fasnachol. Mae'r llwybr yn mynd trwy Olchfeydd Ogwr; ardal goetir gymunedol, lle gallech weld adar coetir fel y Dringwr Bach.
Mae'r llwybr yn mynd trwy Fro Ogwr, gan barhau ar hyd y dyffryn coediog nes i chi gyrraedd Nant y Moel, lle gallwch gamu oddi ar y llwybr i ymweld â Choetiroedd Bach Nant y Moel. Mae’r coetir hwn a blannwyd yn 2021 yn cynnwys 25 rhywogaeth o goed brodorol.
Yn Nant y Moel mae'r llwybr yn gwyro oddi wrth Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 883 i ddilyn llwybrau troed i goedwig Nant y Moel. Mae coedwig Nant y Moel yn rhan o Goedwig Ogwr, sy’n cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.