About Llwybr Coedwig Cymru Trail - Section 2
Gan ddechrau yng Nghoedwig Hensol, gallwch barcio yn y prif faes parcio (gweler y map rhyngweithiol). Dilynwch lwybr y goedwig i'r dwyrain i ymuno â Llwybr Coedwig Cymru.
Mae’r llwybr yn mynd trwy gymysgedd o goetir conwydd a llydanddail. Ceir cynlluniau i adfer rhostir a choetir hynafol. Gan adael Coedwig Hensol, mae'r llwybr yn dilyn ymyl Coed Leision, sef coetir llydanddail cymysg sy'n eiddo preifat.
Gan barhau tua’r Gogledd, byddwch yn mynd heibio Coed Llwyn Rhyddid, un o warchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur. Mae’r coetir hwn yn cynnwys cymysgedd o goed Derw, Ynn, Ffawydd a chonwydd cymysg. Wrth i chi fynd heibio Gwesty'r Vale fe welwch lawer o goed llydanddail aeddfed ac ardaloedd bach o goetir.
Mae'r llwybr yn parhau ar hyd yr ymyl ac yna i mewn i Goed Llwyn gan droi tua’r gogledd i ddilyn ffin Fforest Fawr ac i mewn i'r coetir llydanddail a chonwydd cymysg hwn. Dilynwch lwybrau troed nes gadael y goedwig ac ewch ymlaen i danffordd yr M4.
Mae'r llwybr yn mynd â chi ochr yn ochr â choetir llydanddail, gan ffurfio coridor i'r M4, cyn mynd i mewn i safle nesaf Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae Coedwig Gellihir yn goetir llydanddail, ac mae'r llwybr yn dilyn ymyl y coetir a Nant Dyfrgi. Mae llawer o gofnodion bywyd gwyllt ar gyfer y safle hwn sy’n cael ei reoli’n weithredol i wella bioamrywiaeth.
Gan adael Coedwig Gellihir, mae'r llwybr yn mynd â chi i Bont-y-clun lle mae amrywiaeth o siopau, caffis a bwytai yn ogystal â lleoedd parcio, safleoedd bws a gorsaf drenau sy'n eich galluogi i gael mynediad i'r llwybr o'r ganolfan drafnidiaeth hon.
Ceir cyfle i fwynhau safle Coedwig Genedlaethol Cymru arall ger canol y dref. Coetiroedd Pont-y-clun (Coed Ifor, Taith Gerdded Glan yr Afon a thir yn Hollies), edrychwch ar ein map rhyngweithiol i ddarganfod mwy.
Gan adael canol tref Pont-y-clun heibio'r orsaf drenau, dilynwch afon Trelái, trwy goetiroedd llydanddail cymysg nes i chi gyrraedd Coedwig Ynysmaerdy, rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r llwybr yn mynd â chi ar hyd yr afon lle byddwch yn ymuno â'r hen reilffordd a llwybr gwastad tua'r gogledd, ar hyd ffin Coedwig Llantrisant. Mae'n bosibl parcio a chael mynediad i amwynderau yn Nhonysguboriau gerllaw ac mae maes parcio bach a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoed Garthmaelwg. Yma gallwch ddilyn ffyrdd coedwig a hawliau tramwy i archwilio Coedwig Llantrisant a chael mynediad i Lwybr Coedwig Cymru.