Attraction

GeoMôn Geopark Ynys Mon

Parys Mountain copper mine, once the biggest in the world
Mae GeoMôn yn lle gyda daeareg ysblennydd, clogwyni creigiog syfrdanol, traethau tywodlyd helaeth, cildraethau creigiog bach, henebion ac amrywiaeth o chwareli a mwyngloddiau. Ewch i'n canolfan i gael fwy o wybodaeth am beth i'w weld a ble

Attraction Information

Get in touch

Location:
The Watch House, Porth Amlwch, Ynys Mon
Email:
info@geomon.co.uk
Website:
https://www.geomon.org.uk

Social

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Cyfleusterau Hygyrchedd
  • Cyfleusterau Symudedd
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau

Take a look around

About GeoMôn Geopark Ynys Mon

Mae gan Ynys Môn ddaeareg hynod o arbennig a syfrdanol. Oherwydd hyn, cafodd ei chydnabod gan UNESCO fel "geoparc byd-eang" - man lle mae'r creigiau, y ffosilau a'r tirweddau o safon fyd-eang. P'un a ydych yn ddaearegwr neu'n mwynhau harddwch naturiol a thirwedd, mae hyn yn golygu bod Ynys Môn yn un o'r 200 lle gorau yn y byd am ddaeareg. Mae Niwbwrch hyd yn oed wedi cael ei gydnabod fel un o'r 100 safle gorau!
Cymerwyd yr enw GeoMôn fel cyfuniad o ‘Geo’ ar gyfer popeth daearegol / daearyddol / amgylcheddol ac enw’r ynys, ‘Môn’.
Mae gan GeoMôn threftadaeth ddaearegol ysblennydd sydd yn ymestyn yn ôl bron i 2,000 miliwn o flynyddoedd (bron i hanner oes ein planed), a lle gellir dod o hyd i dros 100 o fathau o graig. Mae hefyd yn gartref i'r ffosilau hynaf yng Nghymru a Lloegr. Mae pob math o graig yn creu ei thirwedd ei hun, gyda'i nodweddion ei hun, o'r ffordd y mae’n yn erydu, neu drwy'r ffordd y mae'n hindreulio i ffurfio priddoedd sy'n sail i fioamrywiaeth a defnydd tir. Mae clogwyni creigiog trawiadol, traethau tywodlyd helaeth, cildraethau creigiog bach, twyni tywod, gwastadeddau llaid, morfeydd heli a thir fferm i gyd i’w cael yn GeoMôn. Mae'r amrywiaeth eang o henebion, cestyll ac aneddiadau, chwareli a mwyngloddiau i gyd yn arwydd o'r defnyddiau y mae pobl wedi'u canfod ar gyfer daeareg dros amser. Diffinnir y dirwedd ddynol yn rhannol gan y cerrig adeiladu hyn sy'n dylanwadu ar bensaernïaeth a chan briddoedd sy'n dylanwadu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth.
Ein cenhadaeth yw cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o geotreftadaeth ysblennydd Ynys Môn fel adnodd ar gyfer addysg ar bob lefel, o fyfyrwyr ysgol gynradd i ymchwilwyr prifysgol, gan gynnwys y cyhoedd. Ein nod yw darparu gweithgareddau hamdden ar gyfer ymwelwyr a thrigolion yr ynys, a thrwy hynny hefyd wella'r economi leol a rhagolygon cyflogaeth ar yr ynys.
Anelwn annog ymwybyddiaeth o, ac addysgu am, geoamrywiaeth a geotreftadaeth, pwysigrwydd hanesyddol, diwylliannol ac economaidd yr ardal, ac annog ymchwil daearegol a chysylltiedig pellach.
Mae gan ein canolfan ymwelwyr ym Mhorth Amlwch hanesyddol arddangosfeydd o’r prif fathau o greigiau Ynys Môn, gwybodaeth am y ddaeareg ehangach ac arddangosfeydd dros dro - mae'r ffocws presennol ar newid hinsawdd hynafol a modern. Mae gennym ni lyfrau a thaflenni ar werth a rhai taflenni llwybr am ddim. Yn ystod oriau agor mae ein gwirfoddolwyr gwybodus bob amser wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, a’ch cerdded trwy ddaeareg yr ynys.
Ymunwch â ni i archwilio a darganfod ein geotreftadaeth eithriadol, sy'n sail i bob agwedd ar ddatblygu tirwedd, bioamrywiaeth, defnydd tir, hanes dynol, amaethyddiaeth a hyd yn oed diwylliant. Archwiliwch ein geosafleoedd rhestredig; dilynwch ein llwybrau hunan-dywys neu ymunwch ag un o'n teithiau tywys!
ewch i'n gwefan www.geomon.co.uk
ein tudalen Facebook https://www.facebook.com/AngleseyGeoparkGeoMon
ein grŵp trafod Facebook https://www.facebook.com/groups/Geomon
neu ein tudalen Instagram https://www.instagram.com/geomon_geoparc/

ore vein at Parys Mountain copper mine
ore vein at Parys Mountain copper mine

Lleoliad

53.41608, -4.33178

Like what you see at GeoMôn Geopark Ynys Mon
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by GeoMôn Geopark Ynys Mon. © GeoMôn Geopark Ynys Mon 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig