About Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Dewch i glywed straeon pobl Cymru, a mynd am dro trwy'r oesoedd yn un o brif amgueddfeydd awyr-agored Ewrop.
Mae'r Amgueddfa wedi'i lleoli yn nhiroedd ysblennydd Castell Sain Ffagan, plasty o'r 16eg ganrif a roddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth ym 1948.
Mae Sain Ffagan wedi symud dros 50 o adeiladau hanesyddol o bob cwr o Gymru a’u hail-godi yn yr Amgueddfa, gan gynnwys ysgol Fictoraidd, eglwys ganoloesol a sefydliad gweithwyr.
Ewch draw i Lys Llywelyn, llys tywysog canoloesol; galwch heibio'r ysgol Fictoraidd; a chofiwch am Siop Gwalia o'r 1920au, sy'n llawn danteithion Cymreig.
Mae anifeiliaid i'w gweld ar Fferm Llwyn-yr-eos, ac mae croeso bob amser yn yr efail, gweithdy'r crydd a'r melinau ŷd a gwlân, lle mae'r crefftwyr wrthi'n brysur.
Dewch i greu hanes gyda ni!
Mae ein tair oriel newydd sbon yn llawn hanes. Cyfrannwch at y sgwrs yn oriel Cymru... neu ewch i gael eich ysbrydoli gan grefftau traddodiadol Gweithdy cyn rhoi cynnig arni eich hun.
Gwybodaeth a chyfleusterau:
- Mynediad am ddim
- Parcio yn £5, ond parcio anabl am ddim
- Toiled anabl a chyfleuster Lleoedd Newid
- Cadeiriau olwyn am ddim ar gais
- Croeso i gŵn (dim ond cŵn tywys gaiff eu caniatáu yn yr adeiladau hanesyddol)
- Cyfleusterau newid cewynnau
- Am resymau cadwraethol, ni cheir mynd â phramiau i’r adeiladau hanesyddol
- Neilltuwch o leiaf 3 awr ar gyfer eich ymweliad
- Ardal chwarae i blant
- Bwyd a diodydd Cymreig ym mwyty'r Gegin, stafekk de Gwalia a chaffi Gweithdy.
Oriau agor
Bob dydd: 10am-5pm
Heblaw am Noswyl Nadolig, Diwrnod Nadolig, Diwrnod San Steffan a Dydd Calan.
Gofynnwch cyn teithio’n unswydd.