Attraction

Priordy Llanddewi Nant Hodni (Cadw)

Llanthony Priory
Er ei fod bellach yn adfail 900 mlwydd oed, hawdd yw gweld o’r olion helaeth hyn fod Llanddewi Nant Hodni ymhlith adeiladau canoloesol gwychaf Cymru.

Attraction Information

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Maes parcio

Nodweddion

  • Awyr Dywyll

Take a look around

About Priordy Llanddewi Nant Hodni (Cadw)

Os oes gwell safle crefyddol sy’n wir addas i fywyd mynachaidd, ar dir gwyllt ymhell i ffwrdd o brysurdeb dynol ryw, hoffem wybod amdano. Dyna a ddywedodd Giraldus Cambrensis, Gerallt Gymro, y teithiwr a chroniclydd o’r 12fed ganrif. Mae Llanddewi Nant Hodni anghysbell, dan glo mewn lleoliad dramatig yn Nyffryn Ewias islaw ffindir tywyll y Mynydd Du sy’n codi’n sydyn o’r adfail atgofus hwn, yn dal i dywynnu’r ysbryd hwnnw o arwahanrwydd a myfyrdod. Sylfaenodd y marchog Normanaidd William de Lacy feudwyfa yma ac yntau - yn annodweddiadol o’r oes - wedi cefnu ar ryfel a choleddu crefydd. Erbyn 1118 roedd Llanddewi Nant Hodni yn fynachlog o ganonau Awstinaidd, a barhaodd nes ei ddarostwng ym 1539.
Er ei fod bellach yn adfail 900 mlwydd oed, hawdd yw gweld o’r olion helaeth hyn fod Llanddewi Nant Hodni ymhlith adeiladau canoloesol gwychaf Cymru. Yn benodol, mae ei wychder blaenorol wedi goroesi yn y gwaith carreg coch â’i addurniadau helaeth a’r rhes ragorol o fynedfeydd bwaog pigfain, sy’n fframio golygfa sydd heb newid rhyw lawer ers oes de Lacy.

Llanthony Priory
Llanthony Priory

Lleoliad

51.94469, -3.03527

Like what you see at Priordy Llanddewi Nant Hodni (Cadw)
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Priordy Llanddewi Nant Hodni (Cadw). © Priordy Llanddewi Nant Hodni (Cadw) 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig