Atyniad

ParcYr Esgob

Jenkinson Garden
O erddi hardd, i goed hynafol, i waun yn gyforiog o fywyd gwyllt, i goetir cynhenid â rhaffau sgramblo a boncyffion balansio, i bwll ADdGA – mae cymaint i’w weld ym Mharc yr Esgob.

Atyniad Information

Get in touch

Location:
Hen Balas Yr Esgob, Abergwili, Caerfyrddin
Email:
enquiries@tywigateway.org.uk
Website:
https://www.parcyresgob.org.uk

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Croeso i Anifeiliaid Anwes
  • Cyfleusterau Busnes
  • Cyfleusterau Hygyrchedd
  • Cyfleusterau Symudedd
  • Trefniadau cysylltu/trosglwyddo i drafnidiaeth gyhoeddus
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau

Take a look around

About ParcYr Esgob

Mae Parc Yr Esgob a’r Gerddi yn goferu a hanes. O’r coed hynafol, sydd wedi sefyll yma am ganrifoedd, i’r ardd furiog a fu’n darparu bwydydd egsotig a blodau ar gyfer bwrdd yr esgob, i’r ystumllyn a thirwedd symudol gorlifdir Dyffryn Tywi, i hen balas yr esgobion a chafodd ei hadeiladu ar safle yn dyddio nôl i’r canol oesoedd a’r bobl a fu’n byw a’n gweithio yma.
Mae Parc Yr Esgob yn le arbennig i fynd am dro, i gwrdd a ffrindiau neu i ymlacio ar y borfa neu ar ein meinciau. Gall ymwelwyr o bell ac agos dreulio hanner diwrnod yma yn rhwydd – gyda chinio neu de prynhawn yn y caffi. Yng nghyd a dilyn y byrddai deholngli o gwmpas y parc, gallwch ddarganfod mwy am hanes, garddwriaeth a bywyd gwyllt y parc yn ein canolfan ymwelwyr. Neu archebwch le ar daith tywys.
Os oes gennych ddiwrnod cyfan, cyfunwch eich ymweliad gyda chip o amgylch Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, sydd wedi ei leoli tu fewn i Hen Balas Yr Esgobion ar ein safle.
Beth sydd yma i deuluoedd?
Rydym yn croesawu teuluoedd. Galwch heibio i’r caffi (ar agor o 9 tan 5 yn ddyddiol), neu dewch a phicnic. Darganfyddwch wahanol ardaloedd y parc, yn yr Ardd Coedir, mae gennym foncyff ffawydden enfawr i chi chwarae arno a phrofwch eich sgiliau dringo ar ein rhaffau. Edrychwch allan am y bywyd gwyllt, gan gynnwys elyrch, cwtieir, hwyaid a chrëyr. Os ydych yn lwcus, efallai y gwnewch chi weld glas y dorlan neu ddwrgi!
Toiledau hygyrch ar gael yn y ganolfan ymwelwyr yn ystod oriau agor y caffi.
Ystafell cyfarfod ar gael i’w logi.

Parc Yr Esgob-Bishop's Park
Parc Yr Esgob-Bishop's Park

Lleoliad

51.86558, -4.2669

Like what you see at ParcYr Esgob
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by ParcYr Esgob. © ParcYr Esgob 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig