Atyniad

Castell Talacharn

Laugharne Castle
Castell canoloesol mawr, plasty Tuduraidd a chuddfan bardd. Dyma'r castell ‘brown as owls’ oedd yn annwyl gan Dylan Thomas, trigolyn enwocaf Talacharn.

Lleoliad:

Math:

Atyniad Information

Get in touch

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Facilities

  • Croesewir plant
  • Derbynnir Cwn
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau

About Castell Talacharn

Castell canoloesol mawr, plasty Tuduraidd a chuddfan bardd

Dyma'r castell ‘brown as owls’ oedd yn annwyl gan Dylan Thomas, trigolyn enwocaf Talacharn. Ysgrifennodd Portrait of the Artist as a Young Dog yn nhŷ haf y castell a safai uwchlaw golygfeydd godidog o aber afon Taf.

Yma saif dau dŵr cerrig canoloesol enfawr yn gwarchod olion plasty Tuduraidd godidog, a’r cyfan wedi'u gosod mewn gerddi addurnol o'r 19eg ganrif.Wedi canrifoedd o wrthdaro rhwng y Cymry a'r Eingl-normaniaid, achubwyd Talacharn rhag mynd yn adfail llwyr gan un o wŷr llys Elisabeth 1, Syr John Perrot. Trodd y castell adfeiliedig o'r 13eg ganrif yn gartref addas i ŵr bonheddig, cartref ac iddo neuadd fawreddog sydd â’i ffenestri agored yn dal i syllu dros y dŵr.

Laugharne Castle
Laugharne Castle

Ond creodd ei ymddyrchafiad cyflym lawer o elynion iddo – ac ni allai hyd yn oed y si mai ef mewn gwirionedd oedd hanner brawd y frenhines, ei achub.

Bu farw Syr John yn Nhŵr Llundain yn 1592 tra’r oedd yn aros ei ddienyddiad. Cred rhai iddo gael ei wenwyno, ac yntau ar fin cael pardwn gan Elisabeth.

Lleoliad

51.77007, -4.46187

Like what you see at Castell Talacharn
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Castell Talacharn. © Castell Talacharn 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig