About Castell Dolwyddelan (Cadw)
Mae Dolwyddelan mor Gymreig â mynyddoedd geirwon Eryri sy’n gefnlen drawiadol iddo.
A’r castell yn un o griw o gaerau a adeiladwyd i reoli’r bylchau mynydd, saif yn gofeb barhaol i’r Tywysog Llywelyn ap Iorwerth, neu Llywelyn Fawr. Ef oedd rheolwr diamau Gwynedd o 1201 i’w farwolaeth ym 1240.
Ond gorchfygwyd Dolwyddelan o’r diwedd yn ystod teyrnasiad ei ŵyr Llywelyn ap Gruffudd gan frenin Lloegr, Edward I. Roedd hwn yn gyfnod allweddol yn ei ymgyrch ddidostur i ddarostwng y Cymry unwaith ac am byth.
Gadawodd Edward ei ôl ar Ddolwyddelan o’r diwrnod y cwympodd ym 1283. Ar frys, rhoddwyd tiwnigau gwyn cuddliw i’r garsiwn – perffaith ar gyfer rhyfela gaeaf yn y mynyddoedd. Cododd uchder y gorthwr, adeiladodd dŵr newydd a gosododd beiriant gwarchae ynghyd â ‘pheli canon’ o gerrig.
Nid oes dim yn dragwyddol. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd Dolwyddelan yn adfail rhamantaidd yn boblogaidd ymhlith artistiaid tirwedd. Yna penderfynodd Arglwydd Willoughby de Eresby ‘adfer’ y gorthwr â bylchfuriau o’r math canoloesol.
Mae’r uniad i’w weld yn glir o hyd rhwng ei bensaernïaeth ffantasi a gwaith llaw go iawn Llywelyn Fawr isod.