About Castell Dinbych (Cadw)
Drama yw swm a sylwedd Castell Dinbych. Croeswch y bont godi i mewn i'r porthdy tri thŵr ac fe glywch y porthcwlis yn taranu i lawr, y cadwyni’n clecian a dwndwr ceffylau a milwyr yn gorymdeithio.
Peidiwch â chael gormod o ofn. Synwyryddion a rhyfeddodau’r dechnoleg fodern sy’n gyfrifol am hyn. Ond mae’n ffordd rymus i’n hatgoffa bod y gaer gadarn hon, sy'n goron ar y garreg frig greigiog uwchlaw Dyffryn Clwyd, wedi chwarae rhan hanfodol yn y rhyfeloedd fu’n gyfrwng i ffurfio Cymru.
Ar un adeg roedd y castell yn gartref brenhinol Dafydd ap Gruffudd ac yn dilyn cyrch ganddo ar Gastell Penarlâg gerllaw ysgogwyd Edward I, brenin Lloegr, yntau i drefnu ymosodiad ar raddfa fawr. Erbyn 1282 roedd Dinbych yn nwylo Cadlywydd y brenin, Henry de Lacy.
Bwriodd hwnnw ati’n syth i godi caer enfawr o garreg ynghyd â muriau tref eang yn union ar ben cadarnle Dafydd. Ond doedd y Cymry ddim am ildio.
Ymosodwyd ar y castell oedd ar hanner ei godi ac fe’i cipiwyd ond, erbyn iddyn nhw ei adennill, roedd y Saeson wedi newid y glasbrint.
Codwyd y llenfuriau’n llawer uwch, ychwanegwyd y porthdy mawreddog a gosodwyd ‘cyrchborth’ dyfeisgar yn ei le – drws cyfrinachol diogel – fel y gallai unrhyw amddiffynwyr sleifio allan mewn argyfwng.