Yn gyntaf, gofynnwn i chi ddarllen ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.

Gweler y dudalen Cysylltu â Ni i roi unrhyw sylwadau cyffredinol neu adborth am Croeso.cymru neu i adrodd am broblemau gyda’r cynnwys.

I adrodd am broblemau gyda’r rhestrau cynnyrch, anfonwch e-bost at product.database@gov.wales

Ychwanegu neu ddiweddaru gwybodaeth am gynnyrch twristiaeth ar ein gwefan

Os ydych chi'n berchennog neu'n ddarparwr cynnyrch twristiaeth, fe welwch gyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan benodol ar gyfer y Diwydiant Croeso Cymru.

Mae chwiliad gwefan Croeso Cymru yn cynnwys llety, gweithgareddau, atyniadau ac digwyddiadau. Yn dibynnu ar natur eich busnes, efallai y bydd angen i chi fodloni meini prawf penodol er mwyn ychwanegu rhestr cynnyrch twristiaeth ar wefan Croeso Cymru, neu gael eich cynnwys yn ein cynnwys.

Mae angen i fusnesau llety fod wedi’u hachredu naill ai gan Croeso Cymru neu’r AA. Darllenwch ragor o wybodaeth am achredu graddio gyda Croeso Cymru ar wefan y Diwydiant.

Argymhellir bod atyniadau’n cymryd rhan yn y Cynllun Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr. Darganfyddwch ragor am y Cynllun Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr ar wefan y Diwydiant.

Os ydych chi’n ddarparwr gweithgareddau, darllenwch y wybodaeth am Gynllun Sicrwydd Gweithgareddau Antur Croeso Cymru ar wefan y Diwydiant, a fydd yn rhoi’r wybodaeth berthnasol i chi i benderfynu a oes angen sicrwydd ai peidio.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost at: quality.tourism@gov.wales

Digwyddiadau - rhaid i ddigwyddiadau fodloni ein Meini Prawf Digwyddiadau. Os yw eich digwyddiad yn bodloni’r meini prawf hyn, gallwch ychwanegu rhestr drwy system rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth.

Nid yw lleoliadau bwyd a diod wedi’u cynnwys yn ein rhestrau cynnyrch twristiaeth ond byddant yn cael eu hystyried ar gyfer cynnwys golygyddol, lle bo’n berthnasol ac yn ôl disgresiwn y tîm cynnwys, os oes ganddynt FHR o 4 neu 5.

Ychwanegu rhestr cynnyrch twristiaeth

I ychwanegu rhestr cynnyrch ar wefan Croeso Cymru bydd angen cyfrif arnoch i ddefnyddio system rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth. Os nad oes gennych gyfrif, neu os hoffech gymorth i ddefnyddio’r system, anfonwch e-bost at visitwalessupport@granicus.com, neu ffoniwch 0330 808 9410.

Cyn creu rhestr, gweler Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth Cymru a’r telerau ac amodau cyfreithiol.

Diweddaru rhestr

Gallwch ddiweddaru’r manylion yn eich rhestr cynnyrch ar-lein gan ddefnyddio eich cyfrif ar system rheoli Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth. Os nad oes gennych gyfrif, neu os hoffech gymorth i ddefnyddio’r system, anfonwch e-bost at visitwalessupport@granicus.com, neu ffoniwch 0330 808 9410.

Os ydych yn berchennog busnes hunanarlwyo ac yn ei hysbysebu drwy asiantaeth, bydd eich manylion ar Croeso Cymru yn cael eu diweddaru gan yr asiantaeth.

Cyfleoedd fasnach teithio a marchnad B2B

Os ydych yn gweithio gyda’r fasnach deithio a marchnad digwyddiadau busnes, gall eich busnes hefyd gael ei restru ar ein gwefannau Fasnach Deithio a Meet in Wales.

Am ragor o wybodaeth am weithio gyda Croeso Cymru o ran cyfleoedd B2B a TXGB, cysylltwch â: traveltradewales@gov.wales

Neu ewch i wefan y Diwydiant Twristiaeth.

Cyfryngau cymdeithasol

Rydym ni’n dilyn canllawiau defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Ewch i’r wefan am rhagor o wybodaeth ynghylch argaeledd a rheolau.

Dilynwch gyfri Instagram Croeso Cymru. Tagiwch y cyfri, neu ychwanegwch #CroesoCymru i’ch lluniau, ac fe ail-bostiwn y goreuon.

Dilynwch gyfri Facebook Croeso Cymru. Tagiwch y cyfri, neu ychwanegwch #CroesoCymru i’ch lluniau, ac fe ail-bostiwn y goreuon.

Dilynwch gyfri X Croeso Cymru. Yna anfonwch @ neges neu defnyddiwch yr hashnod #CroesoCymru. Fe ail-drydarwn ni’r pethau da!

Straeon cysylltiedig