About The Cliff Hotel & Spa
Yn sefyll ar benrhyn naturiol o 30 erw mewn un o leoliadau arfordirol mwyaf trawiadol Cymru, mae Gwesty a Sba y Cliff yn fan cychwyn delfrydol i archwilio Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, gyda golygfeydd syfrdanol dros Fae Ceredigion, Traeth Poppit ac aber yr afon Teifi, a thîm ymroddgar sy’n barod i’ch croesawu’n gynnes a sicrhau ymweliad cysurus.
Mae dewis eang o wahanol fathau o ystafelloedd ymhlith y 76 sydd ar gael, gan gynnwys ystafelloedd sengl, ystafelloedd teulu, opsiynau cyfeillgar i gŵn, ac ystafelloedd moethus gyda balconïau a thybiau poeth. Mae gan bob ystafell gyfleusterau ‘en-suite’, teledu smart, a chyfleusterau te a choffi - popeth sydd ei angen ar gyfer ymlacio’n llwyr.
Mae’r gwesty’n cynnig golygfeydd panoramig, llwybrau cerdded ar hyd y clogwyni, cilfachau cudd a thraethau bach, ynghyd ag amrywiaeth o anturiaethau cyfagos - o deithiau cwch o amgylch Bae Ceredigion i’n cwrs golff 9-twll ar y clogwyn. Gall gwesteion hamddena yn ein sba heddychlon tanddaearol, sy’n cynnwys sawna, ystafell stêm, twb poeth, gwelyau wedi’u gwresogi, ystafell ymlacio a dewis eang o driniaethau, ynghyd ag ystafell ffitrwydd.
Rydym yn lleoliad unigryw ar gyfer priodasau ac achlysuron arbennig, gyda dwy ystafell drwyddedig ar gyfer seremonïau priodas ac ystafell ddawnsio sy’n cynnig bar a theras breifat gyda chefndir arfordirol godidog. Mae bwydlenni Bwyty Carreg yn dathlu cynhwysion ffres, tymhorol a lleol, tra bod Bar & Lolfa y Point yn fan perffaith i fwynhau coctêl wrth i’r haul fachlud.
P’un ai ar gyfer gwyliau teuluol, seibiant rhamantus, dathliad arbennig neu daith fusnes, mae Gwesty a Sba y Cliff yn encil arfordirol moethus. Wedi’i amgylchynu gan olygfeydd môr dramatig ac yn ymroddedig i wasanaeth eithriadol, rydym yn darparu’r lleoliad - a’r gofal - i greu atgofion oes.