Accommodation

Meadow Springs Country & Leisure Park

A fabulous drone shot of Meadow Springs, nestling in the beautiful Trannon Valley.
Mae Parc Gwledig a Hamdden Meadow Springs, sy’n agor ei ddrysau ym mis Rhagfyr eleni, yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i'w ddatblygiad 5* newydd sbon yng nghanol cefn gwlad Canolbarth Cymru.
Graddfa: 5 out of 5

Accommodation Information

Get in touch

Location:
Trefeglwys, Caersws, Powys
Telephone:
01686 430654
Email:
enquiries@meadowsprings.co.uk
Website:
https://meadowsprings.co.uk/

Found a problem with this page?
Report it here

product.database@gov.wales

Caters for

  • Lletygarwch Corfforaethol
  • Ciniawau
  • Cyfarfodydd / Cynadleleddau / Digwyddiadau
  • Adeiladu Tîm / Diwrnodau Corfforaethol

Facilities

  • Bar Trwyddedig
  • Bwyty
  • Croesewir plant
  • Croeso i Anifeiliaid Anwes
  • Cyfleusterau Clyw
  • Cyfleusterau Gweledol
  • Cyfleusterau Hygyrchedd
  • Cyfleusterau Symudedd
  • Cyfleusterau i Bobl Anabl
  • Maes parcio
  • Nosweithiau unigol ar gael
  • Parcio i Fysiau
  • WiFi
  • Wifi ar gael
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau

Prices

  • 2 Cabannau pren/Llysoedd £120.00 - £180.00 Yr uned y noson

Take a look around

About Meadow Springs Country & Leisure Park

Wrth gynllunio eich gwyliau perffaith, bydd ein cyfleusterau pum seren moethus yn golygu y byddwch chi a'ch teulu’n gysurus. O Gabanau Gwyliau moethus ar Lan y Dŵr a Charafanau Statig i Leiniau ar gyfer Carafanau Teithio pob tywydd gyda gwasanaethau cysylltiedig, mae'r tri datblygiad arbennig wedi'u cynllunio i greu gwyliau cofiadwy, pleserus ac ymlaciol ym Mharc Gwledig a Hamdden Meadow Springs
Mae Parc Gwledig a Hamdden 40-erw Meadow Springs, sydd wedi'i leoli o fewn ardal 300 erw, yn edrych draw ar dirwedd a golygfeydd godidog Canolbarth Cymru. Ar ôl noson braf o gwsg, cewch edrych ymlaen at gamu y tu allan i'ch llety a mwynhau golygfeydd hyfryd o gefn gwlad ar stepen eich drws. Mae Parc Gwledig a Hamdden Meadow Springs yn ddelfrydol i bobl sy'n hoff o fyd natur a gweithgareddau awyr agored, ac oddi yma gallwch weld yn bell dros fryniau gwyrdd a dyffrynnoedd ysblennydd Cymru. Efallai bod gwyliau hefyd yn cynnig seibiant haeddiannol rhag coginio. Os felly, mae ein bar a'n bwyty dafliad carreg i ffwrdd ar y safle, gan weini bwyd lleol wedi'i goginio gartref bob dydd i ddiwallu'ch holl anghenion bwyta. P'un a ydych chi'n dod draw i gael cinio ysgafn, pryd o fwyd arbennig gyda'r teulu i gyd, neu i fwynhau aperitif gyda'r nos, mae dewis i chi.
Ym Mharc Gwledig a Hamdden Meadow Springs, rydym yn croesawu'r teulu cyfan. Gydag ardal chwarae awyr agored fawr a dewis eang o weithgareddau ar gael, gallwch eistedd yn braf ac ymlacio gyda choffi wrth i'r plant chwarae. Nid oes rhaid i unrhyw un golli allan ar yr hwyl yn ystod eu gwyliau ym Mharc Gwledig a Hamdden Meadow Springs; bydd hyd yn oed eich ci’n cael amser anhygoel gan fod lle penodol i fynd â chŵn am dro a chawod arbennig i gŵn ar y safle! Mae gan ein parc gyfleusterau hygyrch i ddarparu ar gyfer anghenion ein holl westeion ac mae staff cyfeillgar wrth law bob amser i sicrhau eich bod yn cael y gwyliau gorau posibl.
Gyda phob math o weithgareddau i roi cynnig arnyn nhw a lleoedd i grwydro, mae’r dewis yn ddiddiwedd: un diwrnod efallai y byddwch chi’n pysgota yn yr ½ milltir o lynnoedd preifat sydd ar y safle, a drannoeth, byddwch yn mynd ar un o’r llwybrau cerdded sy’n dechrau o’r safle ac yn mynd drwy ardaloedd gwledig hardd. Mae digonedd o lwybrau beicio a llwybrau natur sy’n gallu eich arwain i berfedd cefn gwlad Cymru. Ar ôl i chi orffen crwydro am y dydd, bydd Parc Gwledig a Hamdden Meadow Springs yn barod i’ch croesawu’n ôl i dreulio noson gyffyrddus yn eich llety gwyliau.

Quality family time spent at Meadow Springs Country & Leisure Park. Set within the beautiful Mid Wales countryside, with nearly 4 miles of country wal
Family time

Languages

  • Siarad Saesneg
  • Siaredir Cymraeg
Meadow Springs Country & Leisure Park

Lleoliad

52.51133, -3.50785

Like what you see at Meadow Springs Country & Leisure Park
NOTE: The above information is generated by third-party data provided by Meadow Springs Country & Leisure Park. © Meadow Springs Country & Leisure Park 2026.

Please note that the Welsh Government is not responsible for information supplied by third parties and/or the content of external websites. Please make your own enquiries and assessments as to the suitability and quality of services being offered by third party providers.

If you wish to raise an issue with the product displayed above, please contact us via product.database@gov.wales

Straeon cysylltiedig