Sut i Ymgeisio
Drwy lenwi ffurflen ar-lein y raffl fawr yn www.croeso.cymru/cy/rafflau/yh49 cewch gyfle i ennill gwyliau byr yng Nghymru. Mae'r wobr yn cynnwys tocynnau trên ar lwybrau Great Western Railway (GWR) i Abertawe a dwy noson i ddau berson yn Morgans Townhouse gan gynnwys brecwast y ddau fore.
Telerau ac amodau tocynnau Great Western Railway
- Mae'r wobr yn cynnwys tocyn trên dwyffordd dosbarth safonol i ddau oedolyn.
- Dim ond ar drenau Great Western Railway y mae'r tocynnau yn ddilys.
- Mae'r tocynnau yn ddibynnol ar argaeledd, ac ni ellir eu cyfnewid na'u trosglwyddo.
- Mae'r tocynnau yn ddilys i'w defnyddio tan 30 Tachwedd 2027.
- Bydd y talebau'n cael eu postio atoch chi ar ôl derbyn eich dyddiadau teithio.
Telerau ac amodau talebau The Morgans Collection
- Un taleb i ddau berson aros dros nos gyda brecwast, yn ddilys ar gyfer ystafell 'deluxe' yn Morgans Townhouse, rhan o The Morgans Collection.
- Mae'r daleb hon yn cynnwys cod cyfeirio unigryw, dylid ond ei ddefnyddio un waith, ni ellir ei gyfnewid am arian, ei gyfnewid os caiff ei golli nac ei drosglwyddo. Dylech ddyfynnu rhif cyfeirnod y daleb rhodd. Mae'r holl ddyddiadau a mathau o ystafelloedd yn dibynnu ar argaeledd. *I archebu, naill ai ffoniwch: 01792 484848 neu anfonwch e-bost i reception@themorganscollection.co.uk * Mae'r holl ddyddiadau a mathau o ystafelloedd yn dibynnu ar argaeledd.**Mae'n eithrio dyddiadau priodasau cyfyngedig yn The Morgans Collection, Nos Galan a Gwyliau Banc.
Mae'r telerau ac amodau canlynol yn gymwys:
Enw a Chyfeiriad yr Hyrwyddwr
Croeso Cymru (Llywodraeth Cymru), Tîm Twristiaeth a Marchnata, Grŵp Menter, Cysylltedd ac Ynni, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (yr “Hyrwyddwr”) cyfeiriad e-bost; gwybodaeth@croeso.cymru.
Bydd ceisiadau ar gyfer y Raffl hon yn cael eu derbyn o 8:00am ar 12fed Awst 2026 (y “Dyddiad Agor”).
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5:00pm ar 7fed Medi 2026 (y "Dyddiad Cau").
- Er mwyn cystadlu yn y Raffl Fawr hon, rhaid i'r cystadleuydd lenwi a chyflwyno'r ffurflen ymgeisio ar-lein sydd i'w chael yn www.croeso.cymru/cy/rafflau/yh49 erbyn y Dyddiad Cau.
- Mae'n rhaid i'r rhai sy'n cystadlu fod yn fodau dynol, yn byw ym Mhrydain neu Gweriniaeth Iwerddon, dros 18 oed ac ni chânt hwy (nac aelodau o'u teulu) fod yn gyflogedig gan Lywodraeth Cymru nac yn gyflogeion asiantwyr neu gyflenwyr yr Hyrwyddwr neu ei gwmnïau dal neu ei is-gwmnïau, sydd â chysylltiad proffesiynol â'r raffl fawr neu'r broses o'i gweinyddu. Wrth gystadlu am y wobr, rydych yn cadarnhau eich bod yn gymwys i wneud hynny ac yn gymwys i hawlio'r wobr. Efallai y bydd yr Hyrwyddwr yn gofyn i chi ddarparu prawf eich bod yn gymwys i gystadlu am y wobr.
Dim ond unwaith y gall rhywun gystadlu. Ni chewch gystadlu ar y cyd â rhywun arall. Ni fydd gennych hawl i gystadlu ar ran berson arall.
Drwy gystadlu, rydych yn cydnabod mai'r Hyrwyddwr fydd yn berchen ar bob hawlfraint, preifatrwydd, cyhoeddusrwydd a phob hawl arall sy'n gysylltiedig â'r cais. Bydd y cystadleuwyr felly yn rhoi pob hawlfraint fyd-eang a hawliau tebyg yn eu ceisiadau i'r Hyrwyddwr ac yn ildio pob hawl foesol yn eich cais i ennill y raffl ac i'r cais hwnnw ac fel arall pob hawl sy'n codi mewn cysylltiad â'ch cais y gallwch fod â hawl iddo nawr neu ar ryw adeg yn y dyfodol.
Ni fydd unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y Dyddiad Cau yn cael eu cynnwys yn y raffl. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd ar ôl y Dyddiad Cau, p'un a ydynt wedi mynd ar goll, bod oedi wedi bod, eu bod wedi'u difetha neu unrhyw beth arall, a ph'un a yw hynny oherwydd anawsterau neu namau technegol.
Ni fydd ceisiadau heb eu llenwi'n llawn na rhai sy'n anodd eu deall yn gymwys ar gyfer y Raffl Fawr.
Ni fydd yr Hyrwyddwr yn derbyn prawf trawsyrru fel prawf bod rhywun wedi cystadlu yn y Raffl Fawr.
Drwy gyflwyno cais i'r Raffl Fawr rydych wedi rhwymo i ddilyn y telerau ac amodau hyn. Drwy ymuno â'r raffl, rydych yn cytuno i unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych chi gyda'r cais gael ei chadw a'i defnyddio gan yr Hyrwyddwr yn unig neu ei asiantwyr a'i gyflenwyr i weinyddu'r raffl fawr.
Un wobr sydd i'w hennill: gwyliau byr yng Nghymru. Mae'r wobr yn cynnwys tocynnau trên ar lwybrau Great Western Railway (GWR) i Abertawe a dwy noson i ddau berson yn Morgans Townhouse gan gynnwys brecwast y dau fore.
Bydd gan y cystadleuydd sy'n cael ei ddewis i ennill y Wobr yn unol ag amod 16 (yr "Enillydd") yr hawl i ddewis un person i ymuno ag ef ar y gwyliau i ddau yng Nghymru (y "Gwestai").
Nid yw'n bosibl trosglwyddo'r Wobr i rywun arall [ac nid yw'n cynnwys yswiriant teithio, costau unrhyw deithio i faes awyr neu orsaf, diodydd, arian gwario, treth na threuliau personol. Cyfrifoldeb yr Enillydd yw unrhyw gostau eraill, gan gynnwys unrhyw gostau teithio i faes awyr neu orsaf ac unrhyw drethi a godir sy'n ychwanegol at y rhai a nodir uchod ac sy'n ychwanegol at y Wobr.]
Ni fydd arian parod yn cael ei gynnig yn lle unrhyw wobr a roddir. Nid yw'r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os na allwch dderbyn y wobr.
Rhaid i'r gwyliau a ddisgrifir yn y Wobr gael eu cymryd o fewn 6 mis i ddyddiad hysbysu'r enillydd. Bydd y Wobr yn annilys ar ôl 6 mis o ddyddiad hysbysu'r enillydd.
Bydd enillydd y Raffl Fawr yn cael ei ddewis ar hap gan yr Hyrwyddwr cyn 11eg Medi 2026 o blith yr holl geisiadau a ddaeth i law erbyn y Dyddiad Cau.
Bydd penderfyniad yr Hyrwyddwr yn derfynol ac ni thrafodir ac nid atebir unrhyw ohebiaeth am y penderfyniad hwn.
Mae'r Hyrwyddwr yn cynnal y raffl fawr hon fel rhan o'i weithgareddau hyrwyddo. Bydd yr Hyrwyddwr yn gofyn i'r enillydd gael ei ffotograff wedi'i dynnu a'i ffilmio ar ôl y gystadleuaeth at ddibenion hyrwyddo a gellir defnyddio'r ffotograffau neu'r ffilm ar wefan yr Hyrwyddwr, ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar unrhyw blatfform hyrwyddo arall. Os yw'r enillydd yn gwrthwynebu cael ei ffotograff wedi'i dynnu a'i ffilmio, rhaid i'r Hyrwyddwr barhau i ddarparu cyfenw a sir yr Enillydd i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu ar gais i nodi bod dyfarniad dilys wedi digwydd.
Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost ar ôl i'r raffl fawr gael ei thynnu, sef yr e-bost a roddwyd wrth gystadlu. Os na fydd yr enillydd yn ateb yr e-bost hwn o fewn 3 diwrnod ar ôl anfon yr e-bost ac yn hysbysu'r Hyrwyddwr y bydd yn derbyn y Wobr, yna bydd gan yr Hyrwyddwr yr hawl i gynnig y Wobr i ymgeisydd arall a gaiff ei ddewis ar hap o blith yr ymgeiswyr sy'n weddill. Bydd yr enillydd yn derbyn y Wobr o fewn amser rhesymol wedi hynny.
Pan fydd yr Hyrwyddwr yn dewis yr enillydd, daw hynny â'r raffl i ben.
Diogelu Data
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni. Er mwyn ei gwneud yn haws i chi gystadlu yn y Raffl Fawr, bydd yr Hyrwyddwr yn casglu'r wybodaeth amdanoch chi (Data Personol) y byddwch wedi ei darparu ar y ffurflen ymgeisio ar-lein. Os nad ydych wedi cydsynio i ni ddefnyddio eich Data Personol er mwyn anfon cyfathrebiadau eraill atoch a/neu ddefnyddio eich delweddau drwy ffotograff neu ffilm, byddwn ond yn defnyddio eich Data Personol at ddibenion cystadlu yn y Raffl Fawr. Os byddwch yn ennill, gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i ni rannu eich Data Personol â phartneriaid trydydd parti wedi'u henwi sy'n gyfrifol am ddarparu'r wobr. Byddwn yn cadw eich Data Personol am 28 diwrnod o'r dyddiad cau ac yna yn eu dileu. Am ragor o wybodaeth ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud â'ch Data Personol, os ydych wedi cydsynio i'ch Data Personol gael eu defnyddio i anfon cyfathrebiadau eraill atoch, edrychwch ar yr Hysbysiad Preifatrwydd yng Nghylchlythyr yr Hyrwyddwr sydd ar gael ar-lein yma. Os ydych wedi cytuno i dderbyn cyfathrebiadau gan ein partneriaid trydydd parti, bydd eich Data Personol yn cael eu rhannu â hwy. Nid ydym yn gyfrifol am yr hyn y maent yn ei wneud gyda'ch Data Personol a dylech eu holi ynghylch eu prosesau diogelu data eu hunain.
Cyfyngiadau a gofynion
Bydd yr Enillydd yn gyfrifol am sicrhau y gall ef a'i Westai deithio a bod ganddynt basbortau dilys, trwyddedau gyrru, unrhyw fisâu angenrheidiol a dogfennau teithio ar gyfer y gwyliau dan sylw ar y dyddiadau teithio a nodir. Nid yw'n bosibl newid y dyddiadau ar ôl hysbysu'r Hyrwyddwr.
Mae'r raffl fawr am ddim. Nid oes angen prynu unrhyw beth. Drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer y raffl, mae'n bosibl y bydd yn rhaid talu costau darparwr y rhyngrwyd.
Cyfreithiau Cymru a Lloegr fydd yn llywodraethu ac yn llunio'r telerau ac amodau hyn.
Dylai unrhyw ymholiadau sy'n gysylltiedig â'r raffl fawr hon gael eu cyflwyno i'r Hyrwyddwr yn y cyfeiriad a ddisgrifir yn Amod 1.
I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd yr Hyrwyddwr, ei asiantwyr na'i ddosbarthwyr mewn unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol neu'n atebol i dalu iawndal i'r enillydd neu dderbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, difrod, anaf personol na marwolaeth sy'n digwydd o ganlyniad i dderbyn y wobr ac eithrio lle yr achosir hynny gan esgeulustod yr Hyrwyddwr, ei asiantwyr neu ddosbarthwyr neu esgeulustod ei gyflogeion. Nid effeithir ar eich hawliau statudol.
Os oes unrhyw reswm i gredu bod y telerau ac amodau hyn wedi'u torri, gall yr Hyrwyddwr, yn ôl ei ddisgresiwn, gadw'r hawl i'ch eithrio rhag cymryd rhan yn y raffl fawr.
Ceidw'r Hyrwyddwr yr hawl i ddirymu, atal, canslo neu ddiwygio'r raffl fawr os bydd angen gwneud hynny.