Sut i Gystadlu
Drwy lenwi ffurflen ar-lein y raff fawr yn www.croeso.cymru/cy/wwe cewch gyfle i ennill DAU docyn i fynd i WWE ‘Clash at The Castle’ yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, ddydd Sadwrn, 3 Medi 2022.
Mae'r wobr yn cynnwys: -
- DAU docyn i fynychu WWE ‘Clash at The Castle’ a gynhelir yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, 3 Medi 2022
- Llety un noson i DDAU yng Ngwesty'r Parkgate yng Nghaerdydd ar 3 Medi 2022 mewn ystafell Deluxe King. Mae brecwast wedi ei gynnwys.
- Teithio i Stadiwm Principality.
Mae telerau ac amodau eraill ar gael ar gyfer WWE a Gwesty Parkgate
Mae'r telerau ac amodau canlynol yn gymwys:
Enw a Chyfeiriad yr Hyrwyddwr
1. Croeso Cymru (Llywodraeth Cymru), Tȋm Twristiaeth a Marchnata Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (yr “Hyrwyddwr”) cyfeiriad e-bost; gwybodaeth@croeso.cymru.
2. Bydd ceisiadau ar gyfer y Raffl hon yn cael eu derbyn o 08.00 ddydd Mercher 20fed Ebrill 2022 (y “Dyddiad Agor”).
3. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5:00p.m. dydd Iau 30ain Mehefin (y "Dyddiad Cau").
4. Er mwyn cystadlu yn y Raffl Fawr hon, rhaid i'r cystadleuydd lenwi a chyflwyno'r ffurflen ymgeisio ar-lein sydd i'w chael yn www.croeso.cymru/cy/wwe erbyn y Dyddiad Cau.
5. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n cystadlu fod yn fodau dynol, yn byw ym Mhrydain neu Ogledd Iwerddon, dros 18 oed ac ni chânt hwy (nac aelodau o'u teulu) fod yn gyflogedig gan Lywodraeth Cymru nac yn gyflogeion asiantwyr neu gyflenwyr yr Hyrwyddwr neu ei gwmnïau dal neu ei is-gwmnïau, sydd â chysylltiad proffesiynol â'r raffl fawr neu'r broses o'i gweinyddu.
6. Dim ond unwaith y gall rhywun gystadlu. Ni chewch gystadlu ar y cyd â rhywun arall. Ni fydd gennych hawl i gystadlu ar ran person arall.
7. Drwy gystadlu, rydych yn cydnabod mai'r Hyrwyddwr fydd yn berchen ar bob hawlfraint, preifatrwydd, cyhoeddusrwydd a phob hawl arall sy'n gysylltiedig â'r cais. Bydd y cystadleuwyr felly yn rhoi pob hawlfraint fyd-eang a hawliau tebyg yn eu ceisiadau i'r Hyrwyddwr ac yn ildio pob hawl foesol yn eich cais i ennill y raffl ac i'r cais hwnnw ac fel arall pob hawl sy'n codi mewn cysylltiad â'ch cais y gallwch fod â hawl iddo nawr neu ar ryw adeg yn y dyfodol.
8. Ni fydd unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y Dyddiad Cau yn cael eu cynnwys yn y raffl. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd ar ôl y Dyddiad Cau, p'un a ydynt wedi mynd ar goll, bod oedi wedi bod, eu bod wedi'u difetha neu unrhyw beth arall, a ph'un a yw hynny oherwydd anawsterau neu namau technegol.
9. Ni fydd ceisiadau heb eu llenwi'n llawn na rhai sy'n anodd eu deall yn gymwys ar gyfer y Raffl Fawr.
10. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn derbyn prawf trawsyrru fel prawf bod rhywun wedi cystadlu yn y Raffl Fawr.
11. Drwy gyflwyno cais i'r raffl fawr rydych wedi rhwymo i ddilyn y telerau ac amodau hyn. Drwy ymuno â'r raffl, rydych yn cytuno i unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych chi gyda'r cais gael ei chadw a'i defnyddio gan yr Hyrwyddwr yn unig neu ei asiantwyr a'i gyflenwyr i weinyddu'r raffl fawr.
Un wobr sydd i'w hennill:
- DAU docyn i fynd i WWE ‘Clash at The Castle’ a gynhelir yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, 3 Medi 2022
- Llety un noson i DDAU yng Ngwesty'r Parkgate yng Nghaerdydd ar 3 Medi 2022 mewn ystafell Deluxe King. Mae brecwast wedi ei gynnwys.
- Teithio i Stadiwm Principality.
Mae telerau ac amodau eraill ar gael ar gyfer WWE a Gwesty Parkgate
12. Bydd gan y cystadleuydd sy'n cael ei ddewis i ennill y Wobr yn unol ag amod 16 (yr "Enillydd") yr hawl i ddewis un person i ymuno ag ef ar y gwyliau i ddau yng Nghymru (y "Gwestai").
13. Nid yw'n bosibl trosglwyddo'r Wobr, ni ellir cael ad-daliad [ac nid yw'n cynnwys yswiriant teithio, costau unrhyw deithio i faes awyr neu orsaf, diodydd, arian gwario, treth na threuliau personol. Cyfrifoldeb yr Enillydd yw unrhyw gostau eraill, gan gynnwys unrhyw gostau teithio i faes awyr neu orsaf ac unrhyw drethi a godir sy'n ychwanegol at y rhai a nodir uchod ac sy'n ychwanegol at y Wobr.]
14. Ni fydd arian parod yn cael ei gynnig yn lle unrhyw wobr a roddir. Nid yw'r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os na allwch dderbyn y wobr.
15. Rhaid i'r gwyliau a ddisgrifir yn y Wobr gael eu cymryd ar y dyddiadau a nodir ym manylion y wobr uchod er mwyn bod yn bresennol ym Mhrif Ddigwyddiad Byw WWE.
16. Bydd enillydd y Raffl Fawr yn cael eu dewis ar hap gan yr Hyrwyddwr ar neu cyn 4ydd Gorffennaf 2022 o blith yr holl geisiadau a ddaeth i law erbyn y Dyddiad Cau.
17. Bydd penderfyniad yr Hyrwyddwr yn derfynol ac ni thrafodir ac nid atebir unrhyw ohebiaeth am y penderfyniad hwn.
18. Mae'r Hyrwyddwr yn rhedeg y raffl hon fel rhan o'i weithgareddau hyrwyddo. Bydd yr Hyrwyddwr yn gofyn i dynnu llun a ffilmio yr enillydd ar ôl y raffl at ddibenion hyrwyddo i'w defnyddio o bosibl ar wefan yr Hyrwyddwr, y cyfryngau cymdeithasol, ac unrhyw blatfform hyrwyddo arall. Os yw'r Enillydd yn gwrthwynebu cael tynnu ei lun a'i ffilmio, rhaid i'r Hyrwyddwr barhau i ddarparu cyfenw a sir yr Enillydd i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu ar gais i ddangos bod dyfarniad dilys wedi'i gynnal.
Hysbysu'r enillydd a derbyn y Wobr
19. Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost ar ôl i'r raffl fawr gael ei thynnu, sef yr e-bost a roddwyd wrth gystadlu. Os na fydd yr enillydd yn ateb yr e-bost hwn o fewn 7 diwrnod ar ôl anfon yr e-bost ac yn hysbysu'r Hyrwyddwr y bydd yn derbyn y Wobr, yna bydd gan yr Hyrwyddwr yr hawl i gynnig y Wobr i ymgeisydd arall a gaiff ei ddewis ar hap o blith yr ymgeiswyr sy'n weddill. Bydd yr enillydd yn derbyn y Wobr o fewn amser rhesymol wedi hynny.
20. Pan fydd yr Hyrwyddwr yn dewis yr enillydd, daw hynny â'r raffl i ben.
Diogelu Data
21. Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni. Er mwyn ei gwneud yn haws i chi gystadlu yn y Raffl Fawr, bydd yr Hyrwyddwr yn casglu'r wybodaeth amdanoch chi (Data Personol) y byddwch wedi ei darparu ar y ffurflen ymgeisio ar-lein. Os nad ydych wedi cydsynio i ni ddefnyddio eich Data Personol er mwyn anfon cyfathrebiadau eraill atoch ac/neu ddefnyddio eich delweddau drwy ffotograff neu ffilm, byddwn ond yn defnyddio eich Data Personol at ddibenion cystadlu yn y Raffl Fawr. Os byddwch yn ennill, gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i ni rannu eich Data Personol â phartneriaid trydydd parti wedi'u henwi sy'n gyfrifol am ddarparu'r wobr. Byddwn yn cadw eich Data Personol am 28 diwrnod o'r dyddiad cau ac yna yn eu dileu. Am ragor o wybodaeth ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud â'ch Data Personol, os ydych wedi cydsynio i'ch Data Personol gael ei ddefnyddio i anfon cyfathrebiadau eraill atoch, edrychwch ar yr Hysbysiad Preifatrwydd yng Nghylchlythyr yr Hyrwyddwr sydd ar gael ar-lein. Os ydych wedi cytuno i dderbyn cyfathrebiadau gan ein partneriaid trydydd parti, bydd eich Data Personol yn cael eu rhannu â hwy. Nid ydym yn gyfrifol am yr hyn y maent yn ei wneud gyda'ch Data Personol a dylech eu holi ynghylch eu prosesau diogelu data eu hunain.
Cyfyngiadau a gofynion
22. Bydd yr Enillydd yn gyfrifol am sicrhau y gall ef a'i Westai deithio ar y dyddiadau teithio a nodir. Nid yw'n bosibl newid y dyddiadau ar ôl hysbysu'r Hyrwyddwr.
Cyffredinol
23. Mae'r raffl fawr am ddim. Nid oes angen prynu unrhyw beth. Drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer y raffl, mae'n bosibl y bydd yn rhaid talu costau darparwr y rhyngrwyd.
24. Cyfreithiau Cymru a Lloegr fydd yn llywodraethu ac yn llunio'r telerau ac amodau hyn.
25. Dylai unrhyw ymholiadau sy'n gysylltiedig â'r raffl fawr hon gael eu cyflwyno i'r Hyrwyddwr yn y cyfeiriad a ddisgrifir yn Amod 1.
26. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd yr Hyrwyddwr, ei asiantwyr na'i ddosbarthwyr mewn unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol neu'n atebol i dalu iawndal i'r enillydd neu dderbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, difrod, anaf personol na marwolaeth sy'n digwydd o ganlyniad i dderbyn y wobr ac eithrio lle yr achosir hynny gan esgeulustod yr Hyrwyddwr, ei asiantwyr neu ddosbarthwyr neu esgeulustod ei gyflogeion. Ni effeithir ar eich hawliau statudol.
27. Os oes unrhyw reswm i gredu bod y telerau ac amodau hyn wedi'u torri, gall yr Hyrwyddwr, yn ôl ei ddisgresiwn, gadw'r hawl i'ch eithrio rhag cymryd rhan yn y raffl fawr.
28. Ceidw'r Hyrwyddwr yr hawl i ddirymu, atal, canslo neu ddiwygio'r raffl fawr os bydd angen gwneud hynny.