About Mwyngloddiau Aur Dolaucothi
Archwiliwch yr unig fwynglawdd aur Rhufeinig y gwyddwn amdano ym Mhrydain
Mae’r mwyngloddiau aur unigryw hyn wedi’u gosod ymysg bryniau coediog mynyddoedd Cambria, uwchben Cwm hardd Cothi.
2,000 o flynyddoedd yn ôl, gadawodd y Rhufeiniaid pwerus gipolwg o’u dulliau cloddio am aur. Ailddechreuodd y gwaith cloddio yn y 19eg a'r 20fed ganrif, cyn i’r mwyngloddiau gau am y tro olaf ym 1938.
Dewiswch o blith tair taith danddaearol dan arweiniad (rhaid archebu ymlaen llaw).
Mae’r daith Rufeinig yn mynd â chi i fwynglawdd Rhufeinig wedi’i lifoleuo (croeso i gŵn)
Mae’r Daith Wastad yn addas i unigolion sydd â symudedd mwy cyfyngedig
Mae’r Daith Cloddio’r Drwy’r Oesoedd yn mynd â chi i weithfa Fictoraidd dywyll.
Ni chaniateir cario plant na phlant dan 1 M mewn taldra (tua 5 mlwydd oed) dan ddaear. Croeso i gŵn, ond ar y daith Rufeinig yn unig, am resymau diogelwch.
Noder, ar wahân i’r Daith Wastad, mae teithiau tanddaearol yn cynnwys grisiau a llethrau serth. Mae dillad priodol ac esgidiau addas a chadarn yn hanfodol.
Mae Ystâd Dolaucothi, o gwmpas y mwynglawdd, yn frith o natur a bywyd gwyllt ac mae'n cynnig 25 KM o lwybrau cerdded i'w harchwilio.
Mae tocynnau mynediad at y safle yn unig ar gael heb archebu ymlaen llaw (mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Mae digon i’w ddarganfod ar Iard y Mwynglawdd, gan gynnwys ystod o beiriannau cloddio a siediau o’r 1930au, a’n nant a’n hardal panio aur hygyrch, newydd. Gafaelwch mewn padell ac ewch i chwilio am aur, pwy a ŵyr beth fyddwch yn ei ganfod! Croeso i blant a chŵn.